Cardiau twyllodrus
Mae twyll cardiau'n broblem ddifrifol i'r diwydiant adeiladu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i gasglu tystiolaeth a dwyn troseddwyr i gyfrif. Rydym hefyd wedi ymrwymo i atal twyll.
Sut i adnabod cerdyn twyllodrus
Mae nifer o nodweddion diogelwch wedi'u hymgorffori mewn cerdyn cynllun adeiladu.
Bydd cerdyn CSCS dilys yn cynnwys:
- hologram CSCS yn y gornel chwith uchaf. Os byddwch chi'n symud y cerdyn ychydig fe welwch y geiriau 'cynllun ardystio sgiliau adeiladu' yn y rhan adlewyrchol
- Dylai fod llun o'r unigolyn ar ochr dde'r cerdyn. Dylai'r llun edrych yn debyg iawn i'r unigolyn o'ch blaen?
- Dylai enw deilydd y cerdyn fod wedi'i argraffu o dan yr hologram CSCS
- Dylai rhif cofrestru deilyddy cerdyn fod wedi'i argraffu o dan ei enw ynghyd â dyddiad dod i ben y cerdyn.
- Mae'r rhif cofrestru yn cael ei ailadrodd ar gefn y cerdyn
- Dylai'r cerdyn naill ai gael logo arian bach 'Wedi'i Brofi ar gyfer HS ac E' mewn blwch o liw arian wrth y llun ID neu logo lliw aur 'Wedi'i Brofi ar gyfer HS ac E' mewn blwch lliw aur wrth y llun ID
- Dylai lliw'r cerdyn fynd yn union at ymyl y cerdyn. Mae gan rai ffugiadau'r hyn sy'n ymddangos fel ymyl gwyn tua blaen y cerdyn
- Dylai'r print a lliwiau fod yn finiog a chlir. Mae gan lawer o ffugiadau gamgymeriadau sillafu neu brint aneglur neu ddwl.
I ddarganfod mwy am sut i adnabod cerdyn CSCS dilys o'i gymharu â cherdyn twyllodrus, ymwelwch â gwefan CSCS.
Fel arall, defnyddiwch ein Gwiriwr Cerdyn Ar-lein - os yw'n gerdyn dilys, dylech allu dod o hyd iddo ar y system.
Beth i'w wneud os ydych yn amau bod rhywun yn defnyddio cerdyn twyllodrus
- Cadwch y cerdyn os yn bosibl
- Gwnewch ffotocopïau o'r blaen a'r cefn
- Cofnodwch enw a chyfeiriad deiliad y cerdyn
- Gofynnwch i ddeiliad y cerdyn lle cafwyd y cerdyn
- Ffoniwch yr heddlu lleol ac adroddwch am y mater
- Gwrthodwch fynediad i'r safle (yn amodol ar reolau'r cwmni)
- Ar gyfer CSCS: Anfonwch gopïau o'r holl dystiolaeth at:
Y Tîm Gweithrediadau CSCS Cyf The Building Centre 26 Store Street LONDON WC1E 7BT gan nodi “CERDYN TWYLLWODRUS A AMHEUIR".
- Neu e-bostiwch y manylion llawn at CITB, gan sicrhau eich bod yn cynnwys copïau o'r holl dystiolaeth
* Sylwer: Mae cysylltu â'r heddlu yn ôl disgresiwn pob safle unigol ac yn ddarostyngedig i reolau'r cwmni. Mae CSCS a CITB bob amser yn argymell cysylltu â'r heddlu oherwydd gall y wybodaeth hon fod o gymorth i'r awdurdodau wrth fynd i'r afael â materion fel caethwasiaeth fodern, masnachu pobl ac ymchwiliadau hawl i weithio
Gweithgarwch twyllodrus arall
Hefyd rydym wedi ein hymrwymo i leihau gweithgarwch twyllodrus wrth gyflenwi'r cynllun CPCS. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi heb ganiatâd gwestiynau ac atebion prawf theori CPCS i'w defnyddio yn y profion technegol.
Lle byddwn ni'n dod ar draws papurau a gyhoeddir ar y rhyngrwyd byddwn ni'n ceisio eu symud ac yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyhoeddwyr.
Nid yw'r cynllun CPCS yn cefnogi prynu a defnyddio'r papurau hyn fel cymorth hyfforddi/adolygu. Gallai eu defnyddio arwain at adolygu'r wybodaeth anghywir a methu'r prawf theori.
Gellir cyfrif defnyddio'r deunydd hwn yn weithred o dwyll a châi unrhyw gerdyn a ddyfernid o ganlyniad ei ddileu.
Os daw rhywun atoch neu os cewch chi wybod am dudalennau gwefan sy'n cynnig y gwasanaeth hwn, anfonwch y manylion ar ffurf e-bost i e-bost i CITB a byddwn ni'n ymchwilio ymhellach.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth