Facebook Pixel
Skip to content

Mewngofnodi i’r porth

Mae'r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu yn borth lle gallwch chwilio am gymwysterau a chyraeddiadau hyfforddiant gweithiwr adeiladu.

Gall cyflogwyr adeiladu ei ddefnyddio’n rhad ac am ddim, ond mae angen mewngofnodi i gael mynediad at y porth.

Ar y dudalen hon:


Sylwer: mae’r llwyfan hwn yn gweithio orau ar fersiynau diweddaraf Internet Explorer, Chrome neu Firefox. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho'r fersiwn ddiweddaraf er mwyn osgoi unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio’r porth.

Beth yw’r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu?

Mae’r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu yn gronfa ddata ar-lein sy’n cynnwys cofnodion o gymwysterau a chyraeddiadau hyfforddiant miloedd o weithwyr adeiladu.

Fel cyflogwr, byddwch chi’n gallu gwneud y canlynol:

  • gwirio sgiliau a chymhwysedd eich gweithlu a recriwtiaid newydd, er mwyn helpu i gadarnhau bod ganddynt y sgiliau priodol a’u bod yn barod i weithio
  • rhoi adborth ar wasanaeth ac ansawdd hyfforddiant Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy CITB, a
  • nodi Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy fel hoff ddarparwr hyfforddiant.

Fel gweithiwr adeiladu neu ddysgwr, byddwch yn gallu gwirio manylion y cyrsiau a’r cymwysterau hyfforddiant adeiladu rydych chi wedi’u cwblhau.

Dros amser, bydd y cofnodion hyn yn galluogi CITB i greu darlun cynhwysfawr o hyfforddiant sgiliau ledled Prydain. Yna gall CITB ganolbwyntio ar ble mae angen iddo roi cymorth â hyfforddiant i gyflogwyr a sectorau arbenigol yn y diwydiant.

Sut mae cael mynediad at y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu?

Mae angen cyfrinair ar gyfer y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu er mwyn gweld cofnod hyfforddi gweithiwr neu ddysgwr.

Ar gyfer cyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB

Ar gyfer cyflogwyr sydd heb gofrestru â CITB, gweithwyr a/neu ddysgwyr unigol

  • Gall gweithwyr adeiladu neu ddysgwyr gael mynediad ‘gweld yn unig’ i’r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu.
  • I gael mynediad 'gweld yn unig', ewch i borth gwasanaethau ar-lein CITB.
  • Cliciwch ar y botwm Mewngofnodi ar frig y porth.
  • Pan welwch chi’r ffenestr naid, cliciwch ar y ddolen Cofrestrwch nawr a llenwi'r meysydd gofynnol ac yna clicio cyflwyno.
  • Cewch e-bost awtomataidd yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfrif.
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost awtomataidd i orffen cofrestru.
  • Ar ôl i chi orffen cofrestru a mewngofnodi i’r porth, gallwch chwilio am eich cofnod hyfforddiant.

Cywiro cofnod hyfforddiant ar y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu

Os ydych chi’n weithiwr adeiladu neu’n ddysgwr sydd wedi sylwi bod gwall yn eich cofnod yn y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu, a’ch bod yn dymuno ei gywiro, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon e-bost atom yn
  • yn eich e-bost, nodwch y canlynol:
    • cyfenw
    • enw(au) cyntaf
    • dyddiad geni
    • cyfeiriad cartref llawn
    • rhif ffôn cyswllt
    • rhif adnabod unigryw’r dysgwr (gallwch ddod o hyd i hwn ar eich cofnod yn y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu), a
  • dweud wrthym beth yw’r gwall a rhoi'r wybodaeth gywir.

Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o fanylion neu dystiolaeth o’ch cymwysterau a’ch cyraeddiadau hyfforddiant. Byddwn yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os oes gennych bryderon am yr wybodaeth sydd gennym amdanoch a’ch cyraeddiadau hyfforddiant:

Tîm Gwybodaeth a Llywodraethu
CITB
Sand Martin House
Bittern Way
Peterborough
PE2 8TY

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth