Polisi Cwcis
Yn debyg i lawer o wefannau eraill, mae’r wefan hon yn defnyddio ffeiliau bach o’r enw cwcis sy’n helpu CITB i deilwra’ch profiad o’i defnyddio. Mae’r Polisi Cwcis hwn yn gymwys i’r defnydd o gwcis ar holl wefannau CITB a gwefannau cysylltiedig, sy’n cynnwys:
- citb.co.uk
- ecourses.citb.co.uk
- shop.citb.co.uk
- goconstruct.org
- 360.citb.co.uk.
Defnyddir y gair ‘gwefannau’ i gyfeirio atynt o hyn ymlaen.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gwcis a ffyrdd o’u rheoli yn y polisi hwn, lle bydd y canlynol yn cael ei esbonio:
- Beth yw cwcis?
- Sut mae CITB yn defnyddio cwcis?
- Pa wybodaeth nad ydynt yn ei chasglu?
- Derbyn neu wrthod y defnydd o gwcis
Drwy barhau i ddefnyddio gwefannau CITB, rydych yn cytuno i’r defnydd o gwcis yn y ffordd a ddisgrifir yn y polisi hwn.
Beth yw cwcis?
Mae cwcis yn dechnoleg gyffredin ar gyfer cofio gwybodaeth benodol am ddefnydd unigolyn o wefan. Maent yn ffeiliau testun bach sy’n cael eu hanfon i’ch porwr gan y gwefannau rydych yn ymweld â nhw a’u storio yng nghof eich dyfais. Mae cwcis yn ei gwneud yn bosibl casglu data defnyddwyr a dadansoddi sut mae gwefan yn cael ei defnyddio er mwyn rhoi’r profiad gorau posibl i’r defnyddwyr hynny. Mae cwcis yn galluogi CITB i roi gwybodaeth i chi a dangos cynnwys perthnasol i chi. Mae’r rhan fwyaf o wefannau’n defnyddio cwcis.
Mae technolegau tebyg eraill, megis picseli, yn gweithio yn yr un ffordd, ac mae’r gair ‘cwcis’ yn cael ei ddefnyddio yn y polisi hwn i gyfeirio at yr holl dechnoleg sy’n cael ei defnyddio i gasglu gwybodaeth yn y ffordd hon. Efallai y bydd picseli’n cael eu defnyddio ar wefannau CITB ac mewn unrhyw e-byst y mae’n eu hanfon atoch hefyd.
Mae cwcis yn casglu gwybodaeth megis eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr, math o ddyfais, system weithredu, data pori (megis yr amser y gwnaethoch ymweld â gwefan), hanes pori (megis y dolenni rydych wedi’u clicio neu’r amser y gwnaethoch agor e-bost) a dewisiadau.
Os byddwch yn parhau i ddefnyddio gwefannau CITB, efallai y bydd rhagor o gwcis a thechnolegau tracio eraill yn cael eu gosod ar eich dyfais fel y nodir yn y polisi hwn er mwyn gwella’ch profiad o’u defnyddio.
Sut mae CITB yn defnyddio cwcis?
Mae CITB yn rhoi dau ddewis i ddefnyddwyr wrth gasglu eu data fel a ganlyn:
- Derbyn Cwcîs
- Gwrthod Cwcîs.
Pan fydd defnyddwyr yn derbyn cwcîs ar ein llwyfannau digidol, anfonir data am eu hymweliad i Google (fel yr amlinellir yn y polisi hwn).
Pan fydd ymwelwyr yn gwrthod caniatâd, ni chaiff cwcîs eu storio. Yn lle hynny, mae tagiau'n cyfleu gweithgaredd defnyddwyr trwy anfon y mathau canlynol o bingiau di-gwcî, neu signalau, sy'n rhoi gwybodaeth anadnabyddadwy gan gynnwys:
- Ymweliadau tudalen
- Gwybodaeth am y digwyddiad
- Stampiau amser
- Data cyfeirio.
Y modd rhagosodedig ar gyfer caniatâd yw bod cwcîs yn cael eu gwrthod nes bod y defnyddiwr yn derbyn cwcîs ar ein llwyfannau digidol. Ni fydd unrhyw ddata adnabyddadwy defnyddiwr yn cael ei drosglwyddo oni bai bod y cwcîs perthnasol wedi'u derbyn.
Pa wybodaeth nad ydynt yn ei chasglu?
Nid yw’r cwcis sy’n cael eu defnyddio’n casglu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy. Data a all eich enwi’n bersonol yw gwybodaeth bersonol adnabyddadwy, megis eich enw, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad post, manylion eich cyfrif banc a manylion eich cerdyn credyd.
Pam mae CITB yn defnyddio cwcis?
Mae CITB yn defnyddio cwcis i wneud y canlynol:
- adnabod eich dyfais pan fyddwch yn ymweld â’i wefannau
- cofio’ch dewisiadau fel nad oes rhaid i chi eu hail-nodi pan fyddwch yn ymweld â’i wefannau eto
- gwella sut mae ei wefannau’n cael eu defnyddio
- eich tracio wrth i chi we-lywio’i wefannau
- dadansoddi'r defnydd o’i wefannau
- rhoi gwybodaeth berthnasol i chi
- gwella taith y defnyddiwr
Pa gwcis yn benodol y mae CITB yn eu defnyddio?
Mae CITB yn defnyddio pedwar math o gwcis ar ei wefannau:
- Hanfodol (hollol angenrheidiol)
- Perfformiad
- Ymarferoldeb
- Targedu a marchnata
Mae rhai o’r cwcis hyn yn ‘gwcis sesiwn’ – dim ond tra byddwch yn defnyddio gwefannau CITB y bydd y rhain yn cael eu defnyddio, a byddant yn cael eu dileu ar ddiwedd y sesiwn bori.
Mae’r gweddill yn ‘gwcis parhaus’ sy’n aros ar eich dyfais am gyfnod ar ôl i chi adael gwefannau CITB.
Gall cwcis gael eu defnyddio gan bartneriaid busnes cymeradwy CITB hefyd, sy’n cael eu galw’n ‘gwcis trydydd parti’.
Cwcis hanfodol
Mae CITB yn defnyddio cwcis hanfodol (hollol angenrheidiol), gan eu bod yn hanfodol i sicrhau bod ei wefannau’n gweithio’n effeithiol. Os byddwch yn gwrthod y defnydd o'r cwcis hyn, efallai na fydd y gwefannau’n gweithio’n iawn neu yn ôl y bwriad. Mae enghreifftiau o'r hyn y maent yn ei wneud yn cynnwys:
- cadw’r hyn rydych yn dewis ei brynu
- sicrhau bod eich dewis gyrsiau wedi’u cipio’n gywir pan fydd angen i chi dalu amdanynt
- nodi’ch bod wedi mewngofnodi wrth ddefnyddio rhannau diogel o wefannau CITB
- cofio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi wrth lenwi ffurflen
Cwcis perfformiad
Mae cwcis perfformiad yn galluogi CITB i wneud y canlynol:
- gwella sut mae ei wefannau’n gweithio
- deall sut mae unigolion yn defnyddio’i wefannau
- cofnodi unrhyw wallau
- mesur perfformiad ac effeithiolrwydd ei hysbysebion
Mae rhai cwcis perfformiad yn cael eu rheoli gan drydydd partïon ar ran CITB at y dibenion uchod. Mae gwefannau CITB yn defnyddio cwcis dadansoddi’r we sy’n cael eu darparu gan Google Analytics. Mae’r rhain yn galluogi CITB i nodi a chadw llygad ar nifer yr unigolion sy’n ymweld â’i wefannau, yn ogystal â thracio taith y defnyddiwr, y tudalennau gwe y mae’n ymweld â nhw a’r amser y mae’n ei dreulio arnynt er mwyn ei helpu i wella sut mae’r gwefannau’n gweithio. Nid yw’r wybodaeth hon yn eich enwi. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan y cwcis hyn naill ai’n wybodaeth ddienw neu’n wybodaeth dan ffugenw.
Os byddwch yn gwrthod y defnydd o’r cwcis hyn, efallai na fydd CITB yn gwybod pryd rydych wedi ymweld â’i wefannau, ac efallai na fydd yn gallu monitro eu perfformiad a gwella’i wasanaeth i chi.
Cwcis ymarferoldeb
Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau neu gofio’r dewisiadau rydych wedi’u gwneud. Mae hyn yn cynnwys eich galluogi i sgwrsio’n fyw. Mae CITB yn defnyddio iAdvize i ddarparu gwasanaethau sgwrsio a rhyngweithio ar-lein, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr ac arsylwi’ch defnydd o’i wefannau mewn amser real.
Cwcis targedu a marchnata
Mae'r cwcis hyn yn cofnodi pryd rydych yn ymweld â gwefannau CITB. Maent hefyd yn cadw cofnod o'r tudalennau gwe rydych wedi ymweld â nhw a’r dolenni rydych wedi’u clicio. Mae CITB yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud ei wefannau a’i hysbysebion yn berthnasol i chi. Efallai y byddwch hefyd yn gweld hysbysebion CITB ar wefannau trydydd parti, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol megis Instagram, Twitter a Facebook, gan fod CITB yn defnyddio hysbysebion arddangos i dargedu unigolion. Bydd rhai o’r hysbysebion y gallwch eu gweld yn cael eu cyhoeddi gan rwydwaith hysbysebion arddangos.
Un peth y mae rhwydweithiau o’r fath yn ei wneud yw targedu ymddygiad. Gellir teilwra hysbysebion i'w gwneud yn fwy perthnasol drwy gipio gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr ar-lein. Gall y wybodaeth hon am ymddygiad gael ei defnyddio wedi hynny i ddweud wrth rwydwaith am osod hysbyseb ar wefan sy’n rhan ohono.
Mae CITB yn defnyddio cwcis targedu i gefnogi'r gwaith hysbysebu ar sail ymddygiad. Mae rhai o’r cwcis hyn yn cael eu gosod ar eich dyfais er mwyn arddangos hysbysebion CITB, yn ogystal â gwerthuso effeithiolrwydd hysbysebion a gwybodaeth hyrwyddo CITB ar wefannau trydydd parti. Mae rhagor o wybodaeth am reoli cwcis a hysbysebu ar sail ymddygiad ar gael yn www.youronlinechoices.eu (External link - Opens in a new tab or window)
Drwy wrthod y defnydd o gwcis gan rwydwaith, efallai y byddwch yn analluogi’r rhwydwaith i arddangos hysbysebion sy’n berthnasol i chi.
Cwcis trydydd parti
Pan fydd CITB yn defnyddio adnoddau cwmnïau eraill i wella’i wefannau a’ch profiad o’u defnyddio, efallai y bydd y cwmnïau hyn yn gosod cwcis ar eich dyfais hefyd at y dibenion uchod. Mae’r cwmnïau hyn yn cynnwys:
- citbstore.pearsonvue.com
- Google Analytics
- iAdvize
- Google Ads
- Google Maps
- YouTube
- Snapchat
- TikTok
Mae cwcis trydydd parti’n cael eu gweinyddu’n uniongyrchol gan y trydydd partïon eu hunain. Mae polisi unigol pob trydydd parti’n nodi y gallwch dderbyn neu wrthod y defnydd o gwcis.
Mae’r trydydd partïon hyn yn casglu ac yn storio data ar eu gweinyddion eu hunain. Efallai y byddant yn rhoi data i drydydd parti arall er mwyn cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol neu pan fydd y trydydd parti’n ymdrin â’r data ar eu rhan. Nid yw CITB yn rheoli sut maent yn rheoli’r data hyn.
Derbyn neu wrthod y defnydd o gwcis
Gallwch wrthod y defnydd o gwcis gan unrhyw wefan drwy fynd i osodiadau’ch porwr a gwrthod y defnydd o rai mathau neu bob math o gwcis.
Fodd bynnag, os byddwch yn gwrthod y defnydd o bob math o gwcis (gan gynnwys cwcis hollol angenrheidiol), efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai rhannau neu bob rhan o wefannau CITB. Drwy fynd i osodiadau’ch porwr, gallwch hefyd ddileu cwcis.
Os oes cwcis ar eich dyfais yn barod, gallwch eu dileu unrhyw bryd. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis a ffyrdd o’u dileu, ewch i:
www.aboutcookies.org (External link - Opens in a new tab or window)
www.allaboutcookies.org/manage-cookies (External link - Opens in a new tab or window)
Newidiadau i’r Polisi Cwcis
Efallai y bydd CITB yn newid y Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau’n dod i rym ar y dyddiad y cafodd y telerau diwygiedig eu cyhoeddi ar ei wefannau (wedi’i nodi isod). Drwy barhau i ddefnyddio gwefannau CITB ar ôl y dyddiad hwnnw, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y polisi a addaswyd.
Cafodd y Polisi Cwcis hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar …. Ionawr 2021.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y Polisi Cwcis, e-bostiwch Swyddog Diogelu Data CITB yn Information.Governance@CITB.co.uk
Polisi Preifatrwydd
Mae Polisi Preifatrwydd CITB yn esbonio pa wybodaeth y mae’n ei chasglu, sut a pham mae’n ei defnyddio, sut mae’n ei chadw’n ddiogel a beth yw’ch hawliau. Gallwch ddarllen Polisi Preifatrwydd CITB.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth