Telerau ac amodau'r ap CDM Wizard
Effeithiol o 13 Mehefin 2018
Trwy lawrlwytho neu wrth geisio gyrchu'r Ap, byddwch chi'n cytuno â'r telerau ac amodau dilynol:
Cefndir
Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (wedi'i gofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr â'r Rhif Cofrestru. 264289 ac yn yr Alban â'r Rhif Cofrestru SC044875) ("CITB") yw perchennog yr Ap.
Mae CITB yn rhoi trwydded i chi na ellir ei throsglwyddo, nad yw'n gyfyngol, i ddefnyddio'r Ap ar eich dyfais, yn amodol ar y telerau ac amodau hyn, polisi preifatrwydd CITB ac unrhyw reolau siop cymwys (a fydd yn cael eu hymgorffori yn y telerau hyn trwy gyfeirio). Mae CITB yn cadw'r holl hawliau eraill.
Ymwadiad
Mae CITB wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn yr Ap hwn yn gywir. Dylid defnyddio ei gynnwys fel cyfarwyddyd yn unig ac nid yn lle'r rheoliadau cyfredol, y safonau presennol neu yn lle cyngor cyfreithiol ac fe'i cyflwynir heb unrhyw warant, naill ai'n bendant neu'n ymhlyg, o ran ei gywirdeb.
Nid yw CITB yn gallu rhoi unrhyw warantau ynghylch defnyddioldeb yr Ap, ac ni all warantu unrhyw gefnogaeth wrth gefn neu gymorth adfer ychwaith.
Ni all CITB warantu argaeledd y data ar yr Ap a gallai atal, newid neu ddileu'r Ap (neu'r amodau defnydd) ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm heb roi unrhyw rybudd.
Mae CITB yn cadw'r hawl i roi neu gyfyngu ar fynediad at nodweddion penodol o'r Ap ar unrhyw adeg i unrhyw ddefnyddiwr heb rybudd blaenorol. Byddwch yn cydymffurfio â'r holl ganllawiau rhesymol a gyhoeddir gan CITB o bryd i'w gilydd mewn perthynas â'r defnydd o'r Ap.
Os bydd CITB yn credu yn ôl ei unig ddisgresiwn nad ydych yn cydymffurfio â'r telerau ac amodau hyn, bydd yn atal eich defnydd o'r Ap ar unwaith. Nid yw'r Ap wedi'i ddatblygu i ddiwallu'ch anghenion unigol felly eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod cyfleusterau a swyddogaethau'r Ap yn bodloni'ch anghenion. Ni fydd CITB yn atebol am unrhyw niwed sy'n deillio o'r defnydd o'r Ap neu ddibyniaeth ar ei gynnwys.
Diogelu data
Byddwch yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol i ddiogelu data, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 1998, y Rheoleiddiad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) (UE) 2016/679 a Deddf Diogelu Data 2018.
Rydych yn cydnabod, at ddibenion yr holl ddeddfwriaeth ddiogelu data, chi yw'r rheolydd a CITB yw'r prosesydd.
Er y bydd y data a gesglir gennych chi yn cael ei storio a'i gadw'n ddiogel gan CITB, ni fydd CITB yn cyrchu neu ddefnyddio'r data heblaw am alluogi gweithredu'r Ap. Ni fydd CITB yn gyfrifol am reoli'r data a gesglir ar yr Ap.
Chi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod holl wrthrychau'r data wedi rhoi caniatâd priodol i brosesu'r holl ddata personol gennych chi a bod gennych chi fesurau diogelwch addas ar unrhyw gyfarpar a ddefnyddiwch i ddiwallu'r safonau a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer diogelu data.
Bydd CITB yn dileu'r holl ddata a gedwir ganddo mewn perthynas â phrosiect adeiladu os na fyddwch yn defnyddio'r Ap am gyfnod o 6 mis ar ôl cwblhau'r prosiect perthnasol.
Datganiad hawlfraint
Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o'r cyhoeddiad hwn, ei storio mewn system adfer neu ei drosglwyddo ar unrhyw ffurf neu drwy unrhyw fodd, electronig, mecanyddol, llungopïo, recordio neu fel arall, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CITB, heblaw am y gellir ei ddarllen a'i gadw gan y derbynnydd gwreiddiol, y'i bwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer ei ddefnydd preifat.
Mae'r Cynnwys yn Hawlfraint [Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu © 2018]
Cymorth
Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol wrth osod neu redeg y cynnyrch hwn, ewch i Gymorth Ap CITB.
Hawlfraint CITB cedwir pob hawl.
Mae copïo heb ganiatâd yn groes i hawliau eiddo deallusol ac yn cael ei wahardd yn ôl y gyfraith.
Cyfraith Lywodraethol ac Awdurdodaeth
Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw anghydfod, hawliad neu rwymedigaeth (boed yn gontractiol neu'n anghontractiol) sy'n deillio o neu mewn cysylltiad â hwy, eu pwnc neu eu ffurf yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr.
Rydych yn cytuno y bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth unigryw i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n ymwneud â'ch defnydd o'r Ap.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth