Teithio i Hyfforddi - Grant llety a theithio prentisiaeth
Mae ein cefnogaeth i gyflogwyr sydd â phrentisiaid ble mae gofyn iddynt ‘Deithio i Hyfforddi’ wedi’i ehangu o 1 Awst 2022:
- Rydym yn ad-dalu 80% o gostau llety ar gyfer prentisiaid sy'n mynychu colegau neu ddarparwyr hyfforddiant lle mae angen aros dros nos a theithio i/o westy.
- Gallwch hefyd wneud cais am gostau teithio prentis os yw'r gost yn fwy na £20 yr wythnos.
Mae grant Teithio i Hyfforddi ar gael i bob cyflogwr sydd wedi cofrestru gyda CITB sydd â phrentisiaid dan hyfforddiant ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Ar y dudalen hon:
Pwy all wneud cais am y grant hwn?
Gallwch wneud cais os ydych wedi cofrestru gyda ni ac yn bodloni gofynion y grant hwn, darllenwch Telerau ac Amodau’r Cynllun Grantiau.
Mae hyn yn cynnwys cyflogwyr sydd â phrentis sy'n gymwys ar gyfer grant presenoldeb prentisiaeth neu grant Rhaglen Sgiliau Cymhwysol Arbenigol (SAP).
Teithio: Gallwch wneud cais am grant teithio ar gyfer prentisiaid sy’n astudio prentisiaethau sy’n gymwys am grant, sy’n cael eu cyflogi gan gyflogwyr cofrestredig CITB neu Gynllun Rhannu Prentisiaeth a ariennir gan CITB yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Llety: Gallwch wneud cais am grant llety ar gyfer prentisiaid sy’n astudio crefftau adeiladu, sy’n cael eu cyflogi gan gyflogwyr cofrestredig CITB neu Gynllun Rhannu Prentisiaeth a ariennir gan CITB yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Grant teithio
Trosolwg
- Telir grant teithio ar gyfer teithio i'r coleg neu ddarparwr hyfforddiant ac oddi yno. Mae teithio i ac o weithle prentis wedi’i eithrio.
- Mae prentisiaid mewn llety yn gymwys ar gyfer costau teithio dwyffordd i'r llety o'u cartref ar gyfer pob cyfnod o hyfforddiant.
- Lle mae llety campws coleg yn cynnwys arosiadau ar y penwythnos, dim ond ar gyfer taith gychwyn a diwedd y cyfnod bloc cyfan gan gynnwys penwythnosau y caiff grant teithio ei gymeradwyo.
- Dim ond pan na fydd teithio a drefnwyd gan CITB neu goleg/darparwr hyfforddiant ar gael y caiff teithio dyddiol o lety a gefnogir gan CITB ei ad-dalu.
Faint allaf ei gael?
Rydym yn talu grant pan fydd y costau teithio yn fwy na £20 yr wythnos, byddwn yn didynnu’r £20 cyntaf yr wythnos ac yn ad-dalu’r swm dros ben i’r cyflogwr.
Dim ond pan nad oes trafnidiaeth gyhoeddus, neu gludiant a ddarperir gan CITB, ar gael neu pan fo trafnidiaeth breifat yn rhatach y caiff trafnidiaeth breifat ei hawdurdodi.
Mae cyfraddau milltiredd presennol ar gyfer trafnidiaeth breifat isod:
- 26c y filltir ar gyfer ceir neu feiciau modur
Rhaid i'r cyflogwr ad-dalu cost lawn y grant teithio i'r prentis.
Nid yw'r grant hwn yn talu costau parcio ceir.
Ni fyddwn yn talu am deithio sydd wedi'i ddyddio mwy na 3 mis cyn dyddiad cyflwyno'r cais.
Sut i wneud cais am y grant teithio
Gellir cyflwyno ceisiadau grant teithio naill ai pan fo’r gwerth i’w ad-dalu yn £100 (llai’r didyniad o £20 yr wythnos), NEU bob 2 fis fesul prentis cymwys – pa un bynnag ddaw gyntaf.
Dylech gyflwyno ffurflen gais gyda chopi o’r dystiolaeth berthnasol, gan gynnwys tocynnau teithio (lle bo’n berthnasol) a thystiolaeth o bresenoldeb dros gyfnod y cais. Mae sgrinluniau o archebion a wneir trwy ap, cadarnhad archebu electronig ac amserlenni coleg i gyd yn dystiolaeth dderbyniol.
- Lawrlwythwch y ffurflen gais isod
- Dylech arbed a chwblhau'r ffurflen
- Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i ApprenticeAccom.TravelSupport@citb.co.uk
- Bydd taliad yn cael ei wneud i'r cyfrif cyflogwr enwebedig
Ffurflen gais grant teithio i ddysgwyr ar Raglen Sgiliau Cymhwysol Arbenigol (Excel, 204KB)
Grant teithio i ddysgwyr sy’n cwblhau prentisiaeth sy’n gymwys am grant (Excel, 205KB)
Grant llety
Trosolwg
- Mae grant llety ar gael lle mae teithio i’r coleg/darparwr hyfforddiant ac oddi yno fwy na 90 munud o gyfeiriad cartref y prentis, naill ai mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Telir grant llety dim ond pan fydd y llety wedi’i archebu drwy 'arrangeMY' gan ddefnyddio’r ffurflen isod, neu lety preswyl ar y campws mewn colegau/darparwyr hyfforddiant penodol sydd â chytundeb cymeradwy gyda CITB.
- Nid yw'r grant hwn ar gael ar gyfer llety a drefnir yn breifat.
- Dim ond pan fydd y prentis yn cadw at ein Cod Ymddygiad (PDF, 142KB) y byddwn yn talu am lety. Lle na chaiff hyn ei fodloni, nid ydym yn ad-dalu unrhyw gostau llety a byddwn yn gwrthod unrhyw geisiadau yn y dyfodol ar gyfer y prentis hwnnw.
Faint allaf ei gael?
Mae llety gwesty yn cael ei ad-dalu ar gyfradd o 80% o gyfanswm y gost. Byddwn yn tynnu 20% o gost y llety ac yn ad-dalu’r gwahaniaeth i’r cyflogwr, rhaid i’r cyflogwr dalu’r gost o 20% a pheidio â throsglwyddo hwn i’r prentis.
Ar gyfer colegau sydd â champws ar y safle, telir costau llawn y llety.
Nid yw llety penwythnos yn cael ei ariannu.
Lle mae angen llety ar sawl prentisiaid o’r un cyflogwr, darperir hyn ar sail rhannu ystafell ac o fewn cwmpas diogelu e.e. dan 18, dros 18 oed. Ni chaniateir rhannu dynion a merched. Oherwydd COVID-19, mae ystafelloedd yn cael eu cynnig ar sail deiliadaeth unigol ar hyn o bryd.
Sut i wneud cais am y grant llety
Cyn cwblhau'r Ffurflen Gais am Lety:
- Darllenwch y Polisi Canslo a Diwygio (PDF, 141K)
- Darllenwch y Telerau ac Amodau
- Darparwch amserlen coleg sy'n rhoi manylion diwrnodau hyfforddiant rhyddhau bloc neu ddiwrnod; rhaid cyflwyno hwn i
- ApprenticeAccom.TravelSupport@citb.co.uk
Gallwch wneud cais trwy lenwi'r ffurflen gais berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth