Facebook Pixel
Skip to content

Grantiau cyrsiau byr

Mae grantiau ar gyfer hyfforddiant a phrofi peiriannau wedi newid o 31 Gorffennaf 2023. Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr adolygiad o beiriannau a chyflwyno safonau peiriannau newydd yma.

Rydym yn talu grantiau ar gyfer cwblhau cyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar sgiliau sy’n cael eu hystyried yn sgiliau craidd i anghenion y diwydiant adeiladu.

Ar y dudalen hon fe welwch y canlynol: 

Trosolwg

Rydym yn talu grantiau ar gyfer cyflawni cyrsiau byr cymeradwy, sy'n para rhwng 3 awr a 29 diwrnod ac sy'n canolbwyntio ar y sgiliau adeiladu craidd sydd eu hangen ar draws y diwydiant.

Telir grantiau cyrsiau byr ar gyfer cyflawniad llwyddiannus o gyrsiau sy’n cyd-fynd â safonau cymeradwy cysylltiedig ag adeiladu, neu â theitlau safonol cymeradwy lle mae’r safonau’n cael eu datblygu.

Pwy all wneud cais am y grant hwn?

Gallwch wneud cais os ydych yn gyflogwr cofrestredig CITB ac yn gyfredol â’ch Ffurflenni Lefi, yn ogystal â chadw at bolisi’r Cynllun Grantiau a gofynion penodol ar gyfer y grant hwn.

Gallwch wneud cais am y grant hwn ar gyfer yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol ar y gyflogres, perchnogion busnes a phartneriaid, a phob is-gontractwr.

Pa gyrsiau sy’n gymwys am grant?

Rydym yn talu grantiau ar gyfer cyrsiau sy’n cyd-fynd â safonau y cytunwyd arnynt gan y diwydiant.

Gweler rhestr lawn o safonau cyrsiau byr rydym yn talu grantiau ar eu cyfer.

Sut y gellir darparu cyrsiau?

Darperir cyrsiau cymeradwy gan Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy CITB (ATOs) a fydd yn cael eu rhestru yn y Cyfeiriadur Hyfforddiant Adeiladu.

Gellir darparu cyrsiau mewn nifer o ffyrdd ac mae’r dulliau darparu a dderbynnir gan y diwydiant wedi’u diffinio o fewn safon y cwrs cyhoeddedig, gan gynnwys:

  • Yn yr ystafell ddosbarth, lle mae’r cwrs yn para’n llawn
  • E-ddysgu, lle mae’r cwrs o leiaf 50% o’r cyfnod cyhoeddedig*
  • Cyfuniad o’r ystafell ddosbarth ac e-ddysgu, lle mae’r cwrs o leiaf 75% o’r hyd cyhoeddedig yn y safon

Er enghraifft, lle mae safon gyhoeddedig yn diffinio’r hyd fel 1 diwrnod, rhaid i gwrs yn yr ystafell ddosbarth fod yn ddiwrnod llawn i gyd-fynd â’r safon, tra bod yn rhaid i gwrs e-ddysgu fod o leiaf hanner diwrnod (3 awr) i gyd-fynd â’r safon.

*Nid yw e-ddysgu yn ffurf dderbyniol o hyfforddi ar gyfer cyrsiau pan fo safon yn cael ei datblygu. Nid yw ond yn dderbyniol pan fydd y safon lawn wedi’i datblygu a bod e-ddysgu wedi’i nodi fel dull darparu y gellir ei ddefnyddio.

Faint yw’r grant?

Rydym yn talu grantiau ar gyfer cyrsiau byr ar y cyfraddau canlynol, a bennir gan hyd a chynnwys y cwrs:

Grantiau am gyrsiau byr
Grant Dyddiad cyflawni ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023
Haen 1 £60
Haen 2 £140
Haen 3 £240

Dim ond unwaith yr unigolyn fesul oes y telir grant ar gyfer cyrsiau lle mae'r safon yn cael ei datblygu gan nad yw'r gofyniad am adnewyddu neu loywi wedi'i bennu eto.

Cyrsiau adnewyddu

Mae adnewyddu yn golygu ailadrodd cwrs llawn.

Os yw’r safon yn ei gwneud yn ofynnol i hyfforddiant gael ei adnewyddu ar ôl amser penodedig, gallwch wneud cais am grant bob tro y byddwch yn adnewyddu’r safon, os caiff ei gwblhau o fewn y cyfnod amser perthnasol a ddiffinnir yn y manylion safonol.

Dim ond unwaith y gallwch wneud cais am grant ar gyfer hyfforddiant adnewyddu o fewn y cyfnod amser gofynnol.

Cyrsiau gloywi

Mae cyrsiau gloywi yn diweddaru gwybodaeth a dealltwriaeth dros gyfnod byrrach na'r cwrs hyfforddi gwreiddiol.

Mae'r grant sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant gloywi yn 50% o'r grant ar gyfer y cwrs hyd lawn wreiddiol.

Rydym ond yn cefnogi cyrsiau gloywi lle mae safon hyfforddi lawn wedi'i datblygu ac yn ei lle ac yn nodi bod angen gloywi.

Cyfraddau grant peiriannau

Safonau newydd

Yn dilyn yr adolygiad o grantiau peiriannau, mae’r grantiau sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant a phrofi peiriannau yn dibynnu a yw’r math o beiriannau wedi’u cynnwys yn y safonau peiriannau newydd a gyflwynwyd o 31 Gorffennaf 2023.

Hyd yma mae 8 safon peiriannau newydd. Mae manylion y rhain a’r datblygiad safonau peiriannau parhaus i’w gweld ar y dudalen adolygu peiriannau yma.

Chwiliwch y dudalen safonau cyrsiau byr i weld y grantiau sydd ar gael ar gyfer pob safon. Mae cyfraddau grantiau wedi’u nodi isod ac yn amrywio yn dibynnu ar lefel yr hyfforddiant a’r math o beiriannau:

Cyfraddau grant peiriannau
Grant Peiriannau  I Nofyddion I rai Profiadol
Haen 1 £550 £250
Haen 2 £630 £300
Haen 3 £880 £470

Nid oes hawl i'r grant hwn os talwyd grant yn flaenorol ar gyfer unigolyn sy'n cwblhau prawf Ymarferol CPCS yn yr un categori. Mae grant yn daladwy i unigolyn ar gyfer fersiwn ‘I Nofyddion’ neu fersiwn ‘I rai Brofiadol’ ac nid y ddau.

Profion Technegol CPCS

Rydym yn talu grant am basio elfennau theori ac ymarferol profion technegol CPCS yn unig. Mae'r grant hwn ar gael ar gyfer yr holl brofion theori ac ymarferol a restrir ar y dudalen safonau cyrsiau byr.

Cyfraddau grant prawf technegol CPCS
Grant Prawf Peiriannau Prawf Theori CPCS Prawf Ymarferol CPCS
Haen 1 £60 £190 
Haen 2 £60 £240 
Haen 3 £60 £410

Dim ond unwaith yr oes ar gyfer pob unigolyn y byddwn yn talu grant ar gyfer profion CPCS. Nid yw’r grant hwn ar gael ar gyfer profion adnewyddu/gloywi, ar asesiadau safle, profion byrrach nac asesiadau pontio.

Cyrsiau hyfforddiant peiriannau

Rydym yn talu grant ar gyfer cwblhau cyrsiau byr yn ymwneud â pheiriannau. Mae grant ar gael ar gyfer yr holl deitlau cyrsiau hyfforddiant peiriannau a restrir ar y dudalen safonau cyrsiau byr.

Mae cyfraddau grant ar gyfer cyrsiau hyfforddiant peiriannau wedi’u rhestru yn yr adran Faint yw’r grant uchod.

Faint o geisiadau a ganiateir?

Os ydych yn gyflogwr sydd newydd gofrestru, mae gennych gap o 35 o grantiau cyflawniad cwrs byr ar gyfer y flwyddyn ariannol y cawsoch eich cofrestru gyntaf ynddi. Nid oes cap ar gyfer y blynyddoedd dilynol.

Sut i wneud cais

Os gwnaethoch ddefnyddio Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO)

Dylech wneud eich cais trwy eich Sefydliad Hyfforddiant Cymeradwy CITB (ATO) yn y Cyfeirlyfr Hyfforddiant Adeiladu, gan roi manylion perthnasol y sawl sy'n rhoi cynnig ar y cymhwyster a'ch rhif cofrestru 7 digid CITB.

Pan fydd yr unigolyn wedi cwblhau'r cwrs, bydd y darparwr yn diweddaru'r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu a dylech gael y taliad grant yn awtomatig.

Cysylltwch â'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0344 994 4455  os na dderbynnir eich taliad o fewn mis i gwblhau'r cwrs.

Os gwnaethoch ddefnyddio darparwr hyfforddiant gwahanol

Os nad yw eich darparwr hyfforddiant wedi cwblhau proses gymeradwyo ATO CITB eto, rhaid i chi wneud cais am grant trwy CITB Ar-Lein o fewn 52 wythnos i gwblhau'r cwrs.

Gallwch gyflwyno naill ai ceisiadau grant unigol neu geisiadau swmp trwy ddefnyddio'r porth ar-lein.

Canfyddwch mwy am sut i wneud cais am grant cwrs byr.

A ydych chi wedi anfon eich manylion banc?

Telir grantiau trwy drosglwyddiad banc. Os nad oes gennym eich manylion banc cyfredol, cwblhewch a chyflwynwch Ffurflen Awdurdodi Credyd Uniongyrchol Bacs ar-lein er mwyn cael taliadau grant.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth