Didynnu lefi o gyflogau (PAYE a CIS Net)
Er bod Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn caniatáu didynnu o enillion o dan amgylchiadau penodol, o dan Ddeddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982, CITB yw'r unig sefydliad sydd wedi'i awdurdodi i osod a chasglu lefi CITB gan gyflogwyr yn y diwydiant.
Nid yw prif gontractwyr wedi eu hawdurdodi i ddidynnu arian o gyflogau gweithwyr (PAYE a CIS Net) ar ran CITB.
Mae “trosglwyddo'r Lefi” yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pan fydd cyflogwyr yn didynnu arian o gyflogau isgontractwyr neu weithwyr eraill (PAYE a CIS Net) heb eu cytundeb, er mwyn codi arian i dalu eu lefi eu hunain.
A yw Lefi wedi'i throsglwyddo i chi?
Mae'r arolwg hwn yn rhoi cyfle i is-gontractwyr ac eraill yr effeithir arnynt adrodd yn ddienw am yr arfer hwn i CITB, a phe dymunant, i CITB gysylltu â'r contractwyr y datganwyd eu bod yn gofyn iddynt roi'r gorau i wneud y didyniadau hyn.
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chasglu'n ddienw ac ni chaiff ei rhannu ag unrhyw drydydd parti. Bydd yn cael ei ddileu unwaith y bydd yr ymchwil hwn wedi dod i ben.
Trosglwyddo'r Lefi: Datganiad ar y Cyd Medi 2024
Didynnu Lefi CITB Oddi Ar Is-gontractwyr Neu Weithwyr Eraill
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (“CITB”) yn ymwybodol bod yr arfer o ‘drosglwyddo Lefi CITB’ yn fater amserol yn y diwydiant adeiladu. Yn unol â hynny, ar gais y Pwyllgor Strategaeth Lefi , mae CITB, Sefydliadau Rhagnodedig a Chynghorau’r Gwledydd wedi cyd-ddatblygu’r datganiad canlynol ynglŷn â hyn.
CITB yw (a hynny ers 1964) y corff a benodwyd gan y Senedd i godi a chaglu’r Lefi hyfforddiant diwydiannol gan gyflogwyr adeiladu ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Yna defnyddir y lefi statudol hon (“Lefi CITB”) yn unol â diben statudol CITB i, ymhlith pethau eraill, ddarparu hyfforddiant a chymorth i’r diwydiant adeiladu. Nid oes gan unrhyw sefydliad arall hawl statudol o dan Ddeddf Hyfforddiant Diwydiannol 1982 (“Deddf 1982”) i godi a chasglu Lefi CITB. CITB yn unig sy’n gyfrifol am Lefi CITB. Fodd bynnag, dylid nodi bod CITB wedi rhoi nifer o’i swyddogaethau gweithredol ar gontract allanol ym mis Chwefror 2019 i Shared Services Connected Limited (“SSCL”), ac ers hynny, mae SSCL wedi’i awdurdodi gan CITB i gasglu Lefi CITB ar ei ran.
Asesir Lefi CITB yn unol â fformiwla a nodir mewn deddfwriaeth (a elwir yn Orchymyn Lefi). Ar hyn o bryd mae Lefi CITB yn cael ei chodi ar 0.35% o daliadau i weithwyr uniongyrchol ynghyd â 1.25% o daliadau i is-gontractwyr CIS taledig Net.
Er mai CITB yw’r unig sefydliad sydd wedi’i awdurdodi o dan Ddeddf 1982 i godi a chasglu’r Lefi hyfforddiant diwydiannol (Lefi CITB) gan gyflogwyr adeiladu, mae CITB yn ymwybodol bod rhai cyflogwyr o fewn y diwydiant adeiladu yn gwneud didyniadau o’u his-gontractwyr neu weithwyr eraill fel ffordd o godi arian i dalu eu hasesiadau Lefi CITB eu hunain, gan ei alw’n ‘ddidyniad ar gyfer Lefi CITB’, neu’n ‘symiau mewn perthynas â Lefi CITB’ neu debyg. Yn aml gall y didyniadau hyn fod ar gyfraddau uwch na’r hyn a osodir mewn Gorchymyn Lefi ac a gesglir yn uniongyrchol gan CITB. Nid oes gan gyflogwyr adeiladu unrhyw bŵer nac awdurdod statudol i wneud hyn o dan Ddeddf 1982.
At hynny, nid yw Lefi CITB yn debyg i TWE neu CIS y mae gan gyflogwyr awdurdod cyfreithiol i’w dynnu oddi ar eu gweithwyr ac yna ei dalu i CThEM. Mewn cyferbyniad, mae atebolrwydd am dalu Lefi CITB yn disgyn ar y sefydliad adeiladu a aseswyd i Lefi gan CITB, ac yn aros gyda’r sefydliad hwnnw.
Nid yw’r didyniadau hyn, a wneir gan rai cyflogwyr adeiladu, yn daliadau Lefi CITB ond maent yn ffordd o godi arian i dalu neu leihau eu hasesiadau/atebolrwydd Lefi CITB eu hunain. Mae CITB yn gwrthwynebu’n gryf y gweithgaredd annheg ac anawdurdodedig hwn o dan Ddeddf 1982. Mae’r gweithgaredd hwn nid yn unig yn tanseilio gofyniad cyfreithiol CITB i gefnogi cyflogwyr bach, mae hefyd yn cael effaith negyddol ar yr is-gontractwyr unigol sy’n ffurfio cyfran fawr o’r gweithlu, yn enwedig y rhai nad ydynt efallai, o dan y Gorchymyn Lefi, i fod i dalu Lefi CITB. Yn yr achosion hyn lle mae ‘trosglwyddo’ yn digwydd, mae Lefi (nid Lefi CITB) yn cael ei ‘gosod’ ar gyflogwyr bach gan eraill.
Mae CITB yn gwerthfawrogi bod y mwyafrif o gyflogwyr adeiladu yn dangos gwerthoedd da trwy dderbyn eu cyfrifoldeb i dalu unrhyw Lefi CITB ac nid ydynt yn ceisio didynnu neu gamarwain contractwyr i dderbyn didyniadau o’r symiau sy’n ddyledus am eu gwaith.
Nid oes gan CITB unrhyw bŵer i ymyrryd lle mae dau barti neu fwy yn cytuno’n gytundebol rhyngddynt eu hunain i ddidyniadau o’r fath, er y gellir ystyried bob absenoldeb cytundeb o’r fath yn anghyfreithlon gan gynnwys o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Mae’n bosibl y bydd unrhyw gontractwr y didynnwyd taliadau o’r fath heb gytundeb yn dymuno ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
Mae’r datganiad hwn wedi’i gytuno gan y Pwyllgor Strategaeth Lefi, Sefydliadau Rhagnodedig a Chynghorau’r Gwledydd sy’n ymwneud ag adolygu’r Lefi ac mae er gwybodaeth yn unig.
Rhestr o’r Llofnodwyr
Tîm Gweithredol CITB
LSC – Pwyllgor Strategaeth Lefi
Cyngor Cenedl Lloegr
Cyngor Cenedl Yr Alban
Cyngor Cenedl Cymru
Build UK
BWF- Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain
CECA – Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil
CPA - Cymdeithas Llogi Peiriannu Adeiladu
FIS – Sector Gorffeniad a Strwythurau Mewnol
FMB – Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr
HAE – Cymdeithas Llogi Ewrop
HBF – Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
NAS – Cymdeithas Genedlaethol Dodrefnwyr Siopau
NFB – Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr
NFDC – Ffederasiwn Cenedlaethol y Contractwyr Dymchwel
SBF – Ffederasiwn Adeiladu’r Alban
SDF- Ffederasiwn Addurnwyr yr Alban
SPOA – Cymdeithas Perchnogion Peiriannau’r Alban
Beth yw Trosglwyddo’r Lefi?
Mae trosglwyddo’r Lefi’n arfer hanesyddol lle mae cyflogwyr sydd wedi’u cofrestru â CITB yn gwneud didyniadau o daliadau a wneir i’w his-gontractwyr gan ei alw’n ‘ddidyniad ar gyfer Lefi CITB’, neu’n ‘symiau mewn perthynas â Lefi CITB’ neu debyg. O bryd i’w gilydd, gwneir didyniadau heb yn wybod i’r isgontractwyr neu heb ganiatâd.
Pam mae hyn yn digwydd?
Mae rhai cyflogwyr yn gweld ‘trosglwyddo’ y Lefi fel ffordd o godi arian i dalu eu rhwymedigaeth Lefi eu hunain. Yn aml, gwneir y didyniadau hyn ar swm sy’n cyfateb i gyfradd Lefi CIS Net CITB (1.25% ar hyn o bryd) neu uwch.
A yw'n gyfreithlon iddynt wneud hyn?
Nid oes unrhyw beth mewn deddfwriaeth sy'n ymwneud â Lefi CITB sy'n nodi y gall neu na allant gyflogwyr wneud hyn. Fodd bynnag, os oes cytundeb rhwng dau barti i ddidyniadau gael eu gwneud, mae'r arfer yn gyfreithlon ac nid oes gan CITB unrhyw bŵer i ymyrryd.
Mae CITB yn gwrthwynebu’r arfer hwn yn gadarn gan ei fod yn tanseilio gofyniad cyfreithiol CITB i gefnogi cyflogwyr bach, yn enwedig y rheini nad ydynt o bosibl i fod i dalu Lefi CITB o dan Orchymyn Lefi CITB. Lle nodir trosglwyddo, bydd CITB yn ymgysylltu â chyflogwyr ac yn eu hysbysu mai dim ond CITB sydd â'r pŵer statudol i gasglu Lefi. Fodd bynnag, mae proses sancsiynau yn cael ei hystyried ar hyn o bryd gyda'r bwriad o weithredu os teimlir bod angen dileu'r arfer hwn.
Pa mor fawr yw’r broblem hon?
Rydym yn ymwybodol bod trosglwyddo’r Lefi’n parhau i fodoli o fewn y diwydiant adeiladu, ond nid yw’n cael ei adrodd i raddau helaeth am sawl rheswm:
- Bod didyniadau o’r fath yn cael eu gwneud o fewn contract, felly cafwyd cytundeb gan yr is-gontractiwr (dim toriad o’r Gyfraith Cyflogaeth); a
- Nad yw’r is-gontractwr am gael effaith andwyol ar ei berthynas waith â’r prif gontractwr drwy gwyno am ddidyniadau sy’n cael eu gwneud. Gall prif gontractwr geisio gweithlu is-gontractio arall lle gwneir cwynion.
Beth allaf ei wneud os yw Lefi CITB yn cael ei didynnu oddi wrthyf heb ganiatâd?
Tynnwch sylw’r cyflogwr at y Datganiad ar wefan CITB, ond os nad yw hyn yn eu hatal rhag gwneud y didyniadau gallwch wedyn adrodd yn uniongyrchol drwy’r ffurflen ddienw ar y dudalen we hon, gan roi manylion pwy sy’n cyflawni’r arfer hwn. Bydd CITB wedyn yn ysgrifennu at y cyflogwr i’w atgoffa nad oes ganddo’r pŵer statudol i gasglu Lefi CITB. Bydd eich gwybodaeth bob amser yn cael ei chadw'n ddienw.
Beth yw’r ‘Datganiad Trosglwyddo’ a sut y gall helpu?
Mae hwn yn ddatganiad sefyllfa ar yr arfer o drosglwyddo Lefi CITB, gyda chefnogaeth y Pwyllgor Strategaeth Lefi, Cynghorau’r Gwledydd a Sefydliadau Rhagnodedig. Ei nod yw anfon neges gref a chlir i gyflogwyr mai eu cyfrifoldeb hwy yw’r Lefi ac nid eu gweithlu is-gontract.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth