Sut i dalu'r Lefi
Pryd i dalu
Mae angen i chi dalu’ch lefi neu drefnu Debyd Uniongyrchol i’w dalu fesul rhandaliadau o fewn mis i gael eich Hysbysiad Asesiad Lefi. Mae Hysbysiadau Asesu Lefi’n cael eu hanfon yn y gwanwyn bob blwyddyn. Fodd bynnag, gwnaeth CITB atal anfon y rhain oherwydd COVID-19 a’r heriau o ran llif arian.
Fel arfer, mae rhandaliadau Debyd Uniongyrchol di-log yn cael eu casglu yn y deg mis rhwng mis Mai a mis Chwefror, ond cafodd ei ymestyn yn 2020 a bydd yn cael ei gasglu dros 12 mis o fis Medi 2020 hyd at fis Awst 2021. Bydd y Lefi a godwyd yn 2021 yn cynnwys gostyngiad o 50% a bydd yn cael ei gasglu dros chwe rhandaliad o fis Medi 2021 hyd at fis Chwefror 2022.
Er mwyn manteisio ar hyn, bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen Debyd Uniongyrchol a fydd yn cael ei hanfon gyda'r Hysbysiad Asesu Lefi.
Er mwyn bod yn gymwys i gael taliadau grant, mae’n rhaid eich bod wedi talu’ch lefi’n llawn neu wedi trefnu ei dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Dulliau talu
Gallwch dalu'r Lefi mewn dwy ffordd:
- drwy wneud taliad trwy Ddebyd Uniongyrchol misol di-log – mae hyn yn hawdd ei drefnu ac yn eich helpu i ymestyn y taliadau dros flwyddyn
- yn llawn mewn un cyfandaliad
Sut i drefnu Debyd Uniongyrchol
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol mewn dwy ffordd:
Lawr lwythwch y ffurflen Debyd Uniongyrchol (PDF, 584KB)
Ewch ati i gwblhau'r ffurflen a’i dychwelyd i:
Gwasanaeth Cwsmer Lefi a Grantiau
CITB
Bircham Newton
King's Lynn
Norfolk
PE31 6RH
Lawr lwythwch yr e-ffurflen Debyd Uniongyrchol (PDF, 222KB)
Dylech gwblhau ac e-bostio'r ffurflen i levy.grant@citb.co.uk
O leiaf ddeg diwrnod cyn bod angen gwneud y taliad cyntaf, bydd CITB yn anfon dwy ddogfen atoch:
- ffurflen cadarnhau manylion banc, er mwyn i chi gadarnhau'r manylion
- cynllun talu fesul rhandaliadau Debyd Uniongyrchol, sy’n egluro faint sy'n ddyledus, pryd y bydd pob rhandaliad yn cael ei wneud a faint fydd pob un
Bydd yr arian yn gadael eich cyfrif banc yn awtomatig bob mis – ni fydd angen i chi wneud dim byd arall.
Cyn belled â’ch bod yn cyflwyno’ch Ffurflen Lefi yn brydlon bob blwyddyn ac nad ydych yn canslo’ch Debyd Uniongyrchol, bydd y rhandaliadau’n parhau i gael eu gwneud flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Help
Os oes angen help arnoch wrth drefnu talu’ch lefi, e-bostiwch levy.grant@citb.co.uk
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth