Ynglŷn â Lefi CITB
Mae gan CITB yr awdurdod i osod lefi ar gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu.
A yw'r Lefi’n berthnasol i chi?
Mae’r Lefi’n berthnasol i bob cyflogwr sydd, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, yn cyflawni gweithgareddau’r diwydiant adeiladu. Mewn geiriau eraill, pan mae eich gweithwyr (gan gynnwys is-gontractwyr) yn treulio mwy na hanner o’u hamser yn cyflawni gweithgareddau'r diwydiant adeiladu.
Rhagor o wybodaeth am bwy ddylai gofrestru â CITB
Faint yw’r Lefi?
Mae’r hyn y byddwch yn ei dalu’n seiliedig ar gyfanswm eich bil cyflogau (h.y. faint rydych yn talu’ch gweithwyr mewn blwyddyn).
Yma mae’r gair ‘gweithwyr’ yn golygu’n benodol unigolion ar y gyflogres ac isgontractwyr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yr ydych yn gwneud didyniad CIS oddi wrthynt.
Cynigir cyfraddau lefi ar gyfer Asesiad Lefi 2024 fel 0.35% ar gyfer TWE ac 1.25% ar gyfer CIS Net o dan Orchymyn Lefi 2025 a gaiff ei gadarnhau yng Ngwanwyn 2025.
Ceir eithriad rhag talu’r Lefi a gostyngiad yn y Lefi i fusnesau bach.
Sut rydym yn defnyddio'r lefi
Mae CITB yn defnyddio'r lefi i:
- Cefnogi datblygiad hyfforddiant trwy grantiau a chyllid
- Hyrwyddo'r diwydiant adeiladu fel dewis gyrfa gwych a chynnig prentisiaethau o ansawdd uchel
- Dynodi anghenion sgiliau ar draws y diwydiant adeiladu
- Datblygu safonau a chymwysterau galwedigaethol.
Mae'r lefi CITB yn cefnogi diwydiant adeiladu Prydain i ddatblygu'r gweithlu medrus sydd arno ei angen.
Sut mae cyllid lefi yn cael ei ddosbarthu ar draws y diwydiant
Mae'r tabl isod (data o ystadegau blynyddol 2021-2022) yn dangos sut mae cyllid lefi yn cael ei ddosbarthu i gyflogwyr adeiladu o bob maint i gefnogi hyfforddiant:
- Cyflogwyr micro: 1 i 9 o weithwyr
- Cyflogwyr bach: 10 i 49 o weithwyr
- Cyflogwyr canolig: 50 i 249 o weithwyr
- Cyflogwyr mawr: 250+ o weithwyr.
Categori | Cyflogwyr micro | Cyflogwyr bach | Cyflogwyr canolig | Cyflogwyr mawr | Arall | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|
Cyllid lefi gan gyflogwyr | £18.6m | £30m | £27.4m | £32.1m | £0.2m | £108.3m |
Grantiau a chymorth CITB ar gyfer hyfforddiant | £21.1m | £26.4m | £25m | £28.3m | £0.9m | £101.7m |
Nifer y cyflogwyr sy'n hawlio cymorth grant a chymorth arall | 8,335 | 5,766 | 1,663 | 299 | 88 | 16,151 |
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth