Amlsgilio ar gyfer y dyfodol â B4Box
Fe wnaeth menter adeiladu cymdeithasol B4Box nodi achos busnes cryf dros ddatblygu gweithlu amlsgiliau - ond â diffyg darparwyr hyfforddiant aml-grefft ar gael, fe benderfynodd ei wneud eu hunain.
Mae'r cwmni a leolir yn Stockport B4Box yn gwmni adeiladu, menter gymdeithasol a chanolfan hyfforddi mewn un - ac mae ei fodel busnes yn darparu ateb cain i hafaliad syml.
Mae gan y DU filoedd o eiddo gwag a phrinder anferth o sgiliau adeiladu. Pe byddai newydd-ddyfodiaid yn gallu ennill ystod eang o sgiliau, megis plastro, gwaith saer, gosod briciau, teilsio, a gosod ceginau, ystafelloedd ymolchi a ffenestri, gallent adnewyddu a thrwsio tŷ gwag yn gyflym ac yn effeithlon mewn timau bach - a helpu i lenwi'r bwlch sgiliau.
Yr unig broblem yw'r diffyg hyfforddiant ac aseswyr amlsgiliau. Gan fod y rhan fwyaf o hyfforddwyr yn arbenigwyr mewn crefft arbennig, mae'n anodd cael aseswyr sy'n gallu cwmpasu cwrs aml-grefftiau.
Os ydych chi am wneud rhywbeth…
“Nid oedd gan ein colegau lleol yr adnoddau i ymdopi ag hyfforddiant amlsgiliau. Ac mae canfyddiadau yn parhau yn y diwydiant y gallwch ymarfer un grefft yn unig yn iawn,” meddai Michael Dickinson, Pennaeth Datblygu B4Box.
“Mae'n broblem iâr ac wy. Mae'n anodd cael hyfforddiant amlsgiliau oherwydd nad oes llawer o hyfforddwyr ac aseswyr ag amlsgiliau.
“Mae llawer o ficrofusnesau yn amlsgiliau eisoes, ond nid yw eu pobl yn tueddu i gael y cymwysterau i'w dangos ar ei gyfer. Mae hefyd yn anodd iawn recriwtio hyfforddwyr amlsgiliau achrededig.
“Felly fe wnaethom benderfynu ei wneud ein hunain a datblygu ein cwrs hyfforddi amlsgiliau ein hunain yn fewnol.”
Datblygu gallu amlsgiliau
Mae Michael yn dweud na fyddai'r broses wedi bod yn bosib heb gymorth cyllid o £48,000 gan CITB. Canfu'r cwmni ddau weithiwr amlsgiliau profiadol iawn i'w hyfforddi fel aseswyr.
Fe wnaeth y ddau ohonynt gymhwyso'n llwyddiannus; daeth un yn hyfforddwr ac aseswr adeiladu aml-grefft amser llawn wedi'i leoli yng nghanolfan hyfforddi B4Box, ac mae'r llall yn cyfuno'r cyfrifoldebau hynny â goruchwylio safle.
Erbyn hyn, nid yn unig mae gan y cwmni y gallu i hyfforddi ac uwchsgilio eu gweithlu pan fydd yn addas i'w hanghenion penodol, ond hefyd mae ganddo ddarparwr hyfforddiant aml-grefft rhanbarthol sydd wedi'i achredu'n llawn.
Newid bywydau
Hefyd, roedd cyllid CITB yn caniatáu iddynt hyfforddi 6 o oedolion newydd fel gweithwyr amlsgiliau. Roedd pob un ohonynt dros 25 oed a dau dros 40 oed - ac ar y pryd nid oedd cyllid y wladwriaeth ar gael iddynt ar gyfer prentisiaethau.
“Roedd ymgynghorydd cyflogaeth wedi dweud wrth un ohonynt na fyddai erioed yn gweithio eto. Roedd o'r farn y byddai ar fudd-daliadau am weddill ei fywyd, ond erbyn hyn mae ganddo sgiliau, wedi'i gymhwyso ac yn un o'n arweinwyr tîm.”
Ciplun
Cwmni: B4Box
Sector: Atgyweirio a chynnal a chadw
Maint y cwmni: canolig
Lleoliad: Stockport
Yr her: Datblygu gallu hyfforddi amlsgiliau
Cyllid: £48,000 mewn cyllid CITB ar gyfer arloesi, peilotiaid a phrototeipiau
Effaith: Fe wnaeth pob hyfforddai gymhwyso'n llwyddiannus â sgiliau lluosog ac enillodd y cwmni achrediad llawn fel darparwr hyfforddiant
"Mae gan y DU brinder cronig o sgiliau ac mae gan bob cwmni gyfrifoldeb i fynd i'r afael â hyn”
- Michael Dickinson, Pennaeth Datblygu yn B4Box
Fe gyflawnodd yr ymgeiswyr 3.5 gwaith yn fwy o gredydau nag oedd arnynt eu hangen i gael eu NVQs. Gellid fod wedi ei wneud yn gyflymach ac yn rhatach, ond fe wnaeth y cwmni gymryd y safbwynt hirdymor, gan ddeall bod gweithwyr amlsgiliau yn hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn y pen draw.
Mewn gwirionedd, roedd eu hymchwil - a wnaed hefyd â chymorth cyllid CITB - wedi canfod y byddai ailwampio tŷ cyfan yn cymryd 17% yn llai o amser i 4 gweithiwr amlsgiliau nag 8 gweithiwr crefft sengl, a gwneud cyfanswm arbedion cost o bron i 38%. “Roedd cymorth CITB yn hanfodol wrth newid bywydau'r bobl hyn,” meddai Michael.
Cyfrifoldeb i greu cyfle
“Ni fyddai'r oedolion hynny wedi cael y cyfle fel arall. Mae angen inni ganfod ffyrdd o gael pobl i mewn i'r diwydiant, i ddarparu llwybrau,” Michael says.
O'r chwech o bobl a hyfforddwyd, arhosodd tri ohonynt yn B4Box, aeth dau i gwmnïau eraill a daeth un yn hunangyflogedig: "Efallai y byddant yn aros gyda ni neu symud ymlaen. Y pwynt yw bod yr unigolion hyn wedi elwa ac mae'r diwydiant yn gyffredinol wedi elwa hefyd.
“Mae gan y DU brinder cronig o sgiliau ac mae gan bob cwmni gyfrifoldeb i fynd i'r afael â hyn, yn arbennig â Brexit a'n poblogaeth sy'n heneiddio.
“Creu sylfaen sgiliau well ar gyfer diwydiant yw'r peth cywir i Brydain.”
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth