Facebook Pixel
Skip to content

Hyfforddiant ATLAS yn cyrraedd uchelfannau newydd ar ôl cael cyllid ychwanegol

Yn 2015, roedd Cymdeithas Arbenigwyr Goleuadau Technegol a Mynediad (ATLAS) yn wynebu her.

Pan gyhoeddodd y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu y byddai angen i bob gweithiwr gael Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) wedi'i achredu gan y diwydiant ar lefel 2 neu 3 erbyn 2020, bu'n rhaid i ATLAS weithredu'n gyflym.

Gyda chymorth ariannol gwerth £64,000, mae'r cwmni yn cyflawni'r targed – ac yn anelu'n uwch.

Dim amser i'w wastraffu

“Roeddem yn gwybod y byddai'n rhaid i ni wella sgiliau ychydig gannoedd o bobl a bod angen i ni sicrhau bod gan gwmnïau'r meddylfryd cywir i wneud hynny nawr,” meddai Sarah Garry, rheolwr cymdeithas fasnach ATLAS.

Mae ATLAS yn cynrychioli 50 o gwmnïau a 1,300 o weithredwyr ledled y DU. Roedd gan lawer o weithwyr ddegawdau o brofiad ym maes atal difrod a achosir gan fellt, ond dim ond rhai a oedd wedi ennill yr NVQ gofynnol.

“Petaem yn aros tan 2020, sef y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â'r gofyniad, byddai'r galw mor fawr fel na fyddem yn gallu gwarantu y byddai pobl yn cael eu cymhwyster,” meddai Sarah. 

Cyllid yn cyflawni'r nod

Er mwyn helpu i ateb yr her, datblygodd ATLAS raglen hyfforddi. Ei tharged oedd sicrhau bod 40 o weithredwyr yn ennill y cymhwyster gofynnol yn y flwyddyn gyntaf, ac 20 o bobl eraill bob blwyddyn ar ôl hynny.

Er mwyn ariannu'r prosiect, gwnaeth gais am gyllid arloesedd, profion a phrototeipiau gan CITB, a dyfarnwyd £64,000 iddi.

Mae pethau wedi symud yn gyflym. Mae ATLAS hanner ffordd tuag at gyflawni ei tharged ar gyfer y flwyddyn gyntaf gydag 20 o bobl ar y ffordd tuag at gyrraedd y safon newydd.

“Mae'r adborth wedi bod yn wych”, meddai Sarah. “Roedd ein haelodau yn falch iawn ein bod wedi mynd i'r afael â'r problemau roeddent yn eu hwynebu o ran hyfforddiant ac mae pobl bellach yn gofyn a oes mwy o leoedd ar gael. Yn ddiau, mae wedi ysgogi awydd am hyfforddiant.”

Mentrau hyfforddi yn cyrraedd uchelfannau newydd

Mae dyheadau ATLAS o ran hyfforddiant wedi ehangu'n sylweddol ers iddi sicrhau'r cyllid gan CITB.

Meddai Sarah: “Rydym wedi dechrau cynllun sy'n gysylltiedig ag adnewyddu cardiau CSCS. Mae'n golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy'n adnewyddu ei gerdyn ddilyn cwrs hyfforddi undydd ychwanegol.”

“Rydym hefyd yn datblygu rhaglen gwella sgiliau ar gyfer ein peirianwyr technegol. Mae'n golygu y byddai unrhyw un sydd â chymhwyster NVQ lefel 2 yn cael hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth a chymorth er mwyn ei helpu i ennill cymhwyster lefel 3.”

Mae'r dyfodol yn argoeli'n dda

Wrth i ATLAS ddathlu 70 mlynedd mewn busnes, mae'r sefydliad yn disgwyl denu llawer mwy o bobl i'r sector.

Mae'r mentrau hyfforddi newydd, gyda chymorth ariannol CITB, wedi agor y drws i fwy o bobl ifanc ymuno â'r diwydiant.

“Gan ein bod yn faes mor arbenigol, mae cyflogwyr bob amser wedi dibynnu ar argymhelliad personol a chysylltiadau teuluol wrth ddod o hyd i brentisiaid. Gyda'r mathau hyn o brosiectau ar waith, gallwn gynnig llwybr gyrfa clir i lawer mwy o bobl.”

Ciplun

Cwmni: Cymdeithas Arbenigwyr Goleuadau Technegol a Mynediad (ATLAS)
Sector:  Diogelu rhag mellt a simneiwyr

Her:  Sicrhau bod mwy na 200 o weithwyr yn ennill cymhwyster NVQ lefel 2 a 3 erbyn 2020
Ateb:  Rhaglen i wella sgiliau gweithwyr gan ddefnyddio £64,000 o arian CITB
Effaith:  40 o weithwyr ar y ffordd tuag at ennill cymhwyster NVQ; disgwylir i 20 o weithwyr eraill wneud hynny bob blwyddyn. Diddordeb o'r newydd mewn hyfforddiant a sefydlwyd mentrau newydd

"Roedd ein haelodau yn falch iawn ein bod wedi mynd i'r afael â'r problemau roeddent yn eu hwynebu o ran hyfforddiant. Yn ddiau, mae wedi ysgogi awydd am hyfforddiant”

- Sarah Garry, rheolwr cymdeithas fasnach ATLAS

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth