“Ers hyfforddi, mae'r gwaith yn llawer cyflymach”
Gall hyfforddiant a ariennir gan CITB ysbrydoli ac adfywio gweithwyr o bob oedran mewn busnes, rhaid i chi ond ofyn i M.B. Roche & Sons Ltd.
Ym mis Gorffennaf 2016 dyfarnwyd £5,000 i'r cwmni o Hull, o Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB, i hyfforddi deg o gyflogeion mewn Cymwysterau Gwaith Stryd.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwmni, Daniel Roche, fod y penderfyniad i uwchsgilio wedi arwain at nifer o fanteision.
“Ers hyfforddi staff, mae eu gwaith yn llawer cyflymach ac nid oes unrhyw ddiffygion,” meddai.
“Roedd yr hyfforddiant yn wych ar gyfer y llanciau iau, gan eu galluogi i wneud pethau'n gywir o'r dechrau'n deg.
“Roedd hefyd yn gwrs gloywi da iawn i'n gweithwyr hŷn sydd wedi bod yn gwneud gwaith stryd ers blynyddoedd.”
Morâl
Dywed Daniel nad yw'r mwyafrif o staff Roche yn unigolion academaidd, felly roedd yr hyfforddiant, a wedyn derbyn tystysgrif am eu hymdrechion, wedi rhoi hwb i'w hyder. “Mae wedi bod yn wych ar gyfer morâl,” meddai.
Gan gyfeirio at sut mae'r hyfforddiant Gwaith Stryd wedi rhoi hwb i'w waith, dywedodd Dave, un o Weithredwyr Gwaith Stryd Roche: “Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant cefais gymhwyster ffurfiol am yr hyn rwy'n ei wneud yn fy rôl o ddydd i ddydd.
“Dangosodd yr adran rheoli traffig pa arwyddion sydd eu hangen arnaf ond, yn bwysicach fyth, ym mha drefn y dylwn eu rhoi allan ac yna eu tynnu i lawr er mwyn fy nghadw'n ddiogel.
“Roedd yn wych mynd i'r afael â'r theori hefyd. Helpodd fi i ddeall pam ein bod yn rhoi gwahanol haenau o adeiladwaith ar y ffyrdd.”
Cystadleuol
Dywedodd Daniel fod yr hyfforddiant wedi gwneud y cwmni teuluol yn fwy cystadleuol ar gyfer gwaith cyngor arfaethedig.
“Mae uwchsgilio'n golygu bod gennym fynediad at brosesau tendro nad oes gan gwmnïau â gweithredwyr llai cymwysedig fynediad atynt,” meddai.
“Ar hyn o bryd, rydym yn tendro am y Fframwaith YORcivil2, sef gwaith cyngor a ddyfernir ar sail sgôr sy'n cyfuno pris ac ansawdd. Gobeithio y bydd ein lefelau newydd o hyfforddiant yn rhoi sgôr ansawdd uwch i ni, gan wella ein siawns o ennill contractau.”
Cynhyrchiol
Mae'r hyfforddiant a gyflwynwyd gan M.B.Roche and Sons Ltd yn golygu bod ei weithlu'n fwy cynhyrchiol ac effeithlon. Dywed Daniel fod lefel boddhad presennol cyflogeion yn 78% tra bod lefel boddhad cleientiaid yn 93%.
“Mae gweithlu sydd wedi'i hyfforddi’n llawn yn fwy prysur, effeithlon a chynhyrchiol ac mae'n gwneud synnwyr busnes da,” meddai Daniel. “Mae hefyd yn cyfleu neges gadarnhaol, nid yn unig i gyflogeion ond i gwsmeriaid, cleientiaid a'n cymuned ehangach.”
Mae Daniel yn awyddus i barhau i hyfforddi staff a rhoi cyfleoedd i bobl sydd am ymuno â'r sector adeiladu.
“Mae llawer o'r gweithwyr adeiladu hŷn yn ymddeol ac yn mynd â blynyddoedd o sgiliau a phrofiad amhrisiadwy gyda nhw” meddai.
“Yn anffodus, nid oes digon o bobl ifanc yn ymuno â'r diwydiant i'w gynnal. Ein nod yw gwneud gwahaniaeth ymysg y ‘genhedlaeth goll’ o bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth nac hyfforddiant.
“Ein nod yw arwain y diwydiant yn y rhanbarth o ran hyfforddiant peirianneg sifil.”
Cipolwg
Cwmni: M. B. Roche & Sons Ltd.
Sector: Peirianneg sifil
Lleoliad: Hull
Her: Uwchsgilio deg o gyflogeion gan eu galluogi i ennill Cerdyn Cofrestru Cymwysterau Gwaith Stryd ar gyfer Gweithredwyr.
Effaith:
- Hyfforddwyd deg o gyflogeion
- Mae safon a chyflymder y gwaith wedi gwella.
- Rhoddwyd hwb i forâl a hyder staff ac i'w dealltwriaeth o'u gwaith.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth