Precision Geomatics Limited: “Daeth cyllid CITB â llawer o fanteision”
Ceisiodd Precision Geomatics gyllid gan CITB i roi hwb i'w dyheadau i dyfu
Ers 2004 mae'r cwmni, sy'n arbenigo mewn cyflenwi cyfarpar Tirfesur a Diogelwch, wedi tyfu'n gyflym, gyda nifer y staff yn treblu o 14 i dros 40 o gyflogeion.
Gyda rhagor o dwf yn ddisgwyliedig, penderfynodd Precision Geomatics hyrwyddo ei fusnes yn fwy effeithiol i gleientiaid newydd a chleientiaid presennol drwy wneud cais i Gronfa Hyblyg Sgiliau a Hyfforddiant CITB am £5K o gyllid er mwyn helpu i uwchsgilio ei dimau gwerthu a marchnata. Fel yr eglura Rheolwr Gyfarwyddwr Precision Geomatics, Carole Bookless, cafodd yr arian effaith sylweddol ar y cwmni.
Hyfforddiant o ansawdd
“Daeth yr arian â llawer o fanteision” meddai Carole.
“Galluogodd ni i hyfforddi naw aelod o staff ar sut i lunio strategaeth sgiliau a marchnata a'i rhoi ar waith ac edrych ar y ffordd rydym yn cyflwyno tendrau. Helpodd ni i sicrhau bod gennym strategaeth glir yn y tymor canolig i'r hirdymor.
“Ers cael yr arian mae gennym dempledi safonol ar draws y busnes” ychwanegodd. “Mae hyn o gymorth i ni pan fyddwn yn dod â phobl i mewn i'r tîm ac mae'n rhoi eglurder i'n strategaeth.
“Rydym hefyd wedi cynnal digwyddiadau sydd wedi dod â ni yn nes at ein cleientiaid. Yn fuan byddwn yn ail-frandio ein sefydliad ac yn lansio gwefan e-fasnach hefyd.
“Mae'r arian wedi galluogi'r manteision hyn. Heb y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant, ni fyddem wedi gallu fforddio'r hyfforddiant o ansawdd y gwnaethom ei brynu gan gwmni lleol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (Company Shortcuts).”
Adborth cadarnhaol
Dywed Carole fod staff wedi mwynhau'r hyfforddiant a ddarparwyd gan Company Shortcuts.Roedd yr adborth yn cynnwys: “Roedd yr hyfforddiant yn berthnasol i'n hamcanion.
Roedd yn llawn gwybodaeth, yn rhyngweithiol ac yn bersonol. Cyfrannodd pawb. Mwynheais wrando ar alwadau ffôn / darllen e-byst enghreifftiol.”
Ysgrifennodd aelod arall o staff: “Roedd chwarae rôl yn ddefnyddiol; roedd y cyfan o fudd i'm rôl.”
Proses gwneud cais hawdd
Dywedodd Caroline fod y broses o wneud cais am gyllid yn syml ac y bydd Precision Geomatics yn gwneud cais am ragor o arian yn y dyfodol.
“Nid wyf yn un sy'n hoff o ffurflenni cais,” meddai “ond roedd y broses ar-lein yn gyflym, yn hawdd ac yn gryno, ac mae wedi cael effaith hirdymor ar y ffordd rydym yn gweithio.”
Cipolwg
Cwmni: Precision Geomatics Limited
Sector: Adeiladu/Peirianneg Sifil
Lleoliad: Sunderland a Dwyrain Kilbride
Her: Rhoi hwb ddyheadau twf drwy uwchsgilio staff gwerthu a marchnata
Datrysiad: £5K o gyllid gan CITB
Effaith:
- Hyfforddwyd naw aelod o staff i lunio strategaeth sgiliau a marchnata a thendrau gwell.
- Cynhaliwyd digwyddiadau i wella cysylltiadau â chleientiaid, ac mae hyder staff wedi gwella.
- Mae gan Preicision strategaeth gwerthu a marchnata glir ac mae mewn sefyllfa dda ar gyfer ail-frandio sydd ar fin digwydd, twf a lansio gwefan e-fasnach.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth