CCTAL - Rhywbeth newydd ar gyfer rhywbeth hen o Gymdeithas Hyfforddi Adeiladu Sir Gaerfyrddin Cyfyngedig
Ag oddeutu traean o'r adeiladau yng Nghymru wedi'u hadeiladu cyn 1919, mae galw mawr y tu mewn i'r diwydiant am arbenigwyr treftadaeth cymwys - ond mae diffyg cyrsiau hyfforddi ar gael.
Mae galw cynyddol yng Nghymru am wybodaeth o adeiladau traddodiadol, ac ymwybyddiaeth o'r sgiliau a'r deunyddiau sydd eu hangen i weithio arnynt, lle mae treftadaeth bensaernïol gyfoethog ac amrywiol.
Ond ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar gael i ennill cymwysterau ffurfiol ar sut i gynnal, cadw a thrwsio'r adeiladau hyn yn briodol.
Er mwyn unioni'r prinder sgiliau hwn, mae Cymdeithas Hyfforddi Adeiladu Sir Gaerfyrddin Cyfyngedig (CCTAL) wedi ymuno â Chadw, y gwasanaeth amgylchedd hanesyddol cenedlaethol, Sgiliau Adeiladu Cyfle a Chanolfan Tywi, sy'n arbenigo mewn adfer treftadaeth, i ddatblygu cwrs prentisiaeth peilot wedi'i anelu'n benodol at unigolion sy'n gweithio ar adeiladau traddodiadol.
I wneud hynny, roedd arnynt angen cyllid CITB.
Pwysigrwydd cyllid
Cyfrifoldeb Lynette Daniels, Swyddog Hyfforddi CCTAL, oedd gwneud y cais.
"Roedd y broses yn eithaf cyffrous, yn frawychus hyd yn oed - ond fyddwn i ddim yn petruso i'w wneud eto. Heb y cyllid fydden ni ddim wedi cael yr adnoddau i drefnu'r cwrs," meddai.
"Roedd gennym gyfathrebu da â CITB felly roedden ni'n gwybod yn union beth oedd y terfynau amser a'r amserlenni. Roedd y taliad yn brydlon a doedd dim rhaid inni aros. "
 budd cyllid CITB o fwy nag £13,000, roeddent yn gallu rhedeg cwrs newydd, Gwobr Lefel 3 mewn Trwsio a Chynnal Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919) yng Nghanolfan Tywi.
Ciplun
Cwmni: Cymdeithas Hyfforddi Adeiladu Sir Gaerfyrddin Cyfyngedig (CCTAL)
Sector: Cymdeithas hyfforddi'n cefnogi a hyrwyddo'r diwydiant adeiladu yn Sir Gaerfyrddin
Yr Her: Mynd i'r afael â phrinder sgiliau ar gyfer gwaith adeiladu mewn hen adeiladau
Math o gronfa: Cronfa hyblyg CITB
Swm a ddyfarnwyd: £13,012
Effaith: Datblygu cymhwyster Lefel 3 newydd ar gyfer prentisiaid sy'n chwilio am yrfaoedd yn y sector treftadaeth.
Fe'i cymerwyd gan 29 o brentisiaid Lefel 2 a 3 a oedd eisoes yn astudio plastro, gwaith coed, paentio ac addurno, gosod briciau a chyrsiau trydanol, ond a oedd am ehangu eu gwybodaeth i'w defnyddio mewn adeiladau traddodiadol.
Cyrsiau newydd ar gyfer hen dechnegau
Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys dysgu theori ac ymarferol, â gweithdai ar dechnegau traddodiadol, megis defnyddio mortar calch, deddfwriaeth gadwraeth, ymweliadau ag adeiladau enghreifftiol, a thrafodaethau ynghylch cyfleoedd gyrfaol yn y sector adeiladu treftadaeth.
Roedd adborth o'r cwrs yn gadarnhaol iawn gyda'r holl brentisiaid yn cytuno eu bod wedi cael dealltwriaeth gwell o sut i weithio ag adeiladau hŷn, a 13 yn ennill Gwobr Lefel 3.
"Roedd y cwrs yn heriol i rai o'r prentisiaid ond roedd pawb yn cymryd rhywbeth defnyddiol i ffwrdd," meddai Lynne.
"Dywedon nhw pa mor ddiddorol a buddiol oedd e ac roedden nhw'n canfod ei fod wedi ychwanegu at eu cymhwyster traddodiadol.”
"Dywedodd yr holl gyflogwyr inni siarad â nhw y byddai prentisiaid a oedd yn gwybod am hen adeiladau yn ased iddynt."
Er bod y Wobr Lefel 3 bellach wedi'i sefydlu yng Nghanolfan Tywi, mae datblygwyr y cwrs yn cydnabod bod angen cyrsiau ymarferol lefel is eraill â hyfforddiant treftadaeth wedi'i ymgorffori ar bob lefel o raglenni prentisiaeth NVQ.
Dywed Lynne, "Ni allai unrhyw ran o hyn fod wedi cael ei wneud heb gymorth cyllid CITB."
Heb y cyllid fydden ni ddim wedi cael yr adnoddau i drefnu'r cwrs."
Lynette Daniels, Swyddog Hyfforddi CCTAL
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth