Facebook Pixel
Skip to content

Y Gymdeithas Pren Strwythurol 

“Roedd arian CITB yn hanfodol i ni”

“Fel cymdeithas fasnach gymharol fach ni allem fforddio gwneud fideo diogelwch heb gymorth ariannol. Efallai y byddai sefydliadau eraill yn meddwl bod y swm a gawsom gan CITB yn fach, ond roedd yn hanfodol i ni.”

Dyna eiriau Andrew Carpenter, Prif Weithredwr y Gymdeithas Pren Strwythurol (STA).

Cafodd STA, sef prif gymdeithas bren y DU, £15,000 o Gronfa Hyblyg a Strwythuredig CITB i wneud fideo diogelwch tân ar gyfer ei haelodau a'r diwydiant adeiladu ehangach.

Fel yr esbonia Andrew, penderfynwyd gwneud y fideo, a lansiwyd yn ystod gwanwyn 2016, yn dilyn cyfarfod iechyd a diogelwch pwysig gydag ASau.

“Cafodd cydweithiwr a minnau ein galw gerbron un o Bwyllgorau Dethol Tŷ'r Cyffredin ym mis Rhagfyr 2014 ar ôl i Bensaer yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr fethu â chydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli),” meddai Andrew.

“Cafodd y pensaer ddirwy o tua £5,000, nad yw'n swm mawr, ond ystyrid bod y niwed i enw da'r diwydiant yn llawer mwy na'r ffigur hwnnw.

Microsoft.CSharp.RuntimeBinder.RuntimeBinderException: 'Newtonsoft.Json.Linq.JValue' does not contain a definition for 'imageObj'
   at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object )
   at ASP._Page_app_plugins_citb_s8080_simpleblock_backoffice_views_frontend_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\app_plugins\citb\s8080.simpleblock\backoffice\views\frontend.cshtml:line 16
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy()
   at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage)
   at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer)
   at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData)
   at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20

“Yn y cyfarfod, cytunwyd bod angen i'r diwydiant gael canllawiau diogelwch tân y gellid eu dilyn a'u hyrwyddo'n hawdd. Roedd angen i ni ledaenu'r neges yn gyflym felly penderfynwyd gwneud fideo.”

Dywed Andrew fod y broses o wneud cais am gymorth ariannol gan CITB yn glir ac yn syml ac na chymerodd ond tri mis o'r dyddiad y cyflwynwyd y cais iddynt gael yr arian. Dywed fod y fideo wedi cael effaith enfawr.

Hyd yma mae wedi'i lawrlwytho 400 o weithiau ac mae wedi cael sylw mewn amrywiaeth o gyhoeddiadau masnach. At hynny, mae Papur Gwyn ar y canllawiau diogelwch wedi'i lunio; mae 'Vine' wedi'i animeiddio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol wrthi'n cael ei ddatblygu.

“Byddwn yn rhoi adborth i CITB ar sut mae'r cymorth ariannol wedi gweithio dros y tair blynedd nesaf,” meddai Andrew, sy'n ychwanegu bod llwyddiant y cais wedi codi codi awydd STA i wneud cais am ragor o arian.

“Ar hyn o bryd rydym yn llunio nifer o geisiadau newydd am arian gan gynnwys un i uwchraddio gweithlyfrau gweithgynhyrchwyr a chais sydd â'r nod o annog plant ysgol i ymuno â'r diwydiant.”

Gwyliwch y fideo “Designers Guide to Structural Timber Frame for Safety during Construction.”

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth