Prosiectau A Ariennir Sydd Ar Gael
Enw’r Prosiect: Sesiynau Blasu Rhithiol
Partneriaid Dan Gontract: Careers Collective Ltd
Mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo adeiladu fel llwybr gyrfa uchelgeisiol ac yn cefnogi unigolion i wneud dewisiadau gyrfa da trwy fideo rhagflas tair munud a deunyddiau dysgu ategol.
Gwyliwch y fideo yma: Am Adeiladu a CITB yn Archwilio Adeiladu: Adeiladu Dyfodol Cyffrous
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Careers Collective Ltd
Enw’r Prosiect: Sesiynau Blasu Yr Alban
Partneriaid Dan Gontract: The Edinburgh Chamber of Commerce and Manufactures
Mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo adeiladu fel llwybr gyrfa uchelgeisiol mewn modd gadarnhaol ac yn cefnogi unigolion i wneud dewisiadau gyrfa da trwy gyfres o ddogfennau canllaw i roi eglurder i gyflogwyr ar sut i ddarparu rhagflas o ansawdd da gan gynnwys cynlluniau rhagflas ar gyfer safleoedd adeiladu mawr a bach ac ar draws meysydd sgiliau allweddol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Construction Work Tasters.
Enw’r Prosiect: Dosbarthiadau Meistr mewn Gwaith Brics
Partneriaid Dan Gontract: Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) ac Arolygwyr Adeiladau NHBC
Mae’r prosiect hwn yn cyflwyno sesiynau sy’n cynnig arweiniad ymarferol ar wella ansawdd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o arfer da mewn gwaith brics.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch: Dosbarth Meistr mewn Gwaith Brics wedi’i ariannu’n llawn – Siop NHBC
Enw’r Prosiect: Uwchsgilio Gwaith Brics
Partneriaid Dan Gontract: Canolfan Asesu ABC
Cyrsiau hyfforddiant o ansawdd uchel ar y safle ac oddi ar y safle ar gyfer Bricwyr, trwy ddarparu 16 o gyrsiau hyfforddiant byr a gynigir i’r rheiny mewn addysg bellach a gweithwyr medrus. Cefnogi’r hyfforddiant o diwtoriaid addysg bellach i alluogi darpariaeth barhaus wedi i’r cyllid dod i’w ben.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Canolfan Asesu ABC – NVQs Hyfforddiant fel Briciwr y DU ac Adeiladu
Enw’r Prosiect: Creu cyrsiau newydd mewn Gosod Brics yn seiliedig ar Safonau newydd
Partneriaid Dan Gontract: Canolfan Asesu ABC
Creu cyrsiau hyfforddiant o ansawdd uchel ar y safle ac oddi ar y safle ar gyfer Bricwyr, trwy lansio 16 o gyrsiau hyfforddiant byr a gynigir i’r rheiny mewn addysg bellach a gweithwyr medrus.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Creu cyrsiau newydd mewn Gosod Brics neu’r Canolfan Asesu ABC.
Enw’r Prosiect: Cyflenwi Uniongyrchol Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Partneriaid Dan Gontract: The OM Group, MKC Training Services Ltd
Mae CITB yn buddsoddi £10.5 miliwn i gynnig cyrsiau hyfforddi a chymwysterau mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth sy'n benodol i'r diwydiant adeiladu wedi'u hariannu'n llawn ledled y DU, fel rhan o'r anghenion cymorth a nodwyd gan y diwydiant.
Bydd y comisiwn, a sefydlwyd ac a ddyfarnwyd ym mis Rhagfyr 2022, yn rhedeg tan 31 Mawrth 2026, gan ddarparu 10,500 o gyrsiau arwain a rheoli ILM i reolwyr rheng flaen, goruchwylwyr safle a rheolwyr safle yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae ffi o £154 yn unig i gofrestru gyda’r corff dyfarnu.
Wedi’i gynnwys:
- Pecyn wedi’i ddiffinio ymlaen llaw o 5 modiwl sy’n cwmpasu’r dysgu craidd i fod yn arweinydd gwych
- Canlyniadau mesuradwy: mae asesiad yn y gweithle yn sicrhau bod sgiliau newydd yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol i'ch busnes
- Mae’r 10,500 o leoedd wedi’u dyrannu ar draws y wlad gyfan
- Cymhwyster cydnabyddedig sy’n drosglwyddadwy
- Gellir defnyddio'r cyrsiau fel datblygiad personol ar gyfer rhywun nad yw'n barod i symud i rôl oruchwyliol ond sy'n rhan o'u huchelgeisiau gyrfa hirdymor
- Ymarferiad Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefel 3 ILM ar gyfer y Cymhwyster Sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Gellir defnyddio'r cymhwyster i wneud cais am Gerdyn CSCS Gwyn (academaidd).
Mae'r lleoedd cymhwyster a ariennir yn llawn yn cael eu darparu gan y partneriaid hyfforddi canlynol:
The OM Group
Darparu cyrsiau ar-lein ac yn bersonol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
MKC Training Services Ltd
Darparu cyrsiau ar-lein ac yn bersonol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
Am ragor o wybodaeth am y llwybrau hyfforddiant Arwain a Rheoli y mae CITB yn eu cynnig, ewch i Hyfforddiant Arwain a Rheoli gyda CITB.
Enw’r Prosiect: Arweinyddiaeth Ddigidol
Partneriaid Dan Gontract: Grŵp Hyfforddi Adeiladu Swydd Gaerloyw, Prifysgol Leeds Beckett, Setting out for Construction ac Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi
Mae’r ymyriad hwn yn cynnwys 4 prosiect sy’n canolbwyntio ar roi’r sgiliau i arweinwyr adeiladu ysgogi newid digidol.
I gael rhagor o wybodaeth am bob prosiect ewch i’r dolenni isod:
Grŵp Hyfforddi Swydd Gaerloyw
Prifysgol Leeds Beckett neu Arweinyddiaeth Ddigidol LBU
Setting Out for Construction
Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi neu Lawrlwytho Modiwl Hyfforddi Meddylfryd Digidol
Enw’r Prosiect: Comisiwn Hyfforddiant GIRI
Partneriaid Dan Gontract: BAM Nuttall Ltd, Vinci PLC, Kie Infrastructure & Overseas Ltd a VolkerStevin Infrastructure Ltd
Mae comisiwn hyfforddiant GIRI (Get It Right Initiative) i gefnogi ac i gyflogwyr ddod yn Ddarparwyr Hyfforddiant Cymeradwy GIRI gan felly arfogi hyfforddwyr mewnol priodol â’r sgiliau, y wybodaeth a’r offer i gyflwyno hyfforddiant achrededig GIRI i tua 5,000 o unigolion o fewn eu gweithlu a’u cadwyn gyflenwi eu hunain. Bydd y comisiwn hefyd yn rhoi cyfle i gynhyrchu a chasglu tystiolaeth o fanteision yr hyfforddiant o ran yr effaith ar gynhyrchiant a chost ac amlder gwallau ar brosiectau a sefydliadau.
Mae cynllun hyfforddi achrededig GIRI yn targedu achosion sylfaenol gwallau yn uniongyrchol ac yn grymuso cwmnïau, timau prosiect ac unigolion i wneud pethau’n gywir y tro cyntaf. Mae cyrsiau GIRI yn galluogi gweithwyr i ddatblygu’r sgiliau cywir i ddeall ar y cyd, rhagdybio ac osgoi gwallau yn eu gwaith bob dydd.
Y tair ffrwd o hyfforddiant yw:
- Hyfforddiant arweinyddiaeth – Strategaethau i ddileu gwallau, ar gyfer arweinwyr sefydliadau ac arweinwyr prosiectau adeiladu
- Hyfforddiant ar draws rhyngwynebau – Technegau i osgoi gwallau rhyngwyneb mewn dylunio ac adeiladu, ar gyfer rheolwyr a dylunwyr
- Sgiliau goruchwylio a rheoli – Sgiliau goruchwylio a chynllunio i atal gwallau yn ystod y gwaith adeiladu, ar gyfer goruchwylwyr a rheolwyr safle.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Comisiwn Hyfforddiant GIRI - Vinci PLC, neu Comisiwn Hyfforddiant GIRI - BAM Nuttall Ltd.
Enw’r Prosiect: Iechyd Meddwl ar gyfer Prentisiaid Adeiladu
Partneriaid Dan Gontract: Optima UK Inc Ltd
Bydd y cynllun peilot hwn yn darparu tystiolaeth sy’n cyfrannu at fynd i’r afael â phroblemau allweddol y diwydiant o ran cyfraddau cwblhau prentisiaethau ac atal colli talent trwy ddarparu cymorth iechyd meddwl a hyfforddiant ymwybyddiaeth i newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant adeiladu. Byddai hyn yn helpu i ddeall sut y gall addysg a chymorth iechyd meddwl gyfrannu at wella cyfraddau cadw unigolion yn ystod eu prentisiaethau adeiladu, yn ogystal â lleihau eu tebygolrwydd o argyfwng iechyd meddwl pan fyddant yn y gweithle.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: ARE-U-OK-UK (optima-uk.com) neu Iechyd Meddwl.
Enw’r Prosiect: Tegwch, Cynhwysiant a Pharch
Partneriaid Dan Gontract: Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) ac Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi
Mae'r prosiect hwn yn darparu ystod o hyfforddiant sy'n hyrwyddo diwylliant o degwch, cynhwysiant a pharch (FIR). Mae’r prosiect hwn hefyd yn helpu arweinwyr a rheolwyr yn y diwydiant adeiladu i wella cynhwysiant ac i hyfforddi Llysgenhadon FIR i ledaenu’r manteision ar draws y diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Prosiect FIR neu SCS - FIR.
Enw’r Prosiect: Lles mewn Adeiladu
Partneriaid Dan Gontract: Laing O’Rourke, Clwb Lighthouse a Samariaid
Paratoi’r diwydiant adeiladu’n well i reoli materion iechyd meddwl, lles a gwytnwch y maent yn dod ar eu traws yn y gweithle, trwy ddatblygu a darparu hwb dysgu digidol iechyd meddwl a lles. Â ffocws ar ficro-sefydliadau anodd eu cyrraedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Lles mewn Adeiladu.
Enw’r Prosiect: Cyfleoedd Adeiladu yn Lloegr
Partneriaid Dan Gontract: Abbey Access Centre Ltd, Barking Riverside Ltd, Gement, Cyngor Sir Hampshire, Landau Ltd, NFRC, WMCA
Bydd y comisiwn hwn yn canolbwyntio ar y cymorth a ddarperir yn y gweithle yn ystod blwyddyn gyntaf newydd-ddyfodiaid yn y diwydiant adeiladu. Gwneir hyn trwy goetsio swydd, mentora, ymgysylltu â chyflogwyr, cynlluniau cyfeillio neu fesurau cymorth priodol eraill i wella ansawdd a chadw newydd-ddyfodiaid.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
Enw’r Prosiect: Academi Cyfleoedd Adeiladu’r Alban
Partneriaid Dan Gontract: Barnardo’s, Comhairle Nan Eilean Siar
Diben y comisiwn hwn ar gyfer yr Alban yw darparu cymorth i unigolion sy’n ymuno â’r gweithlu adeiladu i oresgyn unrhyw heriau cychwynnol y gallent eu hwynebu a darparu cymorth parhaus yn y gwaith dros gyfnod y comisiwn i wella ansawdd a hirhoedledd canlyniadau gwaith i gyfranogwyr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
Enw’r Prosiect: Gyrfaoedd mewn Llogi
Partneriaid Dan Gontract: Hire Association Europe
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau mynediad a chodi ymwybyddiaeth o’r sector i bobl nad oeddent erioed wedi ystyried llogi fel opsiwn gyrfa hyfyw, gan gynnwys dylanwadu ar benderfynwyr trwy ymgyrch farchnata/hyrwyddo gynhwysfawr.
I gael rhagor o wybodaeth am Yrfaoedd mewn Llogi, ewch i: Hyfforddiant a Phrentisiaethau (hae.org.uk)
Enw’r Prosiect: Hybiau Profiad ar y Safle
Yn 2019 lansiodd CITB yr Hybiau Profiad ar y Safle i helpu i fynd i’r afael â’r heriau recriwtio cymhleth sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Nod yr Hybiau yw darparu newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant sy’n barod am swydd ac sydd wedi cael profiad ar y safle.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r dolenni isod:
Partneriaid Lloegr
Hybiau Profiad ar y Safle yn Lloegr – Mae chwech Hwb Profiad ar y Safle yn weithredol.
Partneriaid Cymru
Hybiau Profiad ar y Safle yng Nghymru – Mae tri Hwb Profiad ar y Safle yn weithredol.
Enw’r Prosiect: Dosbarthiadau Meistr mewn Toi
Partneriaid Dan Gontract: Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) ac Arolygwyr Adeiladau NHBC
Bydd y prosiect hwn yn datblygu ac yn cyflwyno sesiynau dosbarth meistr sy’n cynnig arweiniad ymarferol ar wella ansawdd a hybu ymwybyddiaeth o arfer da ym maes toi.
Enw’r Prosiect: RoofCERT
Partneriaid Dan Gontract: NFRC
Mae’r prosiect hwn wedi sefydlu ac yn hyrwyddo safonau ar draws y diwydiant ar gyfer yr holl ddisgyblaethau toi trwy raglen “Töwr Achrededig”, o’r enw RoofCERT, a fydd yn gweithredu fel llinell sylfaen sgiliau ar gyfer y sector a bydd yn proffesiynoli’r diwydiant.
Am ragor o wybodaeth, ewch yma neu wefan RoofCERT.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth