Facebook Pixel
Skip to content

Cwrs Hyfforddwr Carbon

Arloesedd

Newid diwylliant y diwydiant, Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Cymwysterau a chyrsiau newydd

Esh Construction

Constructing Excellence; is-gontractwyr Esh

Lloegr

£34,600

2016

Masnachol, Tai, Seilwaith, Arbenigol

Bydd y prosiect yn datblygu 'Cwrs Hyfforddwr Carbon', bydd y cwrs hwn yn rhaglen sgiliau gynhwysfawr ar gyfer prentisiaethau adeiladu, gan gyflwyno'r mater o leihau carbon ac arfer gorau rheolaeth ynni i fynychwyr.

Bydd y prosiect yn paraoi'r diwydiant i ymateb i'r amcan 2025 'Gyrru Carbon allan o'r Amgylchedd Adeiledig 2025'.

  • Datblygu pedwar modiwl 'Hyfforddwr Carbon': Newid Hinsawdd; Ynni; Rheoli Ynni a Lleihau Carbon
  • Peilota â chohort o 40 o brentisiaid
  • Datblygu pum astudiaeth achos

01 Meh 2016

30 Medi 2017

Crynodeb o'r prosiect cyflawn

Daeth y prosiect i ben ym mis Rhagfyr 2017.  At ei gilydd cymerodd 113 o unigolion ran yn y cyfnod peilota gan gynnwys prentisiaid Esh Group, aelodau staff, partneriaid cadwyn gyflenwi a chwsmeriaid, gyda 75 yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Erbyn hyn mae Esh wedi gwneud y cwrs hwn yn orfodol ar gyfer eu holl brentisiaid Technegol a Phrifysgol; wedi ymrwymo i bartneriaeth gyda Water Northumbrian i gynnig y cwrs i'w brentisiaid a threfnu bod y cwrs ar gael i nifer o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Northumbria sy'n gweithio ar MSc mewn Diogelwch, Iechyd a Rheoli'r Amgylchedd.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth