Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau'r chwiliad

Wedi canfod 47 prosiect a ariennir. Caiff prosiectau a ariennir eu didoli mewn trefn gronolegol o chwith.

I gael gwybodaeth bellach ar bob prosiect, dewiswch deitl y prosiect

Datblygu a sefydlu system llif gwaith electronig integredig
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Technoleg ddigidol a newydd, Cefnogaeth i gyflogwyr bach
Arweinydd y prosiect:
Building Preservation (Northern) Cyf
Swm a ddyfarnwyd:
£26,540
Crynodeb diwedd y prosiect:

Mae'r prosiect yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau dyblygu cyffredin, gwastraff, gwallau ac aneffeithlonrwydd sy'n effeithio ar gynhyrchiant a phroffidioldeb sefydliad.

Datblygir ap sy'n benodol i'r diwydiant a threfnir y bydd ar gael i'r sector i integreiddio'r swyddogaethau swyddfa gefn â safleoedd allanol. Bydd hyn yn cynnwys pob swyddogaeth swydd o ymholi, a chynllunio, i gwblhau swydd.

Adeiladu Treftadaeth yng Nghymru: cryfhau'r sector trwy hyfforddiant a chymorth
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Adnoddau dysgu, Cymwysterau a chyrsiau newydd
Arweinydd y prosiect:
Tree & Sons Cyf
Swm a ddyfarnwyd:
£260,908
Crynodeb diwedd y prosiect:

Bydd y prosiect yn cynyddu'r nifer o bobl sy'n manteisio ar hyfforddiant treftadaeth yng Nghymru, gan gynyddu'r nifer o gymwysterau a ddarperir a chynyddu ymwybyddiaeth o'r sector treftadaeth yn y diwydiant adeiladu

Adeiladwyr Cartrefi yn cefnogi a datblygu sgiliau yng ngweithlu'r gadwyn gyflenwi bresennol o gontractwyr
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Newid diwylliant y diwydiant, Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Adnoddau dysgu, Cymwysterau a chyrsiau newydd, Sectorau a rolau, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Arwain a Rheoli
Arweinydd y prosiect:
Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi [Home Builders Federation]
Swm a ddyfarnwyd:
£192,055
Crynodeb diwedd y prosiect:

Bydd y prosiect yn adeiladu rhwydweithiau o gyflogwyr yn y gadwyn gyflenwi Adeiladu Cartrefi a hyrwyddo cydweithredu rhwng adeiladwyr cartrefi, is-gontractwyr a'r gadwyn gyflenwi.

Bydd yn nodi anghenion hyfforddi'r rhai hynny sy'n llai ymgysylltu â hyfforddiant, ac yn dylanwadu ar y diffyg ymgysylltiad i gynyddu eu lefel hyfforddiant ac felly cynyddu eu hymgysylltiad â CITB.

Ar ôl nodi anghenion hyfforddi, cyflwynir cyfres o ymyriadau hyfforddi byr eu hyd oddi ar y swydd er mwyn diwallu anghenion y gadwyn gyflenwi. 

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth