Ynglŷn â chonsensws
Os yw CITB eisiau codi Lefi, mae'n rhaid iddo ymgynghori â'r diwydiant adeiladu a chael cefnogaeth diwydiant ynghylch y cynigion ar gyfer y Gorchymyn Lefi nesaf.
Rhaid i CITB ddangos bod ganddo'r gefnogaeth hon bob tair blynedd. Yr enw ar y broses hon yw Consensws.
Unwaith y cyflawnir Consensws, gall yr Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Lefi i awdurdodi CITB i gasglu Lefi gan gyflogwyr fel y gall fuddsoddi yn y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar y diwydiant.
Sut mae Consensws yn cael ei gyflawni?
Mae'r ddeddfwriaeth Hyfforddiant Diwydiannol yn ei gwneud yn ofynnol i CITB gymryd "camau rhesymol" i fodloni'r Ysgrifennydd Gwladol bod y Cynigion Lefi'n angenrheidiol i annog hyfforddiant digonol yn y diwydiant. Mae Rheoliadau Lefi Hyfforddiant Diwydiannol (Camau Rhesymol) 2008 yn nodi beth yw'r "camau rhesymol" hyn.
Gyda phwy yr ymgynghorir â hwy?
Wrth sefydlu a oes Consensws yn y diwydiant o blaid ei Gynigion Lefi, mae CITB yn ymgynghori â 'Sefydliadau Rhagnodedig'. Os yw Sefydliad Rhagnodedig yn cefnogi'r Cynigion Lefi, mae ei holl aelodau sy'n talu'r Lefi yn cyfrif fel rhai sy'n cefnogi'r cynigion.
Mae gan bob cyflogwr gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau ar y Cynigion Lefi'n ystod cam ymgynghori Consensws. Fodd bynnag, dim ond ar y Sianel Ymgynghori bwrpasol ar-lein y gall cyflogwyr gofrestru eu barn. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei rhoi yn ôl i'r Pwyllgor Strategaeth Lefi (LSC) cyn i'r Cynigion Lefi terfynol gael eu hargymell i'r Bwrdd.
Mae Mesur Consensws yn cynnwys y cyfuniad o ymgynghori â Sefydliadau Rhagnodedig a sampl o gyflogwyr heb gynrychiolaeth, fel ffordd effeithiol ac ymarferol o gynnal yr arolwg. Cynhelir yr arolwg sampl gan gorff allanol yn unol â chodau perthnasol y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad, gydag ymatebion yn anhysbys yn llawn. Dewisir yr asiantaeth ymchwil o restr o dai ymchwil annibynnol a gymeradwywyd gan y Llywodraeth. Darperir y brîff gan CITB, ond cynhelir yr arolwg yn annibynnol. Nid yw ac ni ddylai CITB wybod pa gyflogwyr y cysylltir â hwy; fodd bynnag, rhoddir cwotâu caeth ar waith i sicrhau bod yr ymatebion yn cyd-fynd â chyfansoddiad cyffredinol cyflogwyr sy'n talu Lefi nad ydynt yn aelodau o Sefydliad Rhagnodedig.
Sut mae Consensws yn cael ei gyfrif?
Mae CITB yn defnyddio set o Reolau Consensws i gyfrifo Consensws fel a ganlyn:
- Defnyddir y Ffurflen Lefi a aseswyd yn fwyaf diweddar fel sail ar gyfer y cyfrifiad.
- Dim ond y cyflogwyr hynny sy'n cael eu hystyried yn debygol o fod yn atebol i dalu Lefi o dan y Cynigion Lefi sydd o fewn cwmpas eu cyfrif.
- Bydd cyflogwyr na chawsant eu hadnabod yn 'gadarnhaol', gan gynnwys cyflogwyr sy'n aelodau o Sefydliad Rhagnodedig (h.y. a elwid gynt yn Ffederasiynau Consensws) neu gyflogwyr a roddwyd mewn cateogri 'Ddim yn gwybod' ac 'Anhysbys', yn cael eu cynnwys yn y rhestr o gyflogwyr heb gynrychiolaeth.
- Bydd sefydliadau a restrir ar gofrestr y Lefi yn cael eu trin fel rhan o'u cofrestriad rhiant Lefi.
- Rhennir barn cyflogwyr sy'n aelodau o ddau Sefydliad Rhagnodedig neu fwy a bydd eu barn a'u gwerth Lefi yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng y Sefydliadau Rhagnodedig y maent yn perthyn iddynt.
- Pan fydd Sefydliad Rhagnodedig yn cynnwys dau is-sefydliad neu fwy, bydd aelodau'r is-sefydliad yn cael eu cyfrif fel rhan o'r rhiant-sefydliad. Fodd bynnag, pan fo is-sefydliad yn Sefydliad Rhagnodedig ynddo'i hun, bydd aelodau'r is-sefydliad hwnnw'n cael eu cyfrif fel rhan o'r is-sefydliad.
- Rhaid i fwy na 50% o dalwyr Lefi tebygol gefnogi'r Cynigion Lefi.
- Rhaid i gyflogwyr sy'n cefnogi'r Cynigion Lefi dalu mwy na 50% o'r Lefi tebygol.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth