Fframweithiau Cymhwysedd
Gweithgaredd diweddaraf y Fframwaith Cymhwysedd:
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Fframweithiau Cymhwysedd a ganlyn ac maent ar gael ar gyfer cyfnod adolygu ac adborth ar-lein o 30 diwrnod (yn dod i ben ar 30 o Hydref 2024).
Dewiswch yr alwedigaeth a dilynwch yr arolwg i roi adborth:
Beth yw Fframweithiau Cymhwysedd?
Bydd Fframwaith Cymhwysedd yn nodi ac yn diffinio’r gofynion cymhwysedd ar gyfer unigolion ar draws yr Amgylchedd Adeiledig. Maent yn cynnwys Llwybr i Gymhwysedd a dogfen SKEB (Sgiliau, Gwybodaeth, Profiad ac Ymddygiad) a Chynllun Gweithredu.
- Bydd y Llwybr i Gymhwysedd yn amlygu’r llwybrau cymhwyster sydd ar gael i unigolion gyflawni lefel o gymhwysedd.
- Mae’r datganiad SKEB yn rhestru’r sgiliau, y wybodaeth, y profiad a’r ymddygiadau (SKEB) sydd eu hangen i gael cymhwysedd yn y rôl(rolau) a gwmpesir gan y fframwaith ac yn dangos yr hyfforddiant sydd ar gael i gefnogi’r cymwyseddau hynny ac unrhyw ofynion ail-ddilysu.
- Mae Cynllun Gweithredu yn rhaglen ac yn amserlen ar gyfer pob galwedigaeth er mwyn cydymffurfio’n llawn â gofynion y fframwaith cymhwysedd, gan gynnwys darparu’r seilwaith hyfforddi ac asesu angenrheidiol.
Pam fod angen Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y diwydiant adeiladu?
Wrth i’r Ddeddf Diogelwch Adeiladu ddod i rym, bydd yn ofynnol i unigolion brofi eu bod yn gymwys i wneud y gwaith maent yr y safle i’w wneud, felly mae’n hollbwysig bod gennym gymhwysedd wedi’i ddiffinio ar gyfer pob rôl (o fewn cwmpas).
Er bod y Ddeddf Diogelwch Adeiladau ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y rhai sy’n gweithio ar adeiladau risg uwch (HRBs), bydd CITB yn cefnogi Sectorau Uwch Cymhwysedd Gosodwyr WG2, is-grŵp o Grŵp Llywio Cymhwysedd y Diwydiant (ICSG), i ymgynghori â diwydiant i ddatblygu Fframweithiau Cymhwysedd.
Bydd Fframweithiau Cymhwysedd yn helpu i wella cymhwysedd trwy ddarparu eglurder a chysondeb ar draws y diwydiant gyda chysylltiadau â chymwysterau achrededig a hyfforddiant cymeradwy, gan gefnogi’r strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â’r galw am sgiliau hefyd.
O safoni cymhwysedd a nodi’r dirwedd gymwysterau, bydd cynllun gweithredu’n cael ei gynhyrchu a fydd yn helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau a nodir gan y broses ymgynghori a diffinio’r Fframwaith Cymhwysedd.
Datblygu Fframwaith Cymhwysedd
Bydd dull cydweithredol CITB ag Uwch Sectorau Cymwyseddau Gosodwyr WG2 yn cefnogi’r strategaeth ar gyfer datblygu Fframwaith Cymhwysedd safonol, gan wella cydgysylltu rhwng y sectorau er mwyn osgoi bylchau a dyblygu ar draws yr Amgylchedd Adeiledig.
Bydd CITB yn cynnig cyfle i ddiwydiant fod yn rhan o ddatblygu Fframwaith Cymhwysedd, naill ai drwy fod yn rhan o weithgor neu gyfrannu drwy arolygon ar-lein.
Gofynion Gweithgorau (WGs) ac amserlenni nodweddiadol:
- Arbenigwyr yn y diwydiant sy’n gyfarwydd â’r alwedigaeth
- tua unwaith neu ddwywaith y mis (ar-lein)
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb os yw’n well gan weithgorau
- Gall cyfarfodydd fod rhwng un a thair awr (mewn cytundeb â’r gweithgor)
- Rhaid gwneud rhai arolygon, rhag-ddarllen neu adolygu dogfennau ar ôl cyfarfodydd
Bydd cyfnod adolygu ac adborth ar-lein o 30 diwrnod arall ar gael ar ddiwedd yr ymgynghoriad.
- Gwasanaethau sy’n Gysylltiedig â’r Diwydiant:
- Jetio Dŵr
- Cadw Ffasadau
- Trwsio difrod ac ail-wynebu
- Cotio amddiffynnol
- Galwedigaethau Cladin
- Dalennu To a Chladin
- Adeiladu Gan Ddefnyddio Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Oddi Ar Y Safle
- Ffrâm Dur Wedi'i Ffurfio'n Oer - Cydosod
- Ffrâm Dur Wedi'i Ffurfio'n Oer - Codi
- Ffrâm Dur Wedi’i Ffurfio’n Oer- Cydosod/Codi
- Codi Ffrâm Concrit Aeredig Awtoclafio
- Adeilad Modiwlaidd/Cludadwy
- Codi Concrit Wedi’i Rhag-gastio - Lloriau
- Codi Concrit Wedi’i Rhag-gastio - Cladin
- Codi Concrit Wedi’i Rhag-gastio - Strwythurol
- Cladin Ffabrig a Chroen
- Cynnal a Chadw Peiriannau neu offer Adeiladu
- Inswleiddio a Thriniaethau Adeiladu
- Cadw Pren a Gwrthleithder
- Amnewid Tei Wal
- Inswleiddio Waliau Allanol - Byrddiwr
- Inswleiddio Waliau Allanol - Gorffennwr
- Inswleiddio Waliau Allanol – Byrddiwr a Gorffennwr
- Inswleiddio Waliau Ceudod
- Inswleiddio To Oer
- Inswleiddio Mewnol
- Inswleiddio Adrannau Fframiedig o Adeiladau
- Wal Hybrid
- Cartrefi Parc
- Ystafell yn y To
- Inswleiddiad o dan y Llawr
- Inswleiddiad Llawr Solet
- Systemau Mewnol
- Gosodiad Nenfwd
- Pared Symudol Modiwlaidd
- Systemau Pared Gweithredadwy
- Pared Gwydr/Sgrin Fewnol
- Lloriau Mynediad
- Systemau Nenfwd ar Grog
- Gosodiad Nenfwd Estynedig
- Asffalt Mastig
- Decin Metal a Weldio Stydiau
- Gosodwr Deciau Metal
- Weldiwr Stydiau
- Plastro Ffibraidd
- Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff Nad yw’n Beryglus
- Asbestos Trwyddedig
- Gwaredu Gwastraff Peryglus
- Gwaredu Gwastraff Nad yw’n Beryglus
- Galwedigaethau Concrit Arbenigol
- Atgyweirio Concrit
- Concrit wedi’i Chwistrellu
- Arolwg Concrit
- Gosod systemau atgyfnerthu cyfansawdd
- Gosod Amddiffyniad Rhag Cyrydiad i Goncrit
- Concrit Addurniadol
- Paratoi a Phroffilio Swbstrad
- Drilio Concrit
- Llifio Concrit
- Drilio a Llifio Concrit
- Llorio yn y Fan a’r Lle – Screed
- Llorio yn y Fan a’r Lle – Resin
- Llorio yn y Fan a’r Lle – Gosodwr Concrit
- Llorio yn y Fan a’r Lle – Gorffennwr Concrit
- Llorio yn y Fan a’r Lle – Gweithredwr Peiriant Concrit
- Gosod Concrit ar Lawr Arnofiol
- Adeiladu Concrit Wedi’i Inswleiddio
- Galwedigaethau Gosod Arbenigol
- Bleindiau a Chysgodion Solar
- Gosodiad Seliwr Uniadau
- Systemau Storio Diwydiannol – Gosod ac Archwilio
- Gosodwr Cynnyrch, offer a pheiriannau
- Gwaith Metel Pensaernïol
- Gwaith is-strwythur
- Waliau Cynnal
- Gwaith Uwch-strwythur
- Atgyweirio Strwythurol – Atgyfnerthu
- Atgyweirio Strwythurol - Amnewid
- Cryfhau Strwythurol Polymer wedi'i Atgyfnerthu â Ffibr
- Profi, Arolygu ac Archwilio Trylwyr o Alwedigaethau
- Profi, Arolygu ac Archwilio Offer, Peiriannau, Offer neu Ategolion yn drylwyr
- Canfod Gollyngiadau mewn Systemau Dal dŵr
- Profi Seilbyst Dynamig
- Gosod Angorau Adeiladu a Phrofi Safle o Osodiadau Adeiladu
- Systemau toi â chroen gwrth-ddŵr
- Toi â chroen bitwmen wedi’i atgyfnerthu
- Toi ag un haen o groen
- Toi â chroen wedi’i osod ag hylif
Beth mae’r Tîm Safonau’n ei wneud?
Mae’r Tîm Safonau yn cydweithio i ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd ochr yn ochr ag Uwch Sectorau Cymwyseddau Gosodwyr WG2 drwy gyflawni’r canlynol:
- cynnal adolygiadau galwedigaethol
- cynnal gwaith ymchwil cychwynnol
- trefnu cyfarfodydd
- hwyluso cyfarfodydd
- crynhoi nodiadau cyfarfodydd a’r camau gweithredu a nodwyd
- paratoi dogfennau i aelodau’r gweithgor eu hadolygu
- casglu adborth
- gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr yn y diwydiant i sicrhau bod cynnwys y safonau'n diwallu anghenion y diwydiant adeiladu
- annog ymgynghori ac adborth ehangach 4 gwlad
Mae ymroddiad ac angerdd aelodau’r gweithgor yn galluogi CITB i ddatblygu’r Fframweithiau Cymhwysedd, sydd yn eu tro yn helpu’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol – nawr ac yn y dyfodol.
I gysylltu â’r Tîm Safonau, anfonwch e-bost atom: standards.qualifications@citb.co.uk.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth