Deall y broses ar gyfer recriwtio a dethol aelodau newydd o staff ym maes adeiladu
Trosolwg
Hyd
7 awr o ddysgu dan arweiniad
Pwrpas/cwmpas
Pwrpas y safon hon yw galluogi’r cynrychiolydd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r broses recriwtio a chynefino fel sy’n ofynnol gan oruchwylwyr, rheolwyr neu arweinwyr safleoedd posibl neu gyfredol.
Cwmpas:
- canfod diffygion o ran y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u cymhwysedd
- y broses recriwtio a dethol
Perthnasedd galwedigaethol
Byddai’r hyfforddiant a ddarperir mewn perthynas â’r safon hon yn berthnasol i’r grwpiau galwedigaethol canlynol: goruchwylio, rheoli ac arwain.
Rhagofynion i gynrychiolwyr
Nid oes rhagofynion i gynrychiolwyr fel rhan o’r safon hon.
Cyfarwyddyd/goruchwyliaeth
Mewn perthynas â’r safon hon, rhaid i hyfforddwyr y cwrs allu dangos bod ganddynt y canlynol o leiaf:
- dyfarniad mewn addysg a hyfforddiant (neu gymhwyster cyfatebol, yn unol â gofynion sefydliadau hyfforddi cymeradwy)
- eu bod wedi cwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus i’r safon hon (yn ystod y 3 blynedd diwethaf)
- 3 blynedd o brofiad diwydiannol perthnasol
- CV y gellir ei ddilysu
- adnabyddiaeth o brosesau dysgu ac asesu ILM VRQ (dymunol)
Cyflwyno
Rhaid cyflwyno’r hyfforddiant mewn amgylchedd y tu allan i’r gwaith.
Rhaid i’r holl ddeunyddiau a chyfarpar fod yn addas o ran ansawdd a nifer er mwyn i’r cynrychiolwyr gyflawni canlyniadau dysgu, a rhaid iddynt gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Rhaid i faint y dosbarth a’r gymhareb cynrychiolydd/hyfforddwr ganiatáu i’r hyfforddiant gael ei gyflwyno mewn ffordd ddiogel a galluogi’r cynrychiolydd i gyflawni’r canlyniadau dysgu. Ni ddylid dyrannu mwy nag 20 o gynrychiolwyr ar gyfer pob hyfforddwr.
Gellir defnyddio’r dulliau cyflwyno canlynol wrth gyflawni’r safon hon: wyneb yn wyneb, ar-lein.
Ystyrir bod y safon hon yn cynnwys 51% neu fwy o hyfforddiant damcaniaethol.
Ystyrir bod y safon hon wedi’i gosod ar lefel ganolradd.
Asesu
Er mwyn cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, rhaid i’r cynrychiolwyr gwblhau asesiad ar ddiwedd y cwrs sy’n mesur yr holl ganlyniadau dysgu ac sy’n bodloni meini prawf pob un.
Y dull asesu ffurfiol a ystyrir yn briodol ar gyfer yr hyfforddiant a gyflwynir yn erbyn y safon hon yw papur arholiad yn cynnwys 9 cwestiwn. Bydd pob cwestiwn yn seiliedig ar un maen prawf asesu penodol o fewn y canlyniadau dysgu, gyda banc o 2 set o bapurau cwestiynau. Rhaid i’r cynrychiolwyr gael 75% o’r atebion yn gywir er mwyn pasio. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rhaid cael atebion enghreifftiol i sicrhau cysondeb.
Pan fo meini prawf asesu yn ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr “werthuso”, dylid asesu hyn drwy gynnwys ymarferion sy’n seiliedig ar senarios pan fo rhaid i’r cynrychiolydd ddangos cymhwysedd o ran y meini prawf asesu.
Sicrhau ansawdd
Sicrhau
Bydd angen cymeradwyaeth gychwynnol gan y sefydliad hyfforddi i sicrhau ansawdd mewn perthynas â’r safon hon a bydd angen mapio ei gynnwys i gyd-fynd â’r safon.
Bydd CITB hefyd yn cynnal ymyriad cymeradwyo, naill ai wrth ddesg neu drwy ymweld â’r ganolfan, i sicrhau bod y sefydliad hyfforddi yn gallu bodloni gofynion y safon hyfforddiant.
Bydd yn ofynnol i sefydliadau hyfforddi cymeradwy gyflwyno gwybodaeth am gofnodion hyfforddiant ac asesu ar gais i CITB ar gyfer dadansoddiad wrth ddesg. Bydd tîm sicrhau ansawdd CITB hefyd yn ymweld â nhw bob blwyddyn.
Adnewyddu
Nid oes unrhyw ofynion adnewyddu gorfodol na gofynion adnewyddu a argymhellir ar gyfer y safon hon.
Dosbarthiad
Am oes (Sylwch mai dim ond unwaith i bob cynrychiolydd y bydd y safonau sy’n defnyddio’r dosbarthiad hwn yn cael cymorth grant)
Cylch adolygu
Ar gais neu 5 blynedd ar ôl y dyddiad cymeradwyo.
Canlyniadau dysgu
Bydd y cynrychiolydd yn gallu gwneud y canlynol:
- asesu gallu’r tîm mewn perthynas â’r cynhyrchiant wedi’i raglennu, a nodi diffygion yn nifer y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u cymhwysedd
- Rhaid i’r asesiad o’r canlyniad dysgu hwn gynnwys gallu’r cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
- disgrifio sut i adolygu gofynion gwaith yn eich maes cyfrifoldeb
- disgrifio a gwerthuso’r opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â diffygion mewn gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u cymhwysedd
- disgrifio’r dulliau ar gyfer llunio ac adolygu swydd ddisgrifiadau a phroffiliau rôl
- Rhaid i’r asesiad o’r canlyniad dysgu hwn gynnwys gallu’r cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
- nodi proses recriwtio a dethol effeithiol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer y rolau gofynnol
- Rhaid i’r asesiad o’r canlyniad dysgu hwn gynnwys gallu’r cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
- gwerthuso dulliau gwahanol o recriwtio a disgrifio’r manteision a’r anfanteision cysylltiedig
- esbonio meini prawf ar gyfer asesu a dethol ymgeiswyr mewn ffordd deg a chynhwysol
- esbonio proses y sefydliad ar gyfer cyfweld ymgeiswyr
- disgrifio’r dulliau o roi gwybod i ymgeiswyr am hynt eu ceisiadau a sut i roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus
- gwerthuso dulliau gwahanol o ddethol a disgrifio’r manteision a’r anfanteision cysylltiedig
- esbonio sut y gellid gwerthuso’r broses recriwtio a dethol
- Rhaid i’r asesiad o’r canlyniad dysgu hwn gynnwys gallu’r cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
Gwybodaeth ychwanegol am y safon hon
Daw’r safon hyfforddiant hon o’r Safon Galwedigaethol Cenedlaethol INSML020 a thrwy ymgynghori pellach yn y diwydiant.
Argymhellir bod y safon hyfforddiant hon yn cael ei chyflwyno ar y cyd â Deall y broses gynefino ar gyfer aelodau newydd o staff ym maes adeiladu.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth