Facebook Pixel
Skip to content

Deall y broses gynefino ar gyfer aelodau newydd o staff ym maes adeiladu

Trosolwg

Pwrpas y safon hon yw galluogi’r cynrychiolydd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r broses recriwtio a chynefino fel sy’n ofynnol gan oruchwylwyr, rheolwyr neu arweinwyr safleoedd posibl neu gyfredol.

Hyd

4 awr o ddysgu dan arweiniad

Pwrpas/cwmpas

Pwrpas y safon hon yw galluogi’r cynrychiolydd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r broses recriwtio a chynefino fel sy’n ofynnol gan oruchwylwyr, rheolwyr neu arweinwyr safleoedd posibl neu gyfredol.

Cwmpas:

  • camau proses gynefino
  • effeithiolrwydd proses gynefino

Perthnasedd galwedigaethol

Byddai’r hyfforddiant a ddarperir mewn perthynas â’r safon hon yn berthnasol i’r grwpiau galwedigaethol canlynol: goruchwylio, rheoli ac arwain.

Rhagofynion i gynrychiolwyr

Nid oes rhagofynion i gynrychiolwyr fel rhan o’r safon hon.

Cyfarwyddyd/goruchwyliaeth

Mewn perthynas â’r safon hon, rhaid i hyfforddwyr y cwrs allu dangos bod ganddynt y canlynol o leiaf:

  • dyfarniad mewn addysg a hyfforddiant (neu gymhwyster cyfatebol, yn unol â gofynion sefydliadau hyfforddi cymeradwy)
  • eu bod wedi cwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus i’r safon hon (yn ystod y 3 blynedd diwethaf)
  • 3 blynedd o brofiad diwydiannol perthnasol
  • CV y gellir ei ddilysu
  • adnabyddiaeth o brosesau dysgu ac asesu ILM VRQ (dymunol)

Cyflwyno

Rhaid cyflwyno’r hyfforddiant mewn amgylchedd y tu allan i’r gwaith.

Rhaid i’r holl ddeunyddiau a chyfarpar fod yn addas o ran ansawdd a nifer er mwyn i’r cynrychiolwyr gyflawni canlyniadau dysgu, a rhaid iddynt gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Rhaid i faint y dosbarth a’r gymhareb cynrychiolydd/hyfforddwr ganiatáu i’r hyfforddiant gael ei gyflwyno mewn ffordd ddiogel a galluogi’r cynrychiolwyr i gyflawni’r canlyniadau dysgu. Ni ddylid dyrannu mwy nag 20 o gynrychiolwyr ar gyfer pob hyfforddwr.

Gellir defnyddio’r dulliau cyflwyno canlynol wrth gyflawni’r safon hon: wyneb yn wyneb, ar-lein.

Ystyrir bod y safon hon yn cynnwys 51% neu fwy o hyfforddiant damcaniaethol.

Ystyrir bod y safon hon wedi’i gosod ar lefel ganolradd.

Asesu

Er mwyn cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, rhaid i’r cynrychiolwyr gwblhau asesiad ar ddiwedd y cwrs sy’n mesur yr holl ganlyniadau dysgu ac sy’n bodloni meini prawf pob un.

Y dull asesu ffurfiol a ystyrir yn briodol ar gyfer yr hyfforddiant a gyflwynir yn erbyn y safon hon yw papur arholiad yn cynnwys 5 cwestiwn. Bydd pob cwestiwn yn seiliedig ar un maen prawf asesu penodol o fewn y canlyniadau dysgu, gyda banc o 2 set o bapurau cwestiynau. Rhaid i’r cynrychiolwyr gael 75% o’r atebion yn gywir er mwyn pasio. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rhaid cael atebion enghreifftiol i sicrhau cysondeb.

Sicrhau ansawdd

Sicrhau

Bydd angen cymeradwyaeth gychwynnol gan y sefydliad hyfforddi i sicrhau ansawdd mewn perthynas â’r safon hon a bydd angen mapio ei gynnwys i gyd-fynd â’r safon.

Bydd CITB hefyd yn cynnal ymyriad cymeradwyo, naill ai wrth ddesg neu drwy ymweld â’r ganolfan, i sicrhau bod y sefydliad hyfforddi yn gallu bodloni gofynion y safon hyfforddiant.

Bydd yn ofynnol i sefydliadau hyfforddi cymeradwy gyflwyno gwybodaeth am gofnodion hyfforddiant ac asesu ar gais i CITB ar gyfer dadansoddiad wrth ddesg. Bydd tîm sicrhau ansawdd CITB hefyd yn ymweld â nhw bob blwyddyn.

Adnewyddu

Nid oes unrhyw ofynion adnewyddu gorfodol na gofynion adnewyddu a argymhellir ar gyfer y safon hon.

Dosbarthiad

Am oes

(Sylwch mai dim ond unwaith i bob cynrychiolydd y bydd y safonau sy’n defnyddio’r dosbarthiad hwn yn cael cymorth grant)

Cylch adolygu

Ar gais neu 5 blynedd ar ôl y dyddiad cymeradwyo.

Canlyniadau dysgu

Bydd y cynrychiolydd yn gallu gwneud y canlynol:

  1. disgrifio’r broses gynefino
    • Rhaid i’r asesiad o’r canlyniad dysgu hwn gynnwys gallu’r cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
      • disgrifio camau’r broses gynefino mewn sefydliad
      • rhestru pa agweddau cyfreithiol y dylid eu cynnwys ym mhroses gynefino sefydliad

  2. deall gwerth proses gynefino effeithiol
    • Rhaid i’r asesiad o’r canlyniad dysgu hwn gynnwys gallu’r cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
      • esbonio dulliau y gellid eu defnyddio i gofnodi cynnydd unigolyn yn ystod y broses gynefino
      • esbonio manteision proses gynefino gynhwysfawr ac effeithiol ar gyfer y cyflogai a'r sefydliad
      • esbonio sut y gellid gwerthuso proses gynefino

Gwybodaeth ychwanegol am y safon hon

Mae’r safon hyfforddiant hon yn deillio o’r ILM Lefel 3 mewn Ymarfer Rheoli ac Arwain ar gyfer y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig uned 8626-306, Deall y Broses Gynefino ar gyfer Aelodau Newydd o Staff yn y Gweithle a thrwy ymgynghori pellach yn y diwydiant.

Argymhellir bod y safon hyfforddiant hon yn cael ei chyflwyno ar y cyd â Deall y broses ar gyfer recriwtio a dethol aelodau newydd o staff ym maes adeiladu.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth