Cefnogaeth i gynrychiolwyr a darparwr hyfforddiant
Mae tîm Site Safety Plus (SSP) CITB yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr hyfforddiant sy'n gwneud cais i ddod yn ganolfannau SSP, yn ogystal â chynrychiolwyr sy'n dewis SSP ar gyfer eu hyfforddiant.
Rhestrir manylion y math o gefnogaeth sydd ar gael isod.
Cefnogaeth i ddarparwr hyfforddiant
Unwaith y byddwch wedi eich cymeradwyo fel canolfan SSP, byddwn yn darparu un pwynt cyswllt i chi drwy eich cydlynydd cwsmeriaid a enwyd. Gan eu bod yn ymroddedig i chi, maen nhw'n meithrin perthynas agos â'ch canolfan, gan ymdrin â'ch holl ymholiadau a chael yr atebion sydd eu hangen arnoch, pan fyddwch eu hangen.
Eich cydlynydd cwsmeriaid yw eich cyswllt i bopeth sydd angen i chi ei wybod yn ymwneud â Site Safety Plus a Chyrsiau Safle Adeiladu. Os ydych yn ganolfan newydd bydd eich cydlynydd cwsmer yn cysylltu â chi i roi eu manylion cyswllt uniongyrchol i chi.
Am ymholiadau gan unrhyw ganolfannau newydd gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 0344 994 4020 a dewis un o’r opsiynau isod:
- Gogledd ar gyfer canolfannau yng ngogledd Lloegr neu'r Alban
- Ardal y Canol ar gyfer canolfannau yng Ngogledd Iwerddon, Cymru neu ganol Lloegr
- De ar gyfer canolfannau yn ne Lloegr.
Cefnogaeth i gynrychiolwyr
Mae cefnogaeth hefyd i gynrychiolwyr a chyflogwyr. Efallai y byddwch am roi'r wybodaeth ganlynol i gynrychiolwyr neu gyflogwyr fel y gallant gael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Tystysgrifau newydd
I gael tystysgrifau newydd neu gymorth i ddefnyddio ein chwiliad cwrs, gallwch gysylltu â'n llinell gymorth cynrychiolwyr a chyflogwyr ar 0344 994 4133. Mae'r llinellau ar agor 9am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau; 9am – 4pm dydd Gwener; ac ar gau ar Ŵyl y Banc.
Ymholiadau CSCS
I gael cymorth gyda cheisiadau cerdyn CSCS ac i ofyn am y rhain dros y ffôn, gall cynrychiolwyr ffonio 0344 994 4777. Llinellau ar agor 8am – 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener; ar gau ar Ŵyl y Banc.
Prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (HS&E) CITB
I gael cymorth i archebu prawf CITB Iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (HS&E), gall cynrychiolwyr ffonio 0344 994 4488. Llinellau ar agor: 8am – 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener; 8am – 12pm dydd Sadwrn; ac ar gau ar Ŵyl y Banc.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth