Rôl Cyfarwyddwr ar gyfer Iechyd a Diogelwch
Dyluniwyd y cwrs rhyngweithiol un diwrnod hwn ar gyfer cyfarwyddwyr cwmnïau gyda'r nod o gydnabod goblygiadau dynol ac ariannol diffyg cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Trosolwg
Bydd y cwrs yn darparu crynodeb o sut i hybu diwylliant sefydliadol cadarnhaol ar gyfer iechyd a diogelwch. Bydd ymarferion gweithdy trwy gydol y dydd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr drafod eu meddyliau am iechyd a diogelwch a'u cyfrifoldebau mewn fforwm agored.
Ar ddiwedd y cwrs bydd cynrychiolwyr yn gallu:
- cydnabod costau / goblygiadau moesol, economaidd a chyfreithiol penderfyniadau a wneir yn yr ystafell fwrdd sy'n gwneud eu busnes yn atebol
- deall pwysigrwydd rheoli risg yn strategol
- gwerthfawrogi canlyniadau methu â rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
- deall pwysigrwydd deiliaid dyletswydd cymwys yn cydweithredu, cyfathrebu a chyydlynu iechyd a diogelwch trwy gydol y prosiect cyfan
- cydnabod yr angen i benodi cymorth iechyd a diogelwch cymwys a chyfyngiadau penodiad o'r fath
- dynnodi'r adnodd sylfaenol ar gyfer cyflwyno diwylliant iechyd a diogelwch rhagweithiol yn eu sefydliad
Mae'r ardystiad ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I barhau'n ardystiedig yn y maes hwn, bydd angen i chi ail-sefyll y cwrs cyn y dyddiad dod i ben.
Darganfyddwch fwy am gael eich cymeradwyo i ddarparu'r cwrs hwn
Mae mwy o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael yn Rheolau'r Cynllun
Canfod cwrs
Defnyddiwch ein adnodd chwilio am leoliad cwrs i ddod o hyd i ddarparwr cwrs yn agos atoch chi.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth