Sut i fod yn ganolfan Site Safety Plus (SSP)
Er mwyn gweithio gyda ni a dod yn ganolfan Site Safety Plus (SSP), mae angen i chi allu bodloni gofynion y cynllun. Darllenwch ymlaen i ddysgu am y gofynion hyn a'r broses ar gyfer dod yn ganolfan SSP.
Rhestrir y ffioedd am ddilyn cyrsiau Site Safety Plus / Hyfforddiant Adeiladu isod:
Ffioedd cymeradwyo | |
---|---|
Ffi ymweld â'r ganolfan |
£350 |
Ffi cymeradwyo canolfan newydd |
£1000 |
Ffi adnewyddu Codir y ffi yn flynyddol yn unol â dyddiad dod i ben eich canolfan ar ôl dychwelyd eich awdurdodiad i adnewyddu cymeradwyaeth y ganolfan |
£1000 |
Ffi tiwtor Codir y ffi am unrhyw gais tiwtor a gyflwynir y tu allan i gymeradwyaeth canolfan newydd / adnewyddu canolfan |
£100 +TAW |
Ffioedd eraill | |
---|---|
Ffi cynrychiolydd |
£37.50 |
Ffi tystysgrif ddyblyg |
£15 |
Ffi ymweliad ychwanegol |
£350 |
Mae angen i chi:
- Darllen reolau'r cynllun, telerau safonol y ganolfan a ffurflen cytundeb y cynnyrch i sicrhau eich bod chi'n gallu bodloni'r holl ofynion.
- Dewis pa gyrsiau SSP rydych chi am eu cynnig - bydd angen i chi gyfeirio at yr atodiad perthnasol yn rheolau'r cynllun ar gyfer pob cwrs rydych chi am ei ddilyn.
- Cyfeirio at ffioedd y cynllun i weithio allan faint fydd y gost i chi ddod yn ganolfan SSP
- Cwblhau ffurflen ymholiad cychwynnol:
Dylai'r ffurflen hon gael ei chwblhau'n llawn, hyd yn oed os ydych chi'n Ganolfan CITB neu'n Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO) sy'n gwneud cais i gynnig cynnyrch gwahanol.
Byddwn mewn cysylltiad cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich ymholiad cychwynnol ac yn eich cynghori ar sut i wneud cais llawn.
Mae ein cyrsiau Site Safety Plus a Hyfforddiant Adeiladu yn gynhyrchion hyfforddiant CITB a ddarperir gan rwydwaith o ganolfannau a darparwyr. Er mwyn sicrhau bod rhaglen safonol a dibynadwy yn cael ei darparu, mae cynghorwyr ansawdd allanol cymwys ac arbenigol cymwys yn sicrhau ansawdd ein darparwyr hyfforddiant.
Fel darparwr hyfforddiant cymeradwy, gallwch ddisgwyl gael ymweliad monitro blynyddol. Rôl allweddol y cynghorydd ansawdd yw rhoi arweiniad, cyngor a chefnogaeth i chi o ran cynnwys y cwrs a'r broses weinyddol. Bydd yr ymweliad hefyd yn canolbwyntio ar gadernid yr hyfforddiant a ddarperir i gynrychiolwyr i wella safonau cyflenwi yn gyson. Fe'ch hysbysir cyn i ymweliad gael ei gynnal.
Mae gan ein cynghorwyr ansawdd gymwysterau proffesiynol, mae ganddynt brofiad perthnasol yn y diwydiant a disgwylir iddynt ddarparu prawf blynyddol o ddatblygiad proffesiynol parhaus. (CPD).
Gellir gweld y manylion llawn yn rheolau'r cynllun.
Ffurflenni cysylltiedig
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth