Adnodd Rhagamcanu Llafur
Mae Adnodd Rhagamcanu Llafur CITB yn adnodd ar-lein a all ragfynegi'r galw am lafur ar gyfer amrywiaeth o brosiectau adeiladu, gan gynnwys:
- Tai (gwaith pren a gwaith nad yw'n ymwneud â phren)
- Seilwaith
- Ysgolion (gwaith dur a gwaith nad yw'n ymwneud â dur)
- Priffyrdd
- Masnachol (swyddfa a manwerthu)
- Adnewyddu, atgyweirio a chynnal a chadw tai
- Gwaith adnewyddu, atgyweirio a chynnal a chadw nad yw'n ymwneud â thai
Mae'r Adnodd yn adeiladu ar ein gallu i ragfynegi'r galw am sgiliau a chyflogaeth. Caiff y galw hwn ei ragfynegi'n fisol drwy ystyried gwerth prosiectau unigol a dyddiadau dechrau/cwblhau.
Manteision
Bydd yr Adnodd yn rhoi tystiolaeth i'ch galluogi i gynllunio a negodi manteision realistig i'r gymuned sy'n deillio o ofynion sgiliau a hyfforddiant ar brosiectau adeiladu.
Bydd yn rhoi data go iawn i chi yn seiliedig ar fethodoleg gadarn a gefnogir gan wybodaeth wirioneddol am brosiectau er mwyn sicrhau bod eich gofynion sgiliau a hyfforddiant yn realistig.
Bydd y sawl sy'n tanysgrifio i'r Adnodd yn cael cymorth cynhwysfawr i'w helpu i fanteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth, gan gynnwys:
- Cyflwyniadau sy'n eich galluogi i roi cynnig ar yr Adnodd
- Hyfforddiant ar y safle a hyfforddiant o bell
- Adolygiadau o brosiectau gan arbenigwyr
- Arweiniad ar-lein a thros y ffôn gan y Tîm Cymorth Cwsmeriaid
Nodweddion allweddol
Mae'r Adnodd wedi'i ddatblygu'n ofalus dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn hawdd i'w ddefnyddio, a'i fod yn darparu rhagolygon dibynadwy a chadarn.
Ymhlith ei nodweddion allweddol mae'r canlynol:
- Rhagolygon misol ar gyfer pob crefft, gan gynnwys y proffesiynau, yn seiliedig ar algorithmau lefel uwch
- Rhagolygon yn seiliedig ar ddata hanesyddol o brosiectau blaenorol (felly mae'r cywirdeb, yn nodweddiadol, yn well na ±10%) a gaiff eu diweddaru wrth i ddata newydd ddod i law
- Data sydd wedi'i ddilysu'n ystadegol ar gyfer cysondeb ac anghysondebau
- Yr unig fewnbynnau sydd eu hangen yw gwerth y prosiect, ei leoliad a dyddiadau dechrau/cwblhau
- Gellir newid y proffil llafur i ddiwallu anghenion unigol a chaiff ei ddiweddaru wrth i'r prosiect fynd rhagddo
- Mae'r rhagolygon yn ystyried amser a lleoliad
- Ar y we - mae hyn yn golygu bod gan ddefnyddwyr fynediad i'r data diweddaraf bob amser
Pwy ddylai ddefnyddio'r Adnodd?
Gall yr Adnodd fod o fudd i awdurdodau lleol a datblygwyr sy'n negodi cytundebau Adran 106 a manteision cymunedol eraill.
Gallai hefyd helpu:
- Contractwyr i drefnu gwaith sydd ar ddod
- Asiantaethau Cynllunio i ystyried effaith prosiectau rhanbarthol cydamserol
- Asiantaethau a sefydliadau sgiliau i lunio strategaethau i gael pobl i mewn i waith
Tystebau cleientiaid
"Defnyddiais yr Adnodd Rhagamcanu Llafur yn ddiweddar i ddarparu data yn ymwneud â phrosiect adeiladu mawr posibl. Roedd y gwasanaeth yn effeithlon ac yn broffesiynol a byddwn yn ei argymell i gontractwyr a chleientiaid fel ffordd gyflym ond manwl o asesu gofynion cyflogaeth a sgiliau yn ystod cam adeiladu prosiect."
Richard Chiverton, Cyfarwyddwr, Innovatus Ltd
Cysylltu â ni
Mae'r Adnodd wedi'i ddatblygu gan CITB ac mae ar gael drwy'r Adran Ymchwil a Datblygu.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallai'r Adnodd eich helpu chi, cysylltwch â:
Sandra Lilley, CITB
E: sandra.lilley@citb.co.uk
Doug Forbes,Whole Life Consultants Limited
E: doug.forbes@wlcuk.com
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth