Sut mae'r CSN yn gweithio
Mae'r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu yn rhoi mynediad i chi i wybodaeth am y farchnad a fydd yn allweddol i'ch helpu chi neu'ch cynllun busnes ar gyfer y dyfodol
Mae'r CSN yn cael ei gydlynu gan CITB ar y cyd ag Experian, sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau dadansoddol trwy'r dull modelu.
Mae rhannu rhagolygon CSN gyda rhanddeiliaid yn caniatáu inni ddilysu a phrofi'r rhagolygon a rhagdybiaethau CSN trwy ddefnyddio gwybodaeth leol i wella'r data.
Mae cyfraniadau rhanddeiliaid yn allweddol wrth sicrhau bod rhagolygon yn gywir ac yn ein galluogi i gynllunio ein hymateb i anghenion sgiliau yn effeithlon ac yn effeithiol.
Buddion y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu
Mae cael mynediad at wybodaeth CSN ynghylch y farchnad lafur a chipolwg ar dueddiadau yn caniatáu i'r diwydiant, llywodraeth, asiantaethau rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol:
- Nodi sectorau sy'n debygol o fod y gyrwyr cryfaf o dwf allbwn gwaith ym mhob cenedl a rhanbarth
- Nodi'r sgiliau penodol, cysylltiedig y bydd eu hangen bob blwyddyn
- Amlygu tueddiadau ar draws y diwydiant, megis newidiadau cenedlaethol a rhanbarthol yn y galw
- Cynllunio ymlaen llaw a mynd i'r afael ag anghenion sgiliau gweithlu a fu'n symudol yn draddodiadol
- Paratoi am gynnydd yn y galw am sgiliau penodol ar adegau penodol
- Deall lefelau'r newydd-ddyfodiaid sy'n ofynnol, a'r cymwysterau sydd eu hangen i sicrhau bod gweithlu cymwys a galluog ar gael.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth