Newyddion a digwyddiadau
Chwilio am newyddion a digwyddiadau
Math
Newyddion lleol a digwyddiadau
Ein brif straeon a digwyddiadau

Cystadleuaeth Gweithredwr Peiriannau’r Flwyddyn y DU yn dychwelyd

CITB yn lansio Cynllun Strategol 2025–29
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio ei Gynllun Strategol 2025-29 heddiw, sy’n amlinellu ei ddull o gefnogi anghenion sgiliau a hyfforddiant y diwydiant adeiladu dros y pedair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio â diwydiant a Llywodraethau’r DU, buddsoddi mewn datblygu sgiliau a hyfforddiant, a’r angen i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau er mwyn sicrhau y gall y diwydiant adeiladu fodloni gofynion y dyfodol.

Cynigion Lefi 2026 – 2028: beth yw barn cyflogwyr?
Yn dilyn yr Ymgynghoriad y llynedd a’r Consensws sydd i fod i ddechrau ym mis Mawrth, buom yn siarad â rhai o aelodau Bwrdd CITB ac aelodau Pwyllgor Strategaeth y Lefi i glywed eu barn ar Gynigion Lefi 2026-2029.

Mae CITB yn cefnogi bron i 9,000 o gwmnïau adeiladu i dderbyn grantiau prentisiaeth
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (10 – 16 Chwefror 2025), mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu ei fod wedi cefnogi dros 24,000 o ddysgwyr a bron i 9,000 o gyflogwyr gyda grantiau prentisiaeth rhwng Ebrill a Rhagfyr 2024.

Y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad adolygu’r Bwrdd Hyfforddiant Diwydiannol
Heddiw, cyhoeddodd yr Adran Addysg ymateb y Llywodraeth i Adolygiad ITB, a gynhaliwyd gan Mark Farmer yn 2023 ac a gwblhawyd y llynedd. Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen hanfodol am waith y Byrddau Hyfforddiant Diwydiannol (ITBs) o fewn y diwydiannau adeiladu a pheirianneg ac yn dod i’r casgliad y dylid cadw’r model grant Lefi ITB. Yn wir, mae’n nodi y dylid cryfhau rôl yr ITBs ac yn galw arnynt i wneud mwy.

Tu ôl i lenni adeiladu: CITB yn annog ymwelwyr i gofrestru ar gyfer Open Doors 2025
Mae pobl sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn adeiladu nawr yn gallu cofrestru i fynychu Open Doors 2025, sy’n dychwelyd 17-22 Mawrth. Mae’r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Build UK mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a CSCS, gyda chefnogaeth partneriaid cyfryngau, cymunedol a diwydiant, sy’n annog pobl i archebu lle a mynychu.

Beth sydd ar yr agenda yng Nghynadleddau Sgiliau a Hyfforddiant CITB?
Mae Cynadleddau Sgiliau a Hyfforddiant CITB yng Nghaerdydd a Llundain yn prysur agosáu – ac ni ddylid eu colli!

Consensws CITB yn symud i fis Mawrth 2025
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi heddiw ddyddiadau newydd ar gyfer ei broses Consensws: bydd y weithdrefn nawr yn dechrau ar 17 Mawrth 2025 ac yn parhau tan 9 Mai.

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf: rhagolwg o Open Doors 2025
Grŵp Canary Wharf, Build UK a CITB yn cydweithio i arddangos cyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu. Fel rhan o’n hymrwymiad i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y sector adeiladu, cefnogodd CITB Build UK i gynnal digwyddiad rhagolwg cyffrous o Open Doors 2025 yn natblygiad Wood Wharf Grŵp Canary Wharf (CWG) yn Llundain.

Digwyddiadau hyfforddiant a chymhwysedd peiriannau yn dod yn fuan
Mae CITB a Sefydliad Cynrychiolwyr y Sector Peiriannau (PSRO) yn cyd-gynnal cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo hyfforddiant a chymhwysedd ar gyfer galwedigaethau peiriannau. Bydd y fforymau, yn benodol ar gyfer cyflogwyr cofrestredig CITB, yn trafod sut mae hyfforddiant priodol ac effeithiol yn cefnogi gofynion cymhwysedd y diwydiant ar gyfer sicrhau sector diogel ac effeithlon.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth