A allwch chi gynnig hyfforddiant arwain a rheoli i'r diwydiant adeiladu?
Mae CITB yn annog mwy o ddarparwyr i gofrestru i fod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy a chynnig hyfforddiant hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Mae’r sefydliad wedi diystyru’r ffi ymuno o £750 i ddarparwyr er mwyn annog mwy i gael eu cymeradwyo gan CITB, gan eu galluogi i gynnig hyfforddiant hanfodol a chael y manteision niferus sydd ar gael i fusnesau.
Mae’r diystyru wedi’i roi ar waith yn dilyn lansiad diweddar Grant Arwain a Rheoli CITB, sy’n cynnig grant o £70 am bob safon fer a gyflawnir drwy Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy. Mae arwain a rheoli yn sgiliau ymddygiad allweddol, maes lle mae cyflogwyr adeiladu wedi nodi bod angen mwy o gymorth a hyfforddiant. Trwy gyfres o 11 o gyrsiau byr, bydd fframwaith newydd a ddyluniwyd gan CITB, goruchwylwyr a rheolwyr adeiladu yn dod yn fwy hyderus mewn meysydd megis, arwain a threfnu eu timau, ymdrin â sefyllfaoedd anodd, a datrys problemau.
Mae dod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy yn rhoi’r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiwydiant sydd ar flaen y gad yn economi Prydain, ond mae llawer o fanteision eraill o gael eich cymeradwyo gan CITB. Dim ond Sefydliadau Hyfforddi Cymeradwy all gyflwyno’r fframwaith hwn o hyfforddiant, sy’n golygu bod darparwyr sy’n cofrestru i gael eu cymeradwyo yn cael mynediad at grŵp newydd o ddysgwyr na fyddent wedi ystyried defnyddio eu gwasanaethau o’r blaen. Yn ogystal, bydd darparwyr yn cael eu cefnogi trwy Dîm Ymgysylltu CITB a gallant hysbysebu trwy Gyfeiriadur Hyfforddiant Adeiladu CITB am ddim, gan gynyddu eu cyrhaeddiad i gyflogwyr mwy sy’n gweithredu ledled y wlad.
Dywedodd Heather Broadhurst, Cyfarwyddwraig Now U Know Training:
“Fe benderfynon ni ddod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy oherwydd ein bod yn ofn methu’r cyfle. Roedd llawer o’n cwsmeriaid eisoes wedi cofrestru gyda CITB ac os nad oeddem ar y rhestr honno yna byddem yn methu cyfleoedd posibl wrth symud ymlaen.
“Mae mor fuddiol i ni gael y cyfeirlyfr a gallu rhoi ein holl gyrsiau arno, mae mor syml i’w lwytho ac mae wir yn llywio busnes i ni. Defnyddir y Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu bob tro y byddwn yn cynnal cwrs. Ar ôl i’r cwrs gael ei gwblhau, rydym wedyn yn gallu llwytho cymwysterau’r cynrychiolydd yn uniongyrchol i’r gofrestr ac mae hynny wedyn yn weladwy iddynt hwy a’u cyflogwr.
“Roedd CITB yn wych am roi dulliau cyfathrebu ar waith. Gwnaethant gynnal gweminarau, cynhaliwyd digwyddiadau lle buont yn siarad â ni’n uniongyrchol, ac mae gennym bwynt cyswllt o fewn CITB y gallwn fynd iddo os oes gennym unrhyw ymholiadau.”
Dywedodd Dawn Hillier, Pennaeth Strategaeth Safonau a Chymwysterau yn CITB:
“Mae bod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy yn gyfle gwych, ac rydym yn annog pob darparwr neu adran hyfforddiant i’w ystyried. Mae'n caniatáu i chi gyflwyno cyrsiau a chymwysterau i safon ddiffiniedig y cytunwyd arni gan y diwydiant, gan eich helpu i gael eich cydnabod ymhlith diwydiant adeiladu Prydain a sefyll allan o'ch cystadleuwyr.
“Gydag amcangyfrif o alw am 50,000 o weithwyr ychwanegol bob blwyddyn, mae’n dod yn fwyfwy pwysig datblygu sgiliau ymddygiad rheolwyr adeiladu heddiw ac arweinwyr yfory. Mae cofrestru i fod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy yn rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan a dod yn rhan annatod o’r mudiad hwn, gan helpu i lunio dyfodol adeiladu, wrth ehangu eich busnes i sylfaen cwsmeriaid newydd sbon.”
Mae Cynllun Busnes CITB a lansiwyd yn ddiweddar ar gyfer 2022/23 yn amlygu pwysigrwydd cefnogi hyfforddiant arwain a rheoli i helpu i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau’r dyfodol. Bydd buddsoddiad CITB yn y maes hwn yn helpu i gadw’r dalent bresennol drwy helpu i newid ymddygiadau a diwylliannau’r gweithle, gan sicrhau bod pob gweithiwr yn teimlo’n hapus ac wedi’i rymuso i wneud ei swydd.
Darganfyddwch sut i ddod yn Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth