Buddsoddi, arloesi a chydweithio â diwydiant – cyfrifon CITB 2021-22
Ymatebodd CITB yn gyflym i lu o heriau a wynebir gan y sector drwy fuddsoddi mewn prentisiaethau, lansio amrywiaeth o fentrau arloesol, a chydweithio â diwydiant, a datgelwyd o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 y sefydliad.
Mae’r adroddiad blynyddol, a osodwyd gerbron y Senedd ar 7 Tachwedd, yn dangos bod CITB, yn y cyfnod o 12 mis yn diweddu 31 Mawrth 2022, wedi buddsoddi bron i £50m o Lefi i gefnogi dros 22,000 o brentisiaid, wedi hyfforddi dros 2,900 o recriwtiaid newydd yn uniongyrchol drwy ail gam y Gronfa Sgiliau Adeiladu, a chefnogodd dros 16,000 o ddysgwyr gyda grantiau i gwblhau eu cymwysterau.
Dros yr un cyfnod, y mae cyllid uniongyrchol wedi'i ddarparu i dros 1,600 o fusnesau i fuddsoddi yn eu gweithlu, tra bod Cynllun Grantiau wedi helpu i ariannu dros 269,000 o gyrsiau hyfforddi.
Buddsoddwyd cyfanswm o £97m mewn cyllid grant gan CITB, i’w gwneud mor hawdd â phosibl i gyflogwyr recriwtio a chadw gweithlu medrus.
Dywed Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB:
“Mae ein cyfrifon ar gyfer 2021-22 yn dangos bod CITB wedi gweithredu’n gyflym i ymateb i heriau amrywiol eleni. Drwy fuddsoddi’n drwm mewn prentisiaethau, lansio amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni arloesol, a chydweithio ar draws y sector, rydym wedi parhau i ganolbwyntio’n llawn ar ein diben – ein rheswm dros fod. Mae hynny er mwyn cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys, a chynhwysol yn awr ac yn y dyfodol.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydnabod a diolch am waith diflino a chydweithrediad cyflogwyr, ffederasiynau, grwpiau hyfforddi, colegau, a phawb yn y canol sy’n chwarae rhan mor hanfodol wrth gefnogi ein gweledigaeth i greu gweithlu arloesol o safon fyd-eang. Mae gennym dipyn o ffordd i fynd ond mae cynnydd amlwg yn cael ei wneud.”
Roedd gan gyflogwyr bryderon bod diffyg parodrwydd i weithio ymhlith newydd-ddyfodiaid, felly yn 2021 lansiodd CITB hybiau Profiad Ar y Safle newydd i bontio’r bwlch rhwng hyfforddi a gweithio.
Bellach mae yna naw hwb ar draws Lloegr a phedwar yng Nghymru yn creu cyflenwad talent i ddiwallu anghenion cyflogwyr adeiladu lleol ac i gefnogi cyfleoedd gyrfa adeiladu i bobl o gymunedau lleol. Bydd y rhaglen yn arwain at 7,780 o bobl yn dod yn gyflogedig ac yn barod ar gyfer y safle gyda 3,350 o bobl yn sicrhau cyflogaeth barhaus o fewn y tair blynedd nesaf.
Yn ogystal, mae hybiau yng Nghymru yn darparu profiadau ar y safle i dros 1,600 o fyfyrwyr Diploma Adeiladu amser llawn i’w gwneud yn fwy cymwys i gael gwaith ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Gan gydnabod gall fod yn anodd i gyflogwyr gael mynediad at hyfforddiant arbenigol, penderfynodd CITB gadw eu safleoedd Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC), sydd wedi gweld buddsoddiad parhaus i ddiwallu anghenion hyfforddi’r diwydiant. Drwy ganolbwyntio ein cwricwlwm i ymateb i alw nas diwallwyd, rydym yn ceisio meithrin gallu ar gyfer y diwydiant, yn enwedig mewn meysydd fel mynediad a pheiriannau.
Yn ogystal, bu CITB yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu llwybrau gwell o addysg i waith, gan fanteisio ar y cymwysterau prentisiaeth newydd a chreu dewis amgen Cymraeg yn lle hyfforddeiaethau.
Yn yr Alban, bu CITB yn gweithio gyda’r llywodraeth i sicrhau bod cymorth ar gael i gyflogwyr a dysgwyr lle’r oedd ei angen fwyaf mewn ymateb i bandemig Covid-19. Gan weithio gyda Skills Development Scotland, defnyddiodd y sefydliad eu rhwydweithiau i gydlynu cyflogaeth tua 400 o brentisiaid trwy Grant Cyflogaeth Prentisiaeth y Llywodraeth.
Mae'r cyfrifon hefyd yn dangos bod CITB wedi gwneud darpariaeth ar gyfer ad-daliad posibl i'r Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau (ESFA) am fater hanesyddol. Mae trafodaethau'n parhau rhwng CITB ac ESFA ar yr ad-daliad posibl, os o gwbl, sy'n ddyledus.
Yn ystod 2021-22 bu CITB hefyd yn hyrwyddo mathau newydd o hyfforddiant, gyda rhaglenni dysgu trochi ac arweinyddiaeth ddigidol yn defnyddio technoleg arloesol i osod adeiladu ar flaen y gad o ran digideiddio i ateb y galw yn y dyfodol.
Cynrychiolodd 378 o lysgenhadon STEM wyneb y diwydiant adeiladu i bobl ifanc, darparodd Am Adeiladu wybodaeth yrfaol ragorol i dros filiwn o bobl ifanc a defnyddiodd 2,600 o bobl ddeunyddiau Tegwch, Cynhwysiant a Pharch CITB.
Daeth Tim i'r casgliad: “Mae’n gadarnhaol iawn gweld yr effaith sydd wedi’i chael, er gwaethaf blwyddyn anodd gyda Covid a heriau eraill o fewn y diwydiant. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn y gellir ei gyflawni yn ystod y flwyddyn nesaf gan adeiladu ar rai o’n mentrau cyffrous. Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddiad yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol CITB; ein Rhwydweithiau Cyflogwyr i gefnogi mwy o gyflogwyr i dderbyn hyfforddiant a chael grant; mwy o gymorth i newydd-ddyfodiaid a symleiddio prosesau grant i’w gwneud yn haws i fusnesau.”
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth