Canolfannau Profiad ar y Safle yn helpu Willow i roi sgiliau ar waith
Pan gollodd darpar saer Willow Kehily ei swydd ym maes manwerthu, gwnaeth benderfyniad beiddgar.
Penderfynodd y fam o Aberteifi ail-sgilio a dilyn ei diddordeb mewn gwaith coed.
Roedd yn symudiad fentrus tu hwnt.
Ond fe dalodd ar ei ganfed.
O fewn dyddiau o ddechrau hyfforddiant adeiladu ar y safle roedd Willow yn gwybod ei bod wedi gwneud y dewis cywir.
Dechreuodd newid mentrus Willow ar Gampws Aberteifi Coleg Ceredigion. Yno, dysgodd am Gynllun Lleoliad Profiad Ar y Safle sy’n cynnig cyfle i bobl o gefndiroedd amrywiol ddechrau gyrfa adeiladu.
“Rwy’n dilyn gyrfa saernïaeth gan fy mod eisiau rôl gyda mwy o sicrwydd,” meddai Willow, “un a fydd yn caniatáu i mi ddatblygu set sgiliau i gynnal fy hun a fy mab yn yr hirdymor.
“Mae yn yr oedran lle nad yw'n meddwl ddwywaith am fy ngalwedigaeth. Mae’n bwysig i mi ei fod yn parhau i weld ei fam mewn rôl gref ac yn cael ei chynrychioli mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.”
Carreg filltir
Lleoliad Profiad Ar y Safle Willow, ar safle Wynne Construction Ysgol Uwchradd Aberteifi, oedd ei chyfle cyntaf i roi beth mae wedi dysgu yn y dosbarth ar waith mewn lleoliad gwaith.
Cadarnhaodd ei lleoliad 10-diwrnod gyda’r cwmni adeiladu o Fodelwyddan mai ei newid gyrfa oedd y penderfyniad cywir.
“Mae gweithio ar yr ysgol wedi bod yn garreg filltir fawr yn fy ngyrfa gan mai dyma fy nghais gyntaf yn y swydd,” meddai Willow.
“Ar ôl dim ond ychydig ddyddiau ar y safle, roedd fy mhenderfyniad yn 100 y cant ar y llwybr gyrfa cywir.
“Yn y coleg rydych chi'n dysgu'r pethau sylfaenol, sy'n amlwg yn syml, ond mae gweld sut mae'r sgiliau a ddatblygwyd yn yr ystafell ddosbarth yn chwarae allan yn ymarferol a chael blas ar fywyd ar y safle ochr yn ochr â thîm Wynne wedi bod yn wych.
“Efallai bod dyddiau’n mynd yn gyflym, ond doeddwn i byth yn teimlo fel bod fy nghwestiynau’n cymryd gormod o amser.
“Cymerodd y tîm yr amser i gynnig arweiniad ar bob cam. Doedd dim byd yn ormod o drafferth i neb yn Wynne.”
Ysbrydoli
Mae Willow, cyn-fyfyriwr seicoleg, ar un o lawer o leoliadau Hwb Profiad Ar y Safle a hwylusir gan Wynne Construction.
Nod y cwmni yw darparu dros 100 o leoliadau profiad gwaith a 250 o brentisiaethau erbyn 2025.
“Gall annog profiad ar y safle ysbrydoli grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ddilyn gyrfa yn y diwydiant,” meddai Alison Hourihane, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol, Wynne Construction.
“Mae Willow yn enghraifft wych o sut y gallai darparu’r cyfleoedd hyn helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn ail-sgilio adeiladu a darganfod beth maen nhw wir yn ei fwynhau.
“Mae gan y cynllun fantais ychwanegol o hybu cyflogaeth yn lleol ac ehangu’r gronfa o dalent rydyn ni’n gweithio gyda.”
Sefyllfa ar eu hennill
Ariennir Hwb Profiad Ar y Safle De-orllewin Cymru gan CITB a cydlynir gan Sgiliau Adeiladu Cyfle.
Mae Cyfle yn arwain y gwaith o gyflawni’r cynllun ar draws pum ardal awdurdod lleol yng Nghymru: Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Dywed Anthony Rees, Rheolwr Rhanbarthol Cyfle, mai un o fanteision y cynllun yw anaml y bydd pobl yng nghamau cynnar eu hyfforddiant yn cael y math hwn o brofiad gwaith cyn cymryd prentisiaeth.
“Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill,” meddai Anthony.
“Does dim rhaid i bobl yr ardal leol edrych yn bell am brofiad gwerthfawr.
“Gall contractwyr sy’n adeiladu yn y rhanbarth gael mynediad i dalent cyfagos ar gyfer eu cadwyn gyflenwi.”
Gyrfa
Mae’r Hwb Profiad Ar y Safle yn cynnig cyfleoedd gyrfa i’r rhai a dangynrychiolir mewn diwydiant, pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ogystal â’r rhai a allai newid gyrfa.
Dywedodd Comisiynydd CITB, Rohan Cheriyan: “Mae cynnydd Willow yn enghraifft wych o waith tîm, o dri sefydliad yn partneru ar gyfer sgiliau er budd eu cymuned ac, yn ehangach, diwydiant adeiladu’r DU.
“Mae effaith yr Hybiau Profiad Ar y Safle yng Nghymru wedi bod yn ardderchog. Enillodd dros 600 o bobl sgiliau adeiladu yn ystod 18 mis cyntaf yr Hybiau, hyfforddiant a oedd yn eu gwneud yn barod i’r safle ar gyfer cyflogwyr.
“Rwy’n falch o ddweud bod cyllid ar gyfer y prosiect Profiad ar y Safle yn Ne Orllewin Cymru wedi’i ymestyn i fis Mawrth 2025 felly bydd llawer mwy o gyfleoedd i bobl sy’n ystyried gyrfa adeiladu yn y rhanbarth.”
16 oed ac yn hŷn? Diddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect Profiad Ar y Safle? Gallwch gysylltu â’ch Hwb Profiad Ar y Safle leol yng Nghymru yma.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth