Canlyniadau Chwilio
Canfuwyd 37 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.
Rhoi mwy o lais i gyflogwyr ar sgiliau
Ni all un sefydliad ddatrys holl heriau sgiliau adeiladu. Er mwyn denu gweithwyr newydd, mae angen i randdeiliaid fod yn bartner ar gyfer sgiliau a mabwysiadu ymagwedd gyson at hyfforddiant. Dyna’r ffordd orau o gefnogi pobl i gael swyddi adeiladu sy’n talu’n dda. Rwy’n falch o ddweud bod agwedd newydd, gydgysylltiedig at sgiliau ar y gweill: Cynlluniau Gwella Sgiliau Lleol (CGSLl).
Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd – Mae pob swydd yn swydd werdd
Cynhelir yr Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd gyntaf erioed y mis yma. Nod yr ymgyrch, sy’n rhedeg o fis Tachwedd 07-12, yw tynnu sylw at lwybrau gyrfa gwyrdd. Mae CITB newydd gyhoeddi Cynllun Gweithredu Sero Net deinamig sy’n edrych ar anghenion sgiliau adeiladu’r dyfodol.
Marlène yn cael blas ar amrywiaeth wrth gyrraedd rownd derfynol Adeiladu Sgiliau
Ennill sgiliau’n gyflym ym mhob agwedd ar grefft yw hanfod bod yn brentis. Mae Marlène Lagnado, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Adeiladu Sgiliau, yn enghraifft wych o fanteision prentisiaethau – a’r cyfleoedd mae adeiladu’n eu cynnig.
Gemau rygbi a gwaith coed – cyfuniad buddugol i Oliver
Dychwelodd y gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hiraf yn y DU yn gynharach eleni. Darperir SkillBuild gan CITB ar y cyd â WorldSkills UK, ac wrth i baratoadau ar gyfer y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol gychwyn, clywn gan Oliver Tudor, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Courtney, a gyrhaeddodd rownd derfynol SkillBuild, yn llawn canmoliaeth i gymuned crefftau LHDTC+
Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r diwydiant adeiladu yw hyrwyddo amrywiaeth. Mae annog pobl o bob cefndir i ymuno â diwydiant wedi bod yn flaenoriaeth ers blynyddoedd lawer.
Safonau a grantiau peiriannau newydd CITB “wedi’u hysbrydoli gan ddiwydiant”
Bydd mewnbwn y diwydiant ar safonau a grantiau peiriannau newydd CITB yn helpu pawb yn ôl Emily Tillling o CITB. Bydd y newidiadau, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn dod i rym ym mis Ionawr 2023 a byddant yn cael effaith bellgyrhaeddol ar y diwydiant adeiladu.
Arweinyddiaeth gref yn allweddol er mwyn cyrraedd nodau cynaliadwyedd
Clywais unwaith fod 80% o’r allyriadau carbon sy’n cael eu creu ar draws y byd yn dod o fusnesau. Dyna ystadegyn syfrdanol. Mae’n dangos pam mae’n rhaid i arweinwyr busnes a gwleidyddol fod yn gyfrifol a helpu i wneud y byd yn lle mwy gwyrdd a diogel.
Ennyn diddordeb disgyblion mewn adeiladu
Mae hyrwyddo gyrfaoedd adeiladu i blant ysgol yn rhan bwysig o ddenu talent newydd i’r diwydiant. Un ffordd o ddangos cyfleoedd adeiladu i bobl ifanc yw drwy roi’r sgiliau i weithwyr presennol rannu eu profiadau’n effeithiol.
Her fwyaf y diwydiant adeiladu
Hoffwn ddechrau’r blog hwn drwy ddiolch i bawb sydd wedi llenwi Ffurflen Lefi y CITB. Gadewch i ni fod yn onest, nid yw gwaith papur yn dasg ddeniadol. Fodd bynnag, mae’n dasg hollbwysig o ran y Lefi. Felly, i bawb sydd wedi cyrraedd y dyddiad cau heddiw, rydw i a fy nghydweithwyr yn ei werthfawrogi.
Gwneud i hyfforddiant weithio
Ers ymuno â CITB rwyf wedi siarad â rhanddeiliaid ledled y DU ar hyfforddiant, sgiliau a buddsoddiad. Rwy’n falch o ddweud bod Cynllun Busnes newydd CITB yn adlewyrchu’r gwaith cydweithredol hwn a’r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod Consensws ’21.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth