Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau Chwilio

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Canfuwyd 134 o erthyglau

Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

Angen dros 250,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol erbyn 2028 i ateb y galw

Mae’r rhagolwg diwydiant blynyddol gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn amlygu’r bwlch parhaus rhwng yr hyn sydd ei angen ar y DU i gadw i fyny â’r galw a’r gweithlu sydd ar gael i ateb yr her.

Y nifer uchaf erioed o gystadleuwyr yng Nghystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol SkillBuild

Mae colegau ar draws y DU yn paratoi i gynnal y gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hiraf, gyda dros 1,000 o fyfyrwyr ar fin cystadlu yng Nghystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol SkillBuild 2024 eleni.

CITB yn UKCW 2024

Mae CITB yn arddangos yn nigwyddiad amgylchedd adeiledig mwyaf y DU yn ystod Wythnos Adeiladu’r DU fis nesaf yn y London Excel rhwng 7fed a 9fed o Fai. Bydd Tîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB yno i ddarparu eu gwybodaeth a’u cefnogaeth i’r holl gwsmeriaid sy’n mynychu.

Trawsnewid y dirwedd sgiliau adeiladu

Mae lansiad Cynllun Busnes eleni yn gam sylweddol ymlaen yn ein huchelgais hirdymor i drawsnewid y dirwedd sgiliau.

CITB yn datgelu cyfeiriad newydd: Buddsoddi yn y system sgiliau adeiladu

Heddiw, datgelodd CITB ei Gynllun Busnes ar gyfer 2024-25. Bwriad y cyfeiriad newydd yw adeiladu ar gynlluniau blaenorol a dangos sut y byddant yn cefnogi ac yn grymuso cyflogwyr trwy fuddsoddi £267m dros y flwyddyn i ddod.

CITB yn croesawu ymddiriedolwyr newydd i lywio dyfodol hyfforddiant adeiladu

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn falch o gyhoeddi bod pum ymddiriedolwr gwirfoddol newydd wedi’u penodi i’w Fwrdd. Bydd Rachael Cunningham, Nikki Davis, Stephen Gray, Julia Heap, a Herman Kok yn ymuno â’r Bwrdd o 1af Ebrill 2024, â phob un yn gwasanaethu am dymor o bedair blynedd. Mae’r penodiadau hyn wedi’u gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ac maent yn hollbwysig o ran cefnogi cenhadaeth y CITB i feithrin gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol yn y diwydiant adeiladu.

Cyhoeddi enillwyr ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’ SkillBuild

Mae enillwyr Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2023 wedi’u cyhoeddi, ar ôl i 78 o hyfforddeion adeiladu fynd benben dros dri diwrnod.

CITB yn cyhoeddi cefnogaeth ar gyfer Cynllun Sgiliau’r Sector Adeiladu Cartrefi

Mae CITB wedi cyhoeddi cefnogaeth i Gynllun Sgiliau’r Sector Adeiladu Cartrefi (PDF. 452kb) sy’n cynrychioli ffordd newydd o weithio â’r sector i wella sgiliau, hyfforddiant a recriwtio. Mae’r cynllun wedi’i greu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid yn y sector adeiladu cartrefi a’i nod yw cynyddu argaeledd gweithwyr medrus, er mwyn helpu i ddiwallu anghenion y piblinell adeiladu cartrefi.

Mae Rownd Derfynol SkillBuild yn croesawu ymwelwyr i roi cynnig ar adeiladu

Ar ôl mwy na 1,000 o gofrestriadau ac 17 o rhagbrawf rhanbarthol, mae'r hyfforddeion adeiladu gorau o bob rhan o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u henwi fel cystadleuwyr yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2023.

CITB yn ymuno â Build UK ac arbenigwyr y diwydiant tân

Mae eGwrs newydd rhad ac am ddim wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Build UK ac arbenigwyr y diwydiant tân, â’r nod o wella gwybodaeth y sector am fesurau diogelwch tân mewn adeiladau. Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn 2017 a’r ymchwiliad dilynol, mae’r diwydiant wedi gweithio’n galed i godi safonau diogelwch ac atal digwyddiad o’r fath rhag digwydd eto. Mae eGwrs Diogelwch Tân mewn Adeiladau CITB wedi’i greu fel ymateb uniongyrchol i argymhellion a wnaed gan Weithgor 2 (WG2), a ddyfeisiwyd i gefnogi’r ymchwiliad, fel yr amlinellwyd yn adroddiad Setting the Bar.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth