Canlyniadau Chwilio
Chwilio am newyddion a digwyddiadau
Math
Newyddion lleol a digwyddiadau
Canfuwyd 39 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.
Ein cynllun i roi cyflogwyr o flaen y gad
Rwy’n hoffi cadw pethau’n syml a dyna pam mae gan Gynllun Busnes newydd CITB un nod hollbwysig: rhoi cyflogwyr ar flaen y gad o ran sgiliau a hyfforddiant.
Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr tir
“Hyd yn oed a finnau’n 58 oed, rydw i’n dysgu technolegau newydd.” Dyma eiriau Hyfforddwr CITB a chyn-weithiwr tir, Tim Heads. Daeth Tim, gŵr 58 oed o Bircham, yn weithiwr tir ar ôl gadael yr ysgol. Mae’n enghraifft dda o oedran, sgiliau ac amrywiaeth swyddi ym maes adeiladu.
Cymraeg yn CITB
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn tynnu sylw at ymrwymiad CITB i gefnogi’r iaith Gymraeg.
Prentisiaethau: mynd i'r afael â'r galw am sgiliau
Rwy’n gefnogwr mawr o brentisiaethau. Mae ennill tra'n dysgu yn ffordd wych o ddechrau bywyd gwaith. Dwi'n gwybod, achos pan ddes i'n brentis peiriannydd gwasanaeth ar ddechrau'r 1980au, fe newidiodd fy mywyd.
Rhagolygon sgiliau adeiladu newydd yn adlewyrchu amseroedd cythryblus
Roedd 2022 yn flwyddyn anodd. Gellid dadlau mai goresgyniad Wcráin gan Rwsia oedd y gwrthdaro mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. Yn y cyfamser - gartref - gwelwyd cynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog, ac argyfwng costau byw. Mae’r newidiadau yma, ac ar draws y byd, wedi effeithio ar lawer o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant adeiladu, un o brif sbardunau twf y Deyrnas Unedig. Mae’r cyfnod cythryblus hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein hadroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN) newydd.
Dyddiadur Cynghorydd Ymgysylltu CITB
Fy swydd i yw helpu cwmnïau i gael yr holl gyllid y maen nhw'n gymwys i'w gael, yn ôl Cynghorydd Ymgysylltu CITB, Abbie Langridge.
“Cwad” Adeiladu, sy’n cael cymorth gan CITB, yn sicrhau swyddi i 90% o fyfyrwyr
Mae cyfleuster hyfforddiant mewn ysgol, a oedd yn rhoi pobl leol mewn cysylltiad â chyflogwyr a oedd yn cael trafferth recriwtio gweithwyr medrus, wedi sicrhau llwyddiant ysgubol.
Canolfan Profiad ar y Safle yn gweddnewid bywyd Daniel
“Dysgu sgil newydd bob dydd oedd un o’r teimladau gorau.” Dyna argraffiadau saer dan hyfforddiant o’r enw Daniel Skelly. Maent yn enghraifft dda iawn o sut gall hyfforddiant ar gyfer gyrfa newydd fod yn bleserus – a thrawsnewid bywyd.
Canolfannau Profiad ar y Safle yn helpu Willow i roi sgiliau ar waith
Pan gollodd darpar saer Willow Kehily ei swydd ym maes manwerthu, gwnaeth benderfyniad beiddgar. Penderfynodd y fam o Aberteifi ail-sgilio a dilyn ei diddordeb mewn gwaith coed. Roedd yn symudiad fentrus tu hwnt. Ond fe dalodd ar ei ganfed. O fewn dyddiau o ddechrau hyfforddiant adeiladu ar y safle roedd Willow yn gwybod ei bod wedi gwneud y dewis cywir.
Ymateb i anghenion diogelwch tân y diwydiant
Mae un gair yn esbonio pam mae sgiliau diogelwch tân modern yn fwy hanfodol nag erioed i bob gweithiwr adeiladu yn y DU: Grenfell. Ar 14 Mehefin 2017, dechreuodd tân ym mloc o fflatiau 24-llawr Tŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain. Collodd saith deg dau o bobl eu bywydau yn y trychineb. Fis ar ôl y drasiedi cafodd adolygiad i ddiogelwch tân, dan arweiniad y Fonesig Judith Hackitt, ei gomisiynu. Yn rhagair adroddiad interim yr adolygiad, Adeiladu Dyfodol Mwy Diogel, ysgrifennodd y Fonesig Judith: “Rhaid rhoi’r gorau i’r meddylfryd o wneud pethau mor rhad â phosib a throsglwyddo cyfrifoldeb am broblemau a diffygion i eraill.”
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth