Canlyniadau Chwilio
Chwilio am newyddion a digwyddiadau
Math
Newyddion lleol a digwyddiadau
Canfuwyd 103 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.
Mae CITB yn talu £5 miliwn yn fwy mewn grantiau yn y flwyddyn ariannol hon ac mae'n bwriadu cefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau yn 2023
Eleni, mae CITB wedi talu dros £5m yn fwy mewn grantiau ac wedi cefnogi bron i 700 yn fwy o gyflogwyr i gymharu â’r un cyfnod yn 2021.
Mae Coleg Cambria, CITB a chwmnïau adeiladu gogledd Cymru yn dod at ei gilydd i roi cyngor cyflogadwyedd i ddysgwyr
Ymunodd dros 100 o ddysgwyr adeiladu â digwyddiad cyflogadwyedd CITB yn ddiweddar yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy. Nod y digwyddiadau hyn yw rhoi cipolwg i ddysgwyr yn y coleg ar yr hyn y mae cwmnïau yn chwilio amdano mewn prentis, pa lefel o ymddygiad y maent yn ei ddisgwyl a sut i fynd ati orau i gael rhywfaint o brofiad gwaith a phrentisiaeth. Mae'r dysgwyr hefyd yn clywed pwysigrwydd Iechyd a Diogelwch ar y safle.
Llenwyd bwlch hyfforddiant Rheoli ac Arwain gyda dros £10M o gyrsiau am ddim
Mae CITB wedi dyfarnu contractau gwerth £10.5m, i bedwar sefydliad hyfforddi ledled y DU a fydd yn darparu 10,500 o gyrsiau rheoli ac arwain ILM am ddim ar draws bob sector o'r diwydiant adeiladu.
Cyhoeddi enillwyr ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’ SkillBuild
Mae enillwyr Rowndiau Terfynol Cenedlaethol SkillBuild 2022 wedi’u cyhoeddi, ar ôl i bron i 80 o hyfforddeion adeiladu fynd benben â’i gilydd dros dri diwrnod. Mae SkillBuild, a alwyd aml yn ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’, yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) mewn partneriaeth â WorldSkills UK ac mae’n cynnig cyfle i hyfforddeion gystadlu mewn ymgais i gael eu coroni’n enillydd y grefft o’u dewis.
Ymateb CITB i Gyllideb Hydref y Canghellor
Dywedodd Prif Weithredwr CITB, Tim Balcon: “Mae cyflogwyr adeiladu yn wynebu biliau ynni cynyddol a chostau deunyddiau ac mae angen hyder arnynt yn y dyfodol o ran gwaith a chefnogaeth i hyfforddi trwy amodau marchnad heriol. “Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r diwydiant adeiladu fel y gall cwmnïau barhau i gael yr hyder i fuddsoddi mewn sgiliau."
Coleg Caeredin yn croesawu hyfforddeion adeiladu gorau ar gyfer y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’
Mae hyfforddeion adeiladu gorau o Loegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wedi’u henwi fel cystadleuwyr yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol SkillBuild 2022. Cyflwynir SkillBuild gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) mewn partneriaeth â WorldSkills UK, a alwyd yn aml yn ‘Gemau Olympaidd sgiliau’. Llwyddodd dros 80 o gystadleuwyr y rownd derfynol i gyrraedd y rowndiau cymhwyso, a gynhaliwyd mewn amryw o golegau ar draws y DU yn gynharach eleni.
Buddsoddi, arloesi a chydweithio â diwydiant – cyfrifon CITB 2021-22
Ymatebodd CITB yn gyflym i lu o heriau a wynebir gan y sector drwy fuddsoddi mewn prentisiaethau, lansio amrywiaeth o fentrau arloesol, a chydweithio â diwydiant, a datgelwyd o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 y sefydliad.
Cydweithio yw hanfod llwyddiant
Chwe mis ar ôl lansio Cynllun Sgiliau’r Diwydiant diweddaraf Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu, rwy’n falch iawn o rannu sut rydyn ni wedi cydweithio i gefnogi’r diwydiant.
Cylchlythyr CITB Cymru: Bydd buddsoddiad newydd o £780k mewn Profiad-ar-y-safle yn denu 800 o newydd-ddyfodiaid
Croeso i ddiweddariad chwarterol CITB Cymru. Dyma newyddion am ein gwaith a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’n gwasanaethau ledled Cymru.
CITB Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad o £780,000 i ymestyn prosiect Hybiau Profiad ar y Safle
Mae cyllid ar gyfer Hybiau Profiad Ar y Safle CITB Cymru, prosiect sydd wedi llwyddo i gael 524 o bobl yn barod am y safle adeiladu mewn dim ond deunaw mis, wedi cael ei ymestyn i 2025. Bydd cyllid o £780,000 yn rhoi cyfle i 780 yn rhagor o bobl o gymunedau lleol i ennill sgiliau a phrofiad amhrisiadwy, gan agor amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth