CITB yn croesawu ymddiriedolwyr newydd i lywio dyfodol hyfforddiant adeiladu
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn falch o gyhoeddi bod pum ymddiriedolwr gwirfoddol newydd wedi’u penodi i’w Fwrdd.
Bydd Rachael Cunningham, Nikki Davis, Stephen Gray, Julia Heap, a Herman Kok yn ymuno â’r Bwrdd o 1af Ebrill 2024, â phob un yn gwasanaethu am dymor o bedair blynedd. Mae’r penodiadau hyn wedi’u gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ac maent yn hollbwysig o ran cefnogi cenhadaeth y CITB i feithrin gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol yn y diwydiant adeiladu.
Mae gan Ymddiriedolwyr ar Fwrdd CITB gyfrifoldeb sylweddol i arwain y sefydliad tuag at gyflawni ei nodau strategol. Maent yn sicrhau bod CITB yn cyflawni ei amcanion a’i ymrwymiadau i’r diwydiant adeiladu.
Mae eu rôl yn cynnwys cydweithio â rhanddeiliaid yn y diwydiant i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ac ysgogi mentrau megis y trawsnewidiad i Sero Net. Mae’r Ymddiriedolwyr hefyd yn darparu llywodraethiant ac atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau’r sefydliad, gan sicrhau bod y CITB yn gweithredu gydag uniondeb ac effeithlonrwydd.
Bywgraffiadau o’r Penodiadau Newydd
Herman Kok
Mae Herman Kok yn gwasanaethu fel Ysgrifennydd y Cwmni yn Lindum Group, lle mae wedi bod yn allweddol wrth lywio strategaeth a llywodraethiant sefydliadol. Bydd ei arbenigedd mewn strwythur corfforaethol a’i ymrwymiad i’r sector adeiladu yn amhrisiadwy i Fwrdd CITB.
Julia Heap
Fel Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Hopwood Hall, mae gan Julia Heap gyfoeth o brofiad mewn addysg bellach. Mae ei harweinyddiaeth wedi’i nodweddu gan ffocws cryf ar hyfforddiant galwedigaethol, gan ei gwneud yn unigolyn perffaith ar gyfer mentrau addysgol y CITB.
Nikki Davis
Nikki Davis yw Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Adeiladu Leeds. Bydd ei chefndir mewn arwain un o brif sefydliadau addysg adeiladu’r DU yn dod â dealltwriaeth ddofn o’r anghenion hyfforddi sydd o fewn y diwydiant.
Rachael Cunningham
Gyda’i rôl fel Arweinydd Cyn-Adeiladu a Chynnig yn Laing O’Rourke, mae Rachael Cunningham yn dod â phersbectif masnachol cryf a phrofiad helaeth o gynllunio a gweithredu prosiectau adeiladu i’r Bwrdd.
Stephen Gray
Mae Stephen Gray, Pennaeth Datblygu Peirianneg ac Arbenigwr Pwnc ICE yn BAM Nuttall Ltd, yn cynnig mantais dechnegol gyda’i wybodaeth fanwl am ddatblygiad peirianneg a’i statws fel Peiriannydd Siartredig.
Dywedodd Peter Lauener, Cadeirydd CITB, “Rwy’n falch iawn o groesawu pum ymddiriedolwr newydd i gryfhau Bwrdd CITB. Maent yn dod â phrofiad gwych i’r Bwrdd o ddiwydiant ac addysg bellach. Byddant yn dod â syniadau newydd ac yn cryfhau gallu CITB i gyflawni ein craidd bwrpas, sef cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.”
Mae CITB yn hyderus y bydd yr ymddiriedolwyr newydd yn gwneud cyfraniadau sylweddol i nodau’r sefydliad a’r diwydiant adeiladu ehangach. Bydd eu harbenigedd ar y cyd yn hollbwysig wrth lunio dyfodol hyfforddiant adeiladu a mynd i’r afael â’r heriau presennol a heriau’r dyfodol a wynebir gan y sector.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth