CITB yn gwella safonau ar draws Galwedigaethau Twnelu a Simnai
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), y corff sy’n pennu'r safonau ar gyfer y diwydiant adeiladu, wedi gweithio gyda TunnelSkills, y Grŵp Hyfforddiant Arbenigol Cenedlaethol ar gyfer sector twnelu’r DU, a’r sector Galwedigaethau Simnai i adolygu a chyflwyno Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd sy’n sail i’r Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol a Chymwysterau Galwedigaethol yr Alban (N/SVQs).
Gyda’r ffocws o’r newydd ar gael Prydain wrthi’n adeiladu eto, mae’n bwysicach nag erioed bod sectorau sy’n cefnogi’r diwydiant adeiladu ehangach yn sicrhau bod eu llwybrau cymhwysedd yn darparu’r llwybrau hyfforddi a chymwyster gorau i alluogi datblygiad gyrfa a dilyniant pobl.
Fe wnaeth dull partneriaeth CITB â’r sectorau twnelu a simnai helpu i nodi’r angen am gymorth hyfforddi ychwanegol ar gyfer datblygu a meithrin sgiliau, ac o safbwynt diogelwch.
O ganlyniad, canolbwyntiodd CITB ar ddiweddaru’r atebion hyfforddi ar gyfer y meysydd hyn, gan gynnwys datblygu cymhwyster Lefel 3 newydd fel llwybr dilyniant ar gyfer hyfforddiant o’r cymhwyster L2 ar gyfer y sector Galwedigaethau Simnai.
Mae CITB yn falch o gefnogi Cymwysterau GQA fel y sefydliad dyfarnu sy’n cynnig yr ystod newydd o gymwysterau Simnai Lefel 2 a Lefel 3.
Dywedodd Chris Simpson, Pennaeth Ansawdd a Safonau CITB:
“Mae pobl yn ganolog i’r diwydiant adeiladu ac mae ansawdd eu hyfforddiant a'u datblygiad yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gennym weithlu medrus, cymwys a chynhwysol. Mae hefyd yn hanfodol bod y sgiliau hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch fel bod gan y rhai sy’n gweithio yn y sector ddealltwriaeth wirioneddol o bwysigrwydd nid yn unig y sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer eu crefft ond sgiliau meddalach sy’n amddiffyn pawb sy’n gweithio ar y safle. Trwy fforymau a sgyrsiau, gall sectorau fel Twnelu neu Alwedigaethau Simnai gael budd gwirioneddol o'r gwaith y mae CITB yn ei wneud.
“Yn CITB, rydym yn croesawu pob gweithiwr adeiladu proffesiynol i ymuno â’n gweithgorau i ddatblygu safonau a chymwysterau, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n frwd dros hyfforddiant a datblygiad yn ein diwydiant i gofrestru.”
Dywedodd Ian Heath, Ysgrifennydd TunnelSkills, sy’n gyfrifol am noddi ac arwain y fenter:
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o gydweithio effeithlon y diwydiant â CITB, o nodi gofyniad, i gasglu cefnogaeth ac ymrwymiad y diwydiant a gweithio gyda CITB i gyflawni’r cymhwyster newydd mewn cyfnod eithriadol o fyr. Mae’n destament i arweiniad, ymrwymiad ac arbenigedd amhrisiadwy Tîm Safonau CITB fod y prosiect hwn wedi dwyn ffrwyth mewn amserlen sy’n gweithio i’n diwydiant. Edrychwn ymlaen yn awr at weld y diwydiant twnelu yn ymgymryd â’r achrediad newydd hwn a dangos y gall eu gweithlu gyflawni’r wybodaeth a’r cymhwysedd a fydd yn cyfrannu at sicrhau y gallant weithio’n ddiogel.”
Dywedodd Phil Cleaver, Cyfarwyddwr Chimney Skills Training:
“Rydym ni fel Chimney Skills Training yr unig ddarparwr NVQ, wedi mwynhau gweithio gyda’r diwydiant ehangach, CITB a GQA i ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Galwedigaethau Simnai a’r cymwysterau NVQ L2 a L3 dilynol. Maen nhw’n nodi moment hanesyddol i’r crefftau gosod ac ysgubo o ran sicrhau eu dyfodol a galluogi’r sector llosgi tanwydd solet i godi eu safonau i gwrdd â’r cyfyngiadau llymach fyth ar allyriadau.”
Mae CITB yn gweithio gyda phartneriaethau menter lleol, cyrff rhanbarthol a gweinyddiaethau cenedlaethol i gefnogi blaenoriaethau hyfforddi, gan sicrhau bod safonau ar waith sy'n creu gweithlu cymwys ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'r diwydiant adeiladu.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth