CITB yn UKCW 2024
Mae CITB yn arddangos yn nigwyddiad amgylchedd adeiledig mwyaf y DU yn ystod Wythnos Adeiladu’r DU fis nesaf yn y London Excel rhwng 7fed a 9fed o Fai. Bydd Tîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB yno i ddarparu eu gwybodaeth a’u cefnogaeth i’r holl gwsmeriaid sy’n mynychu.
Byddwn yn cynnal amrywiaeth o sesiynau Hwb Sgiliau a Hyfforddiant i ymdrin ag amrywiaeth o bynciau allweddol megis cydweithio, lles, entrepreneuriaeth, sgiliau diogelu’r dyfodol, tueddiadau’r dyfodol, hyfforddiant galwedigaethol a dechrau arni ym maes adeiladu. Mae’r sesiynau’n cynnig cyfle i gael mewnwelediad ac arbenigedd diwydiant gan ystod eang o siaradwyr.
Ein stondin (B492) yw’r Parth Gyrfaoedd a recriwtio newydd, gan roi cyfle i ymwelwyr gael trafodaethau wyneb yn wyneb â recriwtwyr o’r sector adeiladu. Bydd ystafelloedd cyfweld hefyd ar gael ar gyfer ymgynghoriadau ar y safle.
Ar ddydd Iau 9fed o Fai, bydd Deb Madden yn cynnal panel gyda’r Prif Swyddog Gweithredol - Tim Balcon. Bydd arweinwyr o HBF, CECA, FMB, NFB a FIS yn ymuno â nhw i drafod eu barn ar ddatblygu sgiliau yn y diwydiant a rhoi gwybodaeth am eu Cynlluniau Sgiliau Sector.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth