Cwmni adeiladu’n gweld gwerth cyflogi staff sy’n siarad Cymraeg
Mae cwmni adeiladu teuluol sy'n gweithio'n bennaf yn y gogledd-orllewin yn elwa o gyflogi staff dwyieithog.
Mae TIR Construction Ltd, o Benrhyndeudraeth, yn cyflogi 18 o staff, yn cynnwys tri phrentis sy’n gweithio ar Brentisiaethau Lefel 2 a 3 City & Guilds mewn Plastro a Gwaith Asiedydd, a gyflenwir yn ddwyieithog gan Grŵp Llandrillo Menai.
Tony a Tania Edwards sy'n rhedeg y cwmni ac maent wedi cyflogi nifer o brentisiaid dros y blynyddoedd, yn cynnwys eu mab, Iolo, 33, sydd wedi cymhwyso’n friciwr ac yn rheolwr safle.
“Mae cael gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn hwb mawr i’n busnes ac mae cyflogi prentisiaid wedi helpu'r cwmni i sicrhau contractau hefyd,” meddai Tania Edwards, un o gyfarwyddwyr y cwmni.
“Rydan ni'n gwneud llawer o waith i Gyngor Gwynedd a chleientiaid eraill yn y gogledd-orllewin sy'n hoffi cyfathrebu yn Gymraeg. Felly mae’n bwysig bod ein prentisiaid yn cael y cyfle i wneud eu prentisiaethau'n ddwyieithog neu’n gyfan gwbl yn y Gymraeg os yw’n well ganddyn nhw
“Mae'n sicr yn fuddiol cyflogi prentisiaid da sy'n ymroi i ddysgu eu crefft ac sy’n deyrngar i’r cwmni.”
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo TIR Construction Ltd am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
Mae TIR Construction Ltd yn ymfalchïo mewn cyflawni prosiectau adeiladu cynaliadwy o safon uchel mewn gwahanol sectorau, yn cynnwys tai, masnach, hamdden, addysg a diwydiant.
Mae portffolio’r cwmni’n amrywio o gontractau adeiladu traddodiadol, adeiladau newydd a rhai i'w hadnewyddu, i ddylunio ac adeiladu datblygiadau mawr, pwysig yn y gogledd.
Mae’r cwmni’n cydweithio’n agos â Steve Adams, swyddog lleoliadau gwaith Grŵp Llandrillo Menai ac Aled Hughes, cynghorydd ymgysylltu â chwsmeriaid gyda’r CITB, sy’n cynnig grantiau ar gyfer hyfforddiant adeiladu.
“Mae TIR Construction wastad wedi bod yn gefnogol iawn i brentisiaethau dwyieithog,” meddai Mr Adams. “Mae prentisiaethau yn hollbwysig yn y diwydiant adeiladu oherwydd mae’n rhaid i brentisiaid brofi eu gallu yn eu maes er mwyn cael gwaith.
“Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i brentisiaid a’u cefnogi i wneud eu prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Serch hynny, gwelwn yn aml fod prentisiaid sy’n barod iawn i wneud eu hasesiadau llafar yn Gymraeg yn dewis cyflwyno'u gwaith ysgrifenedig yn Saesneg.
“Mae llawer o’n tiwtoriaid a’n haseswyr yn ddwyieithog a byddai'n dda gweld rhagor o brentisiaid yn manteisio ar y cyfle i wneud eu prentisiaethau yn Gymraeg achos mae'n gallu agor mwy o ddrysau iddyn nhw. Yn sicr, mae gallu siarad Cymraeg â chyflogwr yn fanteisiol yn y gogledd.”
Dywedodd Mr Hughes fod TIR Construction wedi bod yn gefnogol iawn i brentisiaethau a bod y cwmni’n datblygu ei brentisiaid, a gaiff eu recriwtio o'r ardal leol, trwy eu rhoi i weithio gyda gweithwyr profiadol a dysgu ganddynt. Mae'r CITB yn rhoi grantiau presenoldeb a chyflawniad ar gyfer Prentisiaethau Adeiladu.
Dywedodd Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.
“Gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i’r cyflogwr.
“Mae TIR Construction Ltd yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan amlygu manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol.
“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a’u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a’u cyfleoedd ym myd gwaith.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru https://gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth