Cyhoeddi enillwyr ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’ SkillBuild
Mae enillwyr Rowndiau Terfynol Cenedlaethol SkillBuild 2022 wedi’u cyhoeddi, ar ôl i bron i 80 o hyfforddeion adeiladu fynd benben â’i gilydd dros dri diwrnod.
Mae SkillBuild, a alwyd aml yn ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’, yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) mewn partneriaeth â WorldSkills UK ac mae’n cynnig cyfle i hyfforddeion gystadlu mewn ymgais i gael eu coroni’n enillydd y grefft o’u dewis.
Yn dilyn y Rowndiau Rhagbrofol Rhanbarthol, a gynhaliwyd mewn gwahanol golegau ar draws y DU yn gynharach eleni, cynhaliwyd y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yng Ngholeg Caeredin ar 15 – 17 o Dachwedd. Denodd y digwyddiad tua 1,000 o ymwelwyr ysgol o bob rhan o Gaeredin a’r Lothians, gan arddangos yr amrywiaeth o sgiliau a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael o fewn y diwydiant.
SkillBuild yw’r gystadleuaeth aml-grefft fwyaf yn y DU ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid adeiladu, ac wrth i gystadleuwyr symud ymlaen trwy bob cam, cânt eu profi ar eu galluoedd technegol, rheolaeth amser, cymeriad, ac ymrwymiad. Mae llawer yn gweld y gystadleuaeth fel cyfle i ddatblygu hyder, hunan-barch a sgiliau bywyd, ynghyd â’r potensial i’r cystadleuwyr cymwys â’r sgôr uchaf ymuno â ‘Squad UK’ a chystadlu’n rhyngwladol.
Dywed Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu mynychu blwyddyn arall eto o SkillBuild, fy hoff ddiwrnod yn y calendr. Mae’n wych cyfarfod â’r holl unigolion dawnus a chlywed am eu dyheadau gyrfa. Mae mor bwysig ein bod yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf hon o dalent sy’n dod drwodd i ddiwydiant, gan eu hannog i ddilyn eu hangerdd a chyrraedd eu potensial llawn.
“Mentrau fel SkillBuild sydd wir yn gwneud gwahaniaeth enfawr a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o wneud y gystadleuaeth eleni yn bosibl. Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr a phawb a gystadlodd, dylech chi i gyd fod yn hynod falch ohonoch chi’ch hun.”
Dywedodd Ben Blackledge, Dirprwy Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr medalau. Mae’n gyflawniad bendigedig, a gobeithiwn y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaeth a hyfforddiant technegol fel llwybr i lwyddiant gyrfa gwych.
“Gan ddefnyddio mewnwelediadau a gafwyd o’n rhaglenni sy’n seiliedig ar y gystadlaethau, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i godi safonau mewn hyfforddiant, gan helpu i ysgogi twf economaidd ledled y DU.”
Dywed Audrey Cumberford, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Caeredin: “Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o’r wythnos fendigedig hon, llwyfan o dalent gwirioneddol ysbrydoledig o bob rhan o’r DU. Mae wedi bod yn fraint i ni gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK gyda SkillBuild a chroesawu cymaint o bobl o golegau a darparwyr hyfforddiant ledled y DU.
“Rydym wedi gweld perfformiad sgiliau o safon anhygoel o uchel gan yr holl gystadleuwyr, a fydd yn ysbrydoliaeth i’r llu o bobl ifanc a gawsom drwy ein drysau i’w gwylio. Gobeithiwn fod hyn wedi agor llawer o lygaid i yrfaoedd yn y sector Adeiladu, ac yn wir i fanteision cystadlu mewn digwyddiadau sgiliau fel y rhain.
“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r medalwyr, a diolch i bawb sydd wedi gwneud hwn yn brofiad gwych i’n Coleg.”
Yr enillwyr o SkillBuild yw:
Gosod Brics
Aur - Jago Gamblin
Arian - James T-Coleman
Efydd - Shaun Baker
Saer Coed
Aur - Andrew Elam
Arian - Ben Price
Efydd - Robin Luscombe
Canmoliaeth Uchel - Eliot Duff
Canmoliaeth Uchel - Osian James
Sgiliau Sylfaen: Gwaith Coed
Aur - Sam Johnson
Arian - Oliver Sayers
Efydd - Dantina Gillett
Canmoliaeth Uchel - Adam Szewc
Canmoliaeth Uchel - Matthew McCarthy
Gwneud Dodrefn a Chabinet
Aur - Isaac Bingham
Arian - Conor Ellis
Efydd ar y Cyd - Thomas Knowles a Ciaran Baggot
Saernïaeth
Aur - Harry Scolding
Arian - Jack Corner
Efydd - Dion Evans
Paentio ac Addurno
Aur - Jade Oakes
Arian - Hattie Parnham
Efydd - Jacqui Hawthorne
Canmoliaeth Uchel - Joshua Thompson
Canmoliaeth Uchel - Paul Mason
Plastro
Aur - Jordan McQuillan
Arian - Thomas Devine
Efydd - Joshua Woosnam
Canmoliaeth Uchel - Kieran Rowarth
Plastro a Systemau Waliau Sych
Aur - Zara Dupont
Arian - Hugh Treanor
Efydd - Prince Senyah
Canmoliaeth Uchel - Ben Henry
Canmoliaeth Uchel - Ashley Carragher
Toi: Llechi a Theils
Aur -Jordan Maley
Arian - Jacob Blight
Efydd - Kyron Sharlotte
Canmoliaeth Uchel - Aeron Murray
Gwaith Saer Maen
Aur - Luke Maher
Arian - Douglas Stevens
Efydd - Marlene Lagnado
Canmoliaeth Uchel - James Lewis
Teilsio Waliau a Lloriau
Aur - Conor Nugent
Arian - Morgan Nutt
Efydd - Aaron Brady
Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan y flwyddyn nesaf, ewch i Am Adeiladu am ragor o wybodaeth.
Hoffai CITB ddiolch i holl noddwyr gwych SkillBuild eleni, sy’n cynnwys Alford Awards, Albion Stone, BAL, British Gypsum, Institute of Carpenters, Crown Paints, Dickies, Nicholls & Clarke, NFRC, Schluter, SPAX, Stone Federation, TARMAC, The Tile Association, The Worshipful Company of Tylers a Bricks and Weber.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth