Facebook Pixel
Skip to content

Cynigion Lefi 2026 – 2028: beth yw barn cyflogwyr?

Yn dilyn yr Ymgynghoriad y llynedd a’r Consensws sydd i fod i ddechrau ym mis Mawrth, buom yn siarad â rhai o aelodau Bwrdd CITB ac aelodau Pwyllgor Strategaeth y Lefi i glywed eu barn ar Gynigion Lefi 2026-2029.

Mae Pwyllgor Strategaeth y Lefi (LSC) yn cynrychioli safbwyntiau diwydiant ar draws tair gwlad Prydain Fawr wrth lunio Cynigion Lefi 2026-2029. Tra bod y Pwyllgor yn datblygu cynigion, mae aelodau Bwrdd CITB yn gyfrifol am lywodraethu, cyfeiriad strategol a monitro perfformiad busnes ac yn y pen draw, cymeradwyo’r Cynigion Lefi.


Sophie Seddon

Aelod o Fwrdd CITB a Chyfarwyddwr Anweithredol, Novus Property Solutions

“Mae CITB yn ein helpu ni fel busnes i nodi ac uwchsgilio gweithwyr o fewn y diwydiant, gan ganiatáu mwy o fewnwelediad a dealltwriaeth ar ddatblygiad ein gweithlu gwerthfawr. Mae grantiau a chyllid sydd ar gael i ni fel cyflogwr sydd wedi cofrestru gyda’r Lefi yn fuddsoddiadau hollbwysig yn ein pobl.

Ymunais â Bwrdd CITB bedair blynedd yn ôl oherwydd fy mod yn angerddol dros ddod â phobl newydd i’r diwydiant gwych hwn. Rwyf am helpu i godi proffil adeiladu, helpu i gau’r bwlch sgiliau, a sicrhau bod gennym weithlu diogel, cymwys ar gyfer heddiw ac yn y dyfodol.

Roeddwn hefyd eisiau rhoi llais i bobl ifanc heddiw o fewn Ystafell y Bwrdd a gwella sut yr ydym yn denu’r bobl hynny i’n sector gan ddefnyddio ffyrdd modern gwell, mwy datblygedig o gyfathrebu.

Mae Ymgynghori a Chonsensws yn rhan bwysig o gylchred CITB. Mae’n ein galluogi i wrando ar gyflogwyr i ddeall a mynd i’r afael â’r hyn sy’n mynd yn dda a sut rydym yn gwella. Mae CITB yn sefydliad gwych sy’n gweithio’n galed i gyflawni ei ddiben, ond ni allwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen cefnogaeth a lleisiau’r cyflogwyr ar draws ein diwydiant.

Steve Anderson

Aelod o’r LSC ac Uwch Reolwr Datblygu yn Construction Skills People (Grŵp Skills)

Gyda phersbectif unigryw ar Lefi, a enillwyd trwy ymgysylltu’n frwd â chwmnïau ar bob lefel sy’n talu’r Lefi ac sy’n cael mynediad at grantiau CITB, penderfynais ymuno â’r LSC gan ei fod yn caniatáu safbwynt gan wahanol aelodau ac o bosibl safbwyntiau nad ydynt yn cael eu lleisio neu eu bwydo’n ôl yn uniongyrchol.

Mae CITB yn effeithio ar y diwydiant mewn sawl ffordd, ond i mi mae wedi creu cymhelliant a hyrwyddiad hyfforddiant o fewn y diwydiant adeiladu. Cefnogi cynlluniau i alluogi busnesau i ganolbwyntio ar ddysgu a datblygu eu gweithlu a’u galluogi i gyflawni’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud.

Fel aelod o’r LSC ac yn gweithio ar y Cynigion Lefi presennol, rydym wedi trafod y cyfraddau amrywiol o Lefi a chwmnïau sydd o fewn y cwmpas, yn ogystal â’r rhai nad ydynt efallai’n talu Lefi megis cyflenwad llafur, fel ei fod yn gwastatáu’r maes chwarae o ran y canrannau a dalwyd.

Rydym am i ddiwydiant gydweithio a chytuno ar system gyfiawn a theg ar gyfer CITB o fusnesau bach a hyd at y contractwyr mawr. Mae angen i ddiwydiant fod ar flaen y gad yn hyn o beth gan mai dyma elfen allweddol y system a sut mae'n gweithio i bawb dan sylw

Neil Rogers

Aelod o’r LSC a Phrif Swyddog Gweithredol Scottish Decorators Federation

Penderfynais ymuno â Phwyllgor Strategaeth y Lefi i sicrhau bod y Lefi’n parhau i fod yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac i geisio helpu i foderneiddio ei strwythur. Mae effaith CITB ar y diwydiant yn enfawr. Maen nhw'n goruchwylio cymwysterau, yn dyfarnu grantiau i wrthbwyso costau hyfforddi ac yn darparu grantiau prentisiaid. Heb CITB, byddai ein diwydiant adeiladu yn ddiwydiant llawer llai cymwys ac yn llawer mwy peryglus i fod ynddo.

Pan fyddwn yn trafod y Lefi yn yr LSC, edrychwn ar yr effaith bosibl ar ddiwydiant - o ran cost a'i allu i gymell hyfforddiant. Mae'r Lefi’n gyrru'r diwydiant tuag at ddod yn fwy diogel, yn fwy effeithlon a hyfforddiant gwell.

Mae effeithiau'r Lefi yn bellgyrhaeddol, gan helpu miloedd o weithwyr adeiladu i ennill cymwysterau am gost sylweddol is o gymharu ag ariannu hyfforddiant yn annibynnol. Yn gyffredinol, mae cost y Lefi yn fach ac os byddwch yn hyfforddi fe welwch fanteision y Lefi.

Mae Ymgynghori a Chonsensws mor bwysig. Drwy'r LSC, mae CITB yn annog eich adborth, sy'n llywio ein ffordd o feddwl am y Cynigion Lefi. Os ydych chi'n rhan o Sefydliad Rhagnodedig neu'n derbyn galwad am Gonsensws, cymerwch ran. Eich bwrdd hyfforddi a'ch diwydiant chi ydyw.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth