Digwyddiadau Menywod mewn Adeiladu yn denu mwy na 250 o ferched ysgol ledled Cymru
Mae CITB yn dangos ei ymrwymiad i gynwysoldeb ac amrywiaeth gyda chyfres o ddigwyddiadau i ddenu mwy o fenywod i fyd adeiladu.
Cynhaliwyd y digwyddiadau yn gynharach y mis hwn (7 Gorffennaf) mewn tri choleg gwahanol yn ymestyn ar draws Cymru, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Llangefni, ac roedd dros 250 o ferched ysgol yn bresennol.
Cafodd y myfyrwyr eu trochi yn y byd adeiladu, gyda chyfle i glywed profiadau uniongyrchol menywod sydd mewn gyrfaoedd adeiladu llwyddiannus ar hyn o bryd. Roedd y rhain yn amrywio o Uwch Reolwyr Dylunio i Syrfewyr Meintiau, yn ogystal ag unigolion dawnus ar ddechrau eu gyrfa, fel Peiriannydd Sifil dan Hyfforddiant. Roedd y trafodaethau’n ymdrin â sut beth yw diwrnod arferol o waith, a’r llwybrau a gymerwyd i gyrraedd eu safleoedd.
Roedd yr amserlen o ddigwyddiadau yn canolbwyntio ar roi blas i'r myfyrwyr o'r hyn sydd gan adeiladu i'w gynnig a chaniatáu iddynt roi cynnig ar dasg, gyda chyflogwyr yn cynnal sesiynau gweithgaredd amrywiol. Roedd y rhain yn cynnwys edrych ar dechnoleg dronau, her adeiladu cynaliadwy a gweithio ar uchder gan ddefnyddio clustffon rhith-wirionedd. Roedd rhan allweddol o’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys chwalu stereoteipiau a chanfyddiadau camsyniol o adeiladu, defnyddio gemau chwalu mythau a chyfeirio at wefan Am Adeiladu.
Mae Am Adeiladu yn fenter diwydiant, a gefnogir gan Lefi CITB, sy'n darparu adnoddau i unrhyw un sy'n edrych am yrfa yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Mae yna gyngor helaeth ar ddod o hyd i rolau boddhaus, deniadol i unigolion sydd â diddordeb, yn ogystal â'r arweiniad angenrheidiol i helpu rhieni, cynghorwyr gyrfaoedd ac addysgwyr i'w cefnogi. Mae’r rhain yn ddylanwadwyr allweddol ym mywyd person ifanc, a dyna pam roedd y digwyddiadau hefyd yn canolbwyntio ar greu gofod i athrawon a chyflogwyr gysylltu.
Mae llawer o'r cwmnïau a gefnogodd y digwyddiadau yn aelodau o Rwydwaith Gwerth Cymdeithasol Cymru CITB. Mae'r rhwydwaith yn hwyluso cydweithio a rhannu arfer gorau wrth ddarparu gwerth cymdeithasol. Er bod nifer y menywod sy'n gweithio ym maes adeiladu ar gynnydd, ar hyn o bryd dim ond tua 14% o weithwyr proffesiynol y diwydiant adeiladu yw menywod. Gydag adroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu diweddar CITB yn nodi bod angen 225,000 o weithwyr ychwanegol i fodloni’r galw erbyn 2027, mae’n hollbwysig bod ymdrechion yn canolbwyntio ar annog mwy o fenywod i mewn i’r diwydiant.
Dywedodd Darren Lynch, Arweinydd Adeiladu yn Ysgol Idris Davies: “Diolch am dynnu sylw a’n gwahodd ni i ddigwyddiad Menywod mewn Adeiladu CITB yn Abertawe. Hwn oedd y digwyddiad gyrfaoedd gorau i mi ymweld ag ef mewn gwirionedd!
“Roedd ein merched mor frwd ac wedi cymryd cymaint o’r gweithgareddau a ddarparwyd. Roedd y siaradwyr gwadd a chynrychiolwyr y cwmnïoedd mor ysbrydoledig. Rwy’n edrych ymlaen at allu cymryd ein carfan nesaf ymhen blynyddoedd!”
Dywedodd Claire Burns, Arweinydd Cynorthwyol Dysgu mewn Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd: “Diwrnod llawn hwyl a agorodd lygaid ein disgyblion i’r amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y sector. Roedd yn bleser gweld pa mor dda y gwnaeth y merched ymgysylltu â’r cyflogwyr a’u gweithgareddau anhygoel.”
Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Roeddem yn falch iawn o gynnal digwyddiad Merched mewn Adeiladu CITB. Mae yna rai llwybrau gyrfa anhygoel ar gael yn y diwydiant adeiladu i fenywod ifanc ledled Cymru ac mae digwyddiadau fel y rhain yn gyfle gwych i hyrwyddo’r maes twf hwn.”
Dywedodd Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymru: “Rwy’n hynod o angerddol am inni fynd allan a siarad yn uniongyrchol â merched ifanc am yrfaoedd adeiladu, a dyna pam mae’r digwyddiadau hyn yn ddigwyddiad blynyddol yn CITB. Mae gan y diwydiant adeiladu enw da am fod yn fwdlyd, â llaw, ac yn wrywaidd, a dyna pam ei bod mor bwysig inni gyfleu cymaint sydd gan y diwydiant i’w gynnig. Mae yna gyfoeth o gyfleoedd cyffrous a gwerth chweil yn aros i gael eu harchwilio ac yn sicr nid ydynt ar gyfer dynion yn unig!
“Yn yr hinsawdd sydd ohoni, a’r ffordd y mae rolau adeiladu’n datblygu ac yn esblygu, y gwir amdani yw bod arnom angen pobl ag ystod amrywiol o sgiliau i lenwi’r rolau hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn dechrau denu pobl o ystod ehangach o gefndiroedd, fel y gallwn recriwtio o gronfa dalent ehangach. Rwyf wrth fy modd gyda’r nifer a fynychodd y digwyddiadau eleni ac edrychaf ymlaen at barhau â’r sgyrsiau a’r gwaith ar y pwnc hwn.”
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth