Dyfarnu cyllid i ysbrydoli pobl ifanc i fyd adeiladu yn yr Alban.
Mae CITB wedi dyfarnu £280,000 i Siambr Fasnach Caeredin i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc yn yr Alban i ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu drwy raglen o Sesiynau Blasu Gwaith Adeiladu.
Bydd y rhaglen hon o Sesiynau Blasu Gwaith yn cyrraedd 2,800 o bobl ifanc 16-25 oed yn genedlaethol dros y tair blynedd nesaf a bydd yn cefnogi nod CITB i annog pobl ifanc dalentog i ymuno ac aros yn y diwydiant adeiladu.
Mae hyn yn cynnwys mwy o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys y rheini sydd heb gysylltiad â’r diwydiant adeiladu, ac sy’n cael eu hysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y diwydiant.
Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi cyflogwyr ar draws y sector adeiladu i ddenu a recriwtio talent ifanc ac adeiladu llif o dalent yn y dyfodol drwy ymgysylltu â’r rhaglen.
Bydd y prosiect a gyflwynir ar gyfer y rhaglen Blasu Gwaith Adeiladu yn cael ei arwain gan Datblygu’r Gweithlu Ifanc mewn partneriaeth ag arweinwyr a chyflogwyr yn y diwydiant adeiladu ledled yr Alban.
Dywedodd Jamie Hepburn ASA, y Gweinidog Addysg Bellach, Addysg Uwch, a Hyfforddi a Chyflogi Pobl Ifanc: “Mae’r sector Adeiladu yn hanfodol i economi’r Alban, gyda 48,700 o swyddi’n agor ar draws y sector erbyn 2031 yn darparu cyflogaeth ystyrlon i’r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol.
“Bydd y rhaglen hon o Sesiynau Blasu Gwaith yn helpu pobl dalentog i ymuno â’r diwydiant adeiladu ac aros ynddo, ac yn ysbrydoli pobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ddilyn gyrfa yn y byd adeiladu.”
Dywedodd Michael Lennox, Uwch Reolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn CITB yr Alban: “Bydd CITB yn buddsoddi £233m mewn hyfforddiant adeiladu yn y flwyddyn nesaf ac mae datblygu Sesiynau Blasu Gwaith yn rhan hanfodol o hyn.
“Mae cyflogwyr wedi dweud wrth CITB nad yw cynlluniau profiad gwaith traddodiadol yn cyd-fynd â safleoedd adeiladu modern, nac yn helpu busnesau bach a chanolig i recriwtio. Bydd y buddsoddiad hwn o £280,000 yn y diwydiant yn dod â bron i 3,000 o bobl ifanc yn nes at weithio yn y byd adeiladu a dull newydd i gyflogwyr ysbrydoli prentisiaid yn y dyfodol a gwreiddio dull newydd.”
Dywedodd Emma Dickson, Cadeirydd Sgiliau Adeiladu’r Alban: “Mae Sesiynau Blasu Gwaith Adeiladu yn ysbrydoli pobl ifanc i weithio yn y byd adeiladu, gan eu helpu i ganfod y rôl sydd orau iddyn nhw. Mae gyrfaoedd adeiladu’n amrywio’n fawr, o fricwyr a seiri coed, i reolwyr prosiect, cynllunwyr a pheirianwyr; mae’n faes llawn cyfleoedd, ac mae’n gallu bod yn frawychus.
Sesiynau Blasu Gwaith Adeiladu fydd y cam nesaf o Adeiladu eich Dyfodol, a byddant yn cyflwynio pobl ifanc i’r byd adeiladu. Bydd yn bwysig i ddiwydiant weithio’n agos gyda DYW ar y prosiect hwn, sydd hefyd yn ceisio ysbrydoli’r bobl ifanc hynny na fyddent fel arfer yn ystyried gyrfa yn y byd adeiladu. Mae’n hanfodol ein bod yn arallgyfeirio i gefnogi’r agenda sero-net a’r agenda ddigidol.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut gall partneriaid yn y diwydiant gymryd rhan, cysylltwch â info@edinburghchamber.co.uk.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth