Mae CITB yn croesawu Cynllun Sgiliau Adeiladu CLC ar gyfer 2022
Heddiw (28 Ebrill) cyhoeddodd y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu (CLC) ddiweddariad i’w gynllun sgiliau sector cyfan ar gyfer adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae'r Cynllun Sgiliau yn gydweithrediad traws-ddiwydiant.
Flwyddyn ar ôl cynllun cyntaf CLC, mae’r rhagolygon ar gyfer adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn fwy cadarnhaol. Mae ystod o ddangosyddion a rhagolygon yn cyfeirio at dwf parhaus yn 2022/23 ac yn y blynyddoedd i ddod. Ond gyda thwf yn dod â mwy o heriau sgiliau, mae rhagolygon Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu CITB yn debygol o ddangos angen blynyddol i recriwtio mwy na 50,000 o weithwyr uwchlaw’r tueddiadau presennol.
Dywedodd Mark Reynolds, Cadeirydd Grŵp a Phrif Weithredwr Mace a Noddwr y Rhwydwaith Pobl a Sgiliau: “Gallwn wneud cynnydd gwych os byddwn yn cael mwy o rannau o’r diwydiant i gymryd rhan yn yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni. Bydd y diweddariad ar y cynllun sgiliau newydd yn ein helpu i gyflawni ein nodau drwy nodi ble rydym am fod erbyn diwedd y flwyddyn hon ac amlinellu sut y gall ein diwydiant gymryd rhan.
“Mae cynllun CLC eleni yn cynnwys gwella ymwybyddiaeth a’r nifer sy’n manteisio ar raglenni gyrfaoedd presennol, gan gynnwys cefnogi 3,000 o gyflogwyr i gyflwyno sesiynau Tegwch, Cynhwysiant a Pharch, sicrhau 1,700 o Lysgenhadon STEM Adeiladu gweithredol a chyflwyno 28,000 o sesiynau blasu profiad gwaith.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i helpu’r system brentisiaethau i fodloni anghenion y diwydiant, gyda ffocws ar gynyddu nifer sy’n dechrau prentisiaethau ac yn eu cwblhau.
Mae Rhwydwaith Pobl a Sgiliau CLC yn cael ei gyd-gadeirio gan Gyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chynnyrch CITB, Jackie Ducker. Dywedodd Jackie: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y gallwn gyflawni llawer mwy drwy gydweithio ar draws diwydiant. Mae llawer o’r camau gweithredu yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn dal i fod y rhai cywir i ateb yr heriau sgiliau y mae adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn eu hwynebu. Rydym yn adeiladu ar y camau gweithredu hynny nawr ac yn cryfhau ein canlyniadau
“Fe wnaethom lansio’r Cynllun Cadw Talent Adeiladu (CTRS) yn llwyddiannus yn gynnar yn y pandemig, a helpu i gadw mwy o’r bobl yr oedd eu hangen arnom trwy amddiffyn y rhai sydd eisoes mewn diwydiant (gan gynnwys prentisiaid) sydd mewn perygl o golli eu swyddi.
“Fe wnaethon ni dreialu swydd alwedigaethol dan hyfforddiant gyntaf y DU ar gyfer adeiladu gyda 93% o ddysgwyr yn symud ymlaen i ddeilliannau llwyddiannus a throsglwyddwyd £2.3m o Lefi Prentisiaethau heb ei wario drwy’r Gwasanaeth Addewid Lefi Prentisiaethau, i gwmnïau llai i fuddsoddi mewn prentisiaid.”
Eleni mae CLC yn canolbwyntio ei ymdrechion ar bedair blaenoriaeth strategol gyda sylw i greu'r newid diwylliant cywir ac ehangu amrywiaeth.
- Gwella mynediad at gyfleoedd i bawb
- Hybu pob llwybr i mewn i ddiwydiant
- Cydweithio parhaus i ddatblygu fframweithiau cymhwysedd
- Paratoi ar gyfer dyfodol y gwaith adeiladu
Ychwanegodd Jackie: Mae angen i ni wneud adeiladu yn sector gyrfa ddeniadol o ddewis trwy well datblygiad, darpariaeth ac arddangos y cyfleoedd datblygu gyrfa y mae ein diwydiant amrywiol yn eu cynnig. Mae hyn yn golygu cefnogi mynediad i bawb drwy weithio gyda diwydiant i ddatblygu diwylliant diwydiant mwy teg, amrywiol a chynhwysol.
Mae cynlluniau i adeiladu ar y cynllun peilot swyddi galwedigaethol dan hyfforddiant llwyddiannus trwy ehangu i alwedigaethau blaenoriaethol newydd, gan gefnogi 200 o ddysgwyr trwy'r llwybr hwn o Addysg Bellach i'r sector adeiladu. Bydd Talent View Construction hefyd yn cael ei hyrwyddo'n ehangach gyda chynnydd o 20% yn nifer y cyflogwyr sy'n manteisio ar hyn.
Blaenoriaeth arall yw gwella cymhwysedd a gwreiddio lefelau uwch o ddiogelwch ac ansawdd mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig drwy ddatblygu set o fframweithiau cymhwysedd.
Mae Jackie Ducker a Mark Reynolds wedi mynegi eu diolch i aelodau’r rhwydwaith am eu hegni a’u gwaith caled eleni ac yn edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni cam nesaf y cynllun yn y flwyddyn i ddod.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth