Mae CITB yn gwneud buddsoddiad yr Alban i gynyddu a chadw talent newydd
Mae CITB yn buddsoddi £3m yn adeiladu yn yr Alban i gefnogi unigolion ar ddechrau eu gyrfa a chynyddu cadw swyddi.
Bydd y comisiwn, ‘Scottish Academy for Construction Opportunities (SACO)’, yn targedu’r Ucheldiroedd a’r Ynysoedd a Chanol a De’r Alban, ac yn caniatáu i gynigion gael eu haddasu mewn ymateb i ofynion penodol cyflogwyr adeiladu lleol. Dros gyfnod y comisiwn tair blynedd, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu cefnogi i oresgyn unrhyw heriau cychwynnol y gallent eu hwynebu wrth ddechrau swydd newydd, yn ogystal â chael cymorth parhaus yn y gwaith. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant swydd, mentora, ymgysylltu â chyflogwyr, systemau cyfoedion a chyfaill neu fesurau cymorth priodol eraill i wella ansawdd a chynaliadwyedd canlyniadau gwaith.
Mae’r cyfle newydd ac arloesol i’r Alban wedi datblygu o’r gwersi a ddysgwyd drwy’r Gronfa Sgiliau Adeiladu (CSF) a rhaglenni Profiad ar y Safle, a ddarparwyd yn flaenorol yng Nghymru a Lloegr. Ar draws dau gyfnod y Gronfa Sgiliau Adeiladu, rhoddwyd cyfle i 20,000 o unigolion weithio ym maes adeiladu gyda 62% o'r rhai a gymerodd ran wedi'u dosbarthu fel rhai o lwybrau mynediad nad yw’n draddodiadol.
Er bod y modelau hyn wedi'u cynllunio'n flaenorol gyda ffocws ar alluogi dechrau swyddi, mae SACO wedi'i roi ar waith i helpu unigolion sydd eisoes yn Barod am Gyflogaeth a’r Safle (ESR) ac sy'n gweithio trwy gam nesaf eu gyrfa adeiladu. Am y rheswm hwn, mae CITB yn chwilio am geisiadau gan gyflogwyr a all weithio gyda sefydliadau i ddarparu'r hyfforddiant a'r profiad perthnasol sydd eu hangen.
Gydag adroddiad blynyddol Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu CITB i’w gyhoeddi'r wythnos nesaf, yn rhoi cipolwg ar economi adeiladu’r DU, mae data cynnar yn awgrymu y bydd y gofyniad recriwtio blynyddol yn yr Alban yn cynyddu dros 2% yn seiliedig ar lefelau gweithlu 2021. Mewn ymateb i’r galw hwn, mae Cynllun Busnes diweddar CITB yn nodi targedau allweddol gyda ffocws yr un mor bwysig ar ddenu a chadw talent. Mae SACO yn un yn unig o’r llu o fentrau a nodir yn y cynllun sydd â’r bwriad o helpu diwydiant drwy’r cyfnod hollbwysig hwn, gan weithredu fel ateb un-stop drwy baru cyflogwyr â cheiswyr gwaith addas. Yn ogystal, bydd adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal gydag unigolion mewn cyflogaeth barhaus am dri a chwe mis, ochr yn ochr â thracio hyd at 12 mis, gan gefnogi ymhellach y prif nod o gynyddu cyfraddau cadw.
Dywedodd Ian Hughes, Cyfarwyddwr Ymgysylltu CITB yr Alban:
“Rydym wedi gwylio modelau tebyg yn cael eu gweithredu ac wedi siapio SACO yn unol â hynny, fel ei fod yn cwmpasu’r holl elfennau effeithiol, wrth ddarparu’n benodol ar gyfer anghenion yr Alban. Gan wybod pa effaith wych y mae modelau blaenorol fel y Gronfa Sgiliau Adeiladu wedi’i chael, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i gyflogwyr yn yr Alban chwarae rhan mewn mowldio dyfodol adeiladu.
“Rydyn ni’n gwybod bod gennym ni her enfawr ar ein dwylo gyda’r bwlch sgiliau presennol a’r galw am fwy o weithwyr. Rhaid inni weithredu nawr i sicrhau bod gan ddiwydiant y gweithlu sydd ei angen arno, ac rwy’n annog pob cyflogwr i ystyried y cyfle gwych hwn.”
Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth yr Alban, Ivan McKee:
“Mae buddsoddiad sy’n anelu at gefnogi’r rhai sy’n dechrau gyrfa ym maes adeiladu a chynyddu cyfraddau cadw gweithwyr i’w groesawu. Ar adeg pan rydym yn wynebu prinder sgiliau ar draws y diwydiant adeiladu, ni fu erioed yn bwysicach buddsoddi mewn tyfu sylfaen staff medrus.
“Bydd angen gwreiddio diwylliant gwaith teg a gwella sgiliau'r gweithlu ar gyfer trawsnewid digidol ar draws gweithgareddau dylunio, gweithgynhyrchu, adeiladu a chynnal a chadw er mwyn darparu amgylchedd adeiledig wedi’i ddatgarboneiddio a dod yn economi sero net erbyn 2045.”
I’r rhai sy’n dymuno dysgu mwy am y cyllid, mae dau ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal, un ar gyfer yr Alban Ganol a De ac un ar gyfer yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, yn ogystal â dwy weminar rithwir yr wythnos nesaf (wythnos yn dechrau 13 Mehefin).
Mae'r comisiwn yn mynd yn fyw ddydd Llun 20 Mehefin. Mae rhagor o fanylion am y digwyddiadau a sut i gael mynediad at y cyfle ar gael ar wefan CITB.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth