Mae CITB yn helpu i fynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus, Asbestos Boss Ltd
Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Safonau Masnach Stockport a’r HSE, mae Rheolwr y DU ar gyfer Asbestos Boss Ltd, Daniel Cockcroft, wedi’i ddwyn o flaen ei well gyda chymorth Tîm Ansawdd a Safonau CITB.
Cafodd Safonau Masnach Stockport a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) eu hysbysu am y masnachwyr twyllodrus am y tro cyntaf yn ôl ym mis Medi 2021, pan symudodd y cwmni’r bwrdd insiwleiddio asbestos o garej ddomestig, heb fawr ddim mesurau rheoli, os o gwbl. Datgelodd yr ymchwiliad sawl achos tebyg yn ddiweddarach, gydag un achos yn cael ei ystyried o ansawdd mor wael fel bod perchnogion y safle wedi derbyn dyfynbrisiau hyd at £64,000 i'w unioni.
Fel rhan o'r ymchwiliad, cysylltodd Safonau Masnach Stockport â CITB ym mis Rhagfyr 2021 i gynnal gwiriadau yn erbyn dogfennau a gynhyrchwyd gan Mr Cockcroft, gan honni bod ganddo gymhwyster CITB Site Safety Plus. Ymchwiliodd Ian Sidney, Rheolwr Twyll CITB, a chadarnhaodd nad oedd gan Mr Cockcroft unrhyw fath o gerdyn CSCS na chymhwyster Site Safety Plus. Roedd Asbestos Boss Ltd nid yn unig yn cynhyrchu dogfennau ffug ond hefyd yn defnyddio logo CITB heb ei awdurdodi ar eu gwefan i wneud i gwsmeriaid feddwl eu bod wedi ennill achrediad.
Yn Llys Ynadon Manceinion, dywedodd y Barnwr Begley fod natur a difrifoldeb troseddu Mr Cockcroft yn amlwg a’i fod yn ganolog i’r troseddau. Yna dywedodd ei fod yn ystyried gweithredoedd Mr Cockcroft yn “fasnachu twyllodrus ar ei waethaf.” Gwnaeth yn glir ei fod yn ystyried y goblygiadau ar gyfer materion iechyd difrifol yn y dyfodol o ddatguddiadau a achoswyd gan Mr Cockcroft yn nodwedd waethygol yn yr achos.
Darparodd CITB ddatganiad tyst i'r achos, gan gynhyrchu tystiolaeth o'r canfyddiadau a manylion y nodau masnach sydd gan CITB. Yn dilyn hyn, dygodd Safonau Masnach Stockport gyhuddiad o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug yn groes i adran 1(2)(a) o Ddeddf Twyll 2006 yn erbyn y cwmni a’r cyfarwyddwyr mewn perthynas â ffugio dogfennau gyda’r bwriad o dwyllo, yn ogystal â defnydd anawdurdodedig o logos masnach ac achredu, a gynlluniwyd i roi argraff o gymhwysedd.
Dywedodd y Barnwr Begley fod ansawdd a phwysau’r dystiolaeth yn erbyn Asbestos Boss Ltd yn llethol, ac fe’u cafwyd yn euog o bob cyhuddiad. Dedfrydwyd Mr Cockcroft i chwe mis o garchar am gyhuddiadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a phedwar mis arall am drosedd Safonau Masnach yn ymwneud â thwyll a ddichell.
Dywedodd Chris Simpson, Pennaeth Ansawdd a Safonau CITB: “Mae ffugio cymwysterau iechyd a diogelwch yn golygu nad yw’r deiliad wedi dangos y cymhwysedd proffesiynol a’r ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy’n ofynnol er mwyn iddynt allu gweithio’n ddiogel yn y diwydiant adeiladu. Rydym wedi ymrwymo i nodi a chael gwared ar unrhyw fath o dwyll neu dichell er mwyn sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn cael eu cadw’n ddiogel, gyda diwydiant y gallant ddibynnu arno.
“Mae CITB yn croesawu’r ddedfryd sy’n anfon neges glir i unigolion a chwmnïau sy’n torri rheolau iechyd a diogelwch na fyddwn mewn unrhyw fodd yn goddef hyn, ac y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Safonau Masnach a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) i atal masnachwyr twyllodrus.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth adrodd eu pryderon yn gyfrinachol i Safonau Masnach, HSE neu CITB drwy report.it@citb.co.uk.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth