Mae mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ar gyfer y gweithlu lleol yn hanfodol, yn ôl adroddiad sgiliau adeiladu newydd ar gyfer yr Alban
Mae adroddiad diweddaraf Sgiliau Lleol - yr Alban gan fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), yn dangos bod mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ar gyfer gweithluoedd lleol yn hanfodol i gefnogi diwydiant adeiladu’r wlad i ddarparu amgylchedd adeiledig sy’n effeithlon o ran ynni ac yn gynaliadwy.
Mae’r adroddiad, sy’n adeiladu ar ymchwil flaenorol a gynhaliwyd gan CITB yn 2018, yn fan cychwyn ar gyfer gwaith gyda rhanddeiliaid i greu cynlluniau gweithredu sgiliau rhanbarthol â’r nod o gynnal y gweithlu adeiladu ar y lefel gywir â’r cymysgedd cywir o sgiliau.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn canfod bod y pwysau ar y farchnad lafur y mae cyflogwyr wedi bod yn ei wynebu ers 2018 yn debygol o barhau, â lefelau uchel o swyddi gweigion a chystadleuaeth ddwys rhwng diwydiannau i ddenu gweithwyr.
Y De-ddwyrain sydd â’r bwlch mwyaf, â’r cyflenwad gweithlu yn yr ardal o 36,700 ymhell o’r galw o 57,750. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr yn cael eu tynnu i mewn o ardaloedd cyfagos i ateb y galw.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod mwyafrif y gweithlu adeiladu yn cael ei recriwtio a’i ddatblygu yn yr Alban. Mae ein hymchwil yn dangos bod 94% o’r gweithlu yn byw yn yr Alban pan ddechreuon nhw eu gyrfaoedd adeiladu a 76% wedi gweithio yn yr Alban am eu gyrfa gyfan.
O ganlyniad, mae’n bwysig bod cwmnïau adeiladu yn ceisio ehangu eu hystod o ddulliau recriwtio, gan fanteisio i’r eithaf ar amrywiaeth yn y boblogaeth oedran gweithio lleol.
Dywedodd Ian Hughes, Cyfarwyddwr Ymgysylltu CITB yr Alban: “Mae’r diwydiant adeiladu yn yr Alban wedi parhau i roi gwerth i’r economi yn ystod cyfnod heriol. Er mwyn gallu parhau i wneud hynny, gan ddarparu amgylchedd adeiledig yn y dyfodol sy’n effeithlon o ran ynni ac yn gynaliadwy, bydd angen gweithlu sydd â’r sgiliau a’r hyfforddiant priodol.
Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor y mae’n rhaid ei hwyluso gan ddiwydiant, y llywodraeth a rhanddeiliaid yn gweithio mewn partneriaeth, wedi’i ategu gan seilwaith hyfforddi a chynlluniau sgiliau i sicrhau bod y gweithlu ar gyfer y dyfodol yn cael ei ddatblygu heddiw.”
Yn yr Alban, fel drwy weddill y DU, bydd CITB yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth allweddol dros y flwyddyn i ddod. Y rhain yw:
- Gwella piblinell pobl y diwydiant adeiladu
- Darparu cyflenwad hyfforddiant effeithlon
- Creu llwybrau hyfforddi diffiniedig
Mae camau gweithredu i wella’r ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant yn yr Alban yn cynnwys:
- Parhau i recriwtio a chefnogi Prentisiaid Modern trwy ein hasiantaeth reoli, gan ganolbwyntio'n benodol ar alwedigaethau crefftau medrus iawn.
- Buddsoddiad o tua £30m mewn prentisiaethau yn yr Alban, drwy gyllid uniongyrchol a gwerth contract Skills Development Scotland.
- Ehangu ein rhwydwaith darparwyr ansawdd, gan weithio mewn partneriaeth â'r darparwyr hyfforddiant a rhwydweithiau'r coleg i sicrhau bod hyfforddiant yn hygyrch ac yn gyfoes ag anghenion sgiliau newydd.
- Gwelliannau i ansawdd sgiliau arwain a rheoli ar draws y diwydiant adeiladu, yn enwedig o fewn SMEs.
- Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cydnabyddedig i helpu cyflogwyr i ddod o hyd i ddarpariaeth hyfforddi sy'n addas ar gyfer eu holl anghenion.
- Buddsoddiadau sylweddol yn y Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) i ddatblygu ein cyfleusterau ac ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir.
- Cydweithio ag adolygiad Skills Development Scotland o brentisiaethau, i helpu sicrhau eu bod yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant ac yn paratoi unigolion yn dda ar gyfer dyfodol ym maes adeiladu.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth