Menywod mewn Adeiladu 2024 yng Nghymru
Cynhaliodd Tîm Ymgysylltu CITB Cymru bedwar digwyddiad blasu Menywod mewn Adeiladu ledled Cymru y mis hwn, gan ymgysylltu â 265 o ddisgyblion o flynyddoedd 8-10, o 20 ysgol ledled Cymru.
Ymunodd llu o gyflogwyr a rhanddeiliaid â ni i gyflwyno sgyrsiau ysbrydoledig a gweithgareddau rhyngweithiol i'r merched, megis adeiladu Tetrahedron, dysgu Arloesi 360-gradd, Efelychydd Paent VR, Adeiladu â Brics Ewyn, Her Ffrâm Dur a Phig Dannedd, a'r Her Mesur Meintiau lle'r oedd yn rhaid i'r merched reoli cyllideb er mwyn caffael y nifer cywir o eitemau i wneud eu breichledau.
Gwnaethom hefyd gyflwyno ein digwyddiad cyntaf Menywod mewn Adeiladu trwy gyfrwng y Gymraeg yng nghanolfan S4C, Yr Egin, yng Nghaerfyrddin lle bu disgyblion yn trafod eu dewisiadau gyrfa gyda chwmnïau adeiladu a phensaernïaeth Cymraeg lleol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yn ddwyieithog.
Roedd rhan sylweddol o'r digwyddiadau blasu hefyd yn cynnwys chwalu stereoteipiau a chamdybiaethau o adeiladu, defnyddio gemau chwalu mythau a'u cyfeirio at wefan Am Adeiladu.
Erbyn diwedd y digwyddiad yn Coleg Gwent, roedd gan fwy na 50 o ferched ddiddordeb mewn gyrfa ym maes adeiladu, cynnydd enfawr o'r ddau ar ddechrau'r digwyddiad! Roedd yr ystod o siaradwyr a chyfleoedd ym maes adeiladu ar gyfer merched o bob lefel academaidd wedi creu argraff ar athrawon hefyd:
"Yr hyn a sylwais eleni oedd mwy o'r merched oedd â diddordeb mewn rôl yn y diwydiant adeiladu, yn fwy felly na'r llynedd. Felly, mae'n rhaid i ni gyd fod yn gwneud gwahaniaeth ac mae meddylfryd yn newid!"
"Diolch yn fawr iawn am adael i ni fynychu'r digwyddiad a dangos beth sydd gan WJ i'w gynnig. Digwyddiad llwyddiannus a baratowyd yn dda a diolch am y cinio a ddarperir".
"Fe wnaeth y merched i gyd fwynhau'r digwyddiad a'r cyfle i ymweld â'r Egin... roedd pawb wedi mwynhau sesiwn Nina gyda'r tetrahedron".
Hoffem ddiolch yn fawr i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Gwent, Coleg Cambria a'r Egin yn S4C am gynnal y digwyddiadau yn eu lleoliadau ac am eu cefnogaeth barhaus.
Peidiwch ag anghofio ymweld â'n tudalen Menywod mewn Adeiladu ar Am Adeiladu ac os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad blasu Menywod mewn Adeiladu yng Nghymru, sy'n cynnwys cludiant am ddim i'r digwyddiad ac yn ôl o'r digwyddiad, anfonwch e-bost at Katie.Cole@citb.co.uk gyda'ch ceisiadau.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth