Miloedd mwy o bobl i’r diwydiant adeiladu Cymreig - Cynllun Strategol CITB 2021-25
Mae cefnogi hyfforddiant ac ailhyfforddi i ailgodi ar ôl yr adferiad, gwella cynhyrchiant a’i gwneud yn haws i gyflogwyr ddod â phrentisiaid a darpar-weithwyr eraill i mewn i’r diwydiant adeiladu Cymreig yn elfennau allweddol o Gynllun Strategol CITB, a lansiwyd heddiw.
Ynghanol sefyllfa anrhagweladwy, bydd CITB yn canolbwyntio ar nifer llai o flaenoriaethau i helpu i foderneiddio’r diwydiant adeiladu, cynyddu cynhyrchiant a chydweithio â’r diwydiant, llywodraethau ac addysg bellach. Yn ogystal â darparu cefnogaeth uniongyrchol i gyflogwyr, bydd CITB yn defnyddio’r cyfnod hwn i helpu i drwsio'r system, a’i gwneud yn haws i recriwtio gweithwyr i mewn i’r diwydiant ac i gael mynediad at hyfforddiant. Mae’r pandemig wedi creu heriau anferthol ond mae hefyd wedi creu cyfleoedd i ddenu gweithwyr a fydd yn gweld llwybrau eraill i mewn i waith wedi’u rhwystro.
Yng Nghymru, datblygwyd cymwysterau Adeiladu Sylfaenol a’r Amgylchfyd Adeiledig newydd ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau hyn. Bydd CITB yn gweithio â phartneriaid Addysg Bellach a chyflogwyr i gael mwy o gyfleoedd profiad gwaith ochr yn ochr â chwrs presenoldeb llawn amser trwy nawdd neu drefniant cefnogol.
Rhwng 2021 a 2025, caiff lefi ei fuddsoddi ar draws Prydain i wneud y canlynol:
- Cefnogi 28,000 o brofiadau adeiladu blasu drwy Am Adeiladu i helpu darpar-weithwyr posibl i ddeall y cyfleoedd a geir yn y diwydiant adeiladu a sut i gael mynediad atynt
- Rhoi profiad ar y safle i 19,000 o bobl i’w paratoi at ddechrau gweithio yn y diwydiant adeiladu drwy hybiau ar y safle
- Creu llwybr newydd rhwng Addysg Bellach a chyflogaeth a fydd ar gael i 8,000 o ddysgwyr, gan gynnwys 1,600 o ddechreuadau prentisiaeth yn ogystal â mwy o ddysgwyr i ddechrau swyddi yn y diwydiant adeiladu• Cynyddu’r nifer o brentisiaid sy’n cwblhau eu rhaglenni o 60% i 70% drwy ddyrannu £110m i gefnogi dysgwyr a chyflogwyr ar ben cefnogaeth grant
- Helpu cyflogwyr i fuddsoddi mewn hyfforddiant i ddechrau er mwyn ailgodi ar ôl y pandemig ond yn fwy na hynny i foderneiddio a chynyddu cynhyrchiant drwy’r Cynllun Grantiau a chyllid arall. Golyga hyn gyllid o dros £500m (77% o lefi) i gyflogwyr
- Cefnogi cyflogwyr i foderneiddio gan adnabod y prif gymwyseddau sydd eu hangen, gan gynnwys y rheiny sy’n cefnogi digideiddio
Dywed Sarah Beale, Prif Weithredwr CITB: “Mae’r adferiad yn cyflwyno heriau mawr i’r diwydiant adeiladu ond mae hefyd yn cyflwyno cyfleoedd mawr i wneud pethau’n wahanol ac i ddod ag amrediad ehangach o weithwyr newydd i mewn i’r diwydiant.
“Bydd ein Cynllun Strategol yn helpu cyflogwyr i sylweddoli bod y cyfleoedd hyn ar gael drwy helpu i drwsio’r system sy’n dod â phobl i mewn i’r gwaith a’u cefnogi i wneud yr hyfforddiant maent eu hangen.
“Byddwn yn canolbwyntio ar nifer fach o feysydd megis darparu gwybodaeth a phrofiadau i ddarpar-weithywr newydd, creu llwybr newydd o Addysg Bellach i mewn i brentisiaethau neu swyddi, a chynyddu'r nifer o brentisiaid sy’n cwblhau eu rhaglenni. Byddwn hefyd yn helpu cyflogwyr i hyfforddi gan adnabod bylchau mewn darpariaeth, gwneud hyfforddiant yn hygyrch a chyllido’r meysydd sydd ei angen, gan gynnwys drwy’r Cynllun Grantiau.
“Dros amser, bydd cyfran mwy o hyn yn cefnogi cyflogwyr i foderneiddio a chynyddu cynhyrchiant.”
Dywed Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru: “Mae’r sector adeiladu yn hollbwysig i economi Cymru ac yn ffurfio rhan allweddol o’n hymdrechion ar gyfer adferiad cadarn a chynaliadwy yn sgil effeithiau coronafeirws. Mae hefyd yn darparu rhagolygon gyrfaoedd anferth i bobl gan gynnwys prentisiaid a bydd cynlluniau CITB yn eu helpu i sylwi ar y cyfleoedd hyn.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda CITB a phartneriaid, gan gynnwys y rhai ar y Fforwm Adeiladu, i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau’r dyfodol.”
Datblygwyd y cynllun yn ystod trafodaethau’r haf hwn rhwng cynrychiolwyr y diwydiant, ac aelodau Bwrdd CITB a Chyngor y Cenhedloedd, sy’n cynnwys cyflogwyr yn bennaf.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth