Safonau a grantiau peiriannau newydd CITB “wedi’u hysbrydoli gan ddiwydiant”
Bydd mewnbwn y diwydiant ar safonau a grantiau peiriannau newydd CITB yn helpu pawb yn ôl Emily Tillling o CITB.
Bydd y newidiadau, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn dod i rym ym mis Ionawr 2023 a byddant yn cael effaith bellgyrhaeddol ar y diwydiant adeiladu.
Er enghraifft, bydd gweithwyr newydd a gweithwyr presennol yn cael hyfforddiant gan arbenigwyr, gan gynnwys dysgu am dechnolegau newydd a gweithredu peiriannau yn amgylcheddol gyfeillgar.
Bydd gan gyflogwyr fynediad at grantiau hael, a bydd sicrwydd y bydd ganddynt weithredwr peiriannau cymwys sy’n barod i weithio.
Bydd y diwydiant yn gweld mwy o ffocws ar faes sgiliau blaenoriaeth (mae galw mawr am weithredwyr peiriannau).
Ac, yn bwysicaf oll, bydd y safonau newydd yn helpu i sicrhau bod peiriannau’n cael eu gweithredu’n fwy diogel, gan helpu i osgoi anafiadau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â pheiriannau ar y safle.
Ansawdd
Rydw i wedi gweithio yn CITB ers saith mlynedd. Rydw i wedi canolbwyntio ar safonau peiriannau a gwaith grant ers mis Awst diwethaf.
Y darn cyntaf o waith a wnes i oedd ymgynghoriad â’r diwydiant. Mae wedi bod yn waith dwys a hanfodol oherwydd fy mod wedi clywed nifer o straeon yn ystod y broses am hyfforddiant peiriannau gwael.
Cyn imi egluro’r broses ymgynghori, gadewch imi amlinellu’n llawn pam y bydd y safonau hyn yn gwella’r maes diwydiant hwn.
Mae llawer o gyflogwyr yn cwyno eu bod yn gwario symiau sylweddol o arian ar hyfforddiant ond nad oes unrhyw sicrwydd y bydd ganddynt weithiwr o safon ar ei ddiwedd.
Bydd y safonau newydd yn newid hynny.
Byddant yn golygu bod gweithredwyr peiriannau newydd yn cael eu hyfforddi i safon benodol.
Bydd yr hyfforddiant yn fodern, bydd asesiad risg llawn wedi’i gynnal arno, a bydd ei ansawdd yn cael ei reoli a’i sicrhau.
Fe’i cyflwynir gan rywun sydd â phrofiad o’r peiriannau dan sylw. Efallai y bydd yn eich synnu i glywed nad yw hynny’n wir bob amser.
Ar ddiwedd yr hyfforddiant, bydd gan gyflogwyr weithredwr peiriannau newydd wedi’i hyfforddi mewn lleoliad priodol ar beiriannau addas.
Bydd ganddynt weithiwr y gallant ymddiried ynddo, rhywun sydd wedi pasio prawf cadarn ac sydd ar lwybr i gymhwyso ar gyfer CG.
Gall cyflogwyr fod yn hyderus bod eu gweithwyr wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr a bod ystyr iddo.
Y gost?
Bydd cyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB yn gallu gwrthbwyso’r gost gyda rhai o’r grantiau mwyaf hael sydd gan CITB i’w cynnig.
Ffurflen
Cafwyd 246 o ymatebion i’n hymgynghoriad, gan gynnwys 200 o gyflogwyr o bob maint.
Efallai nad yw’r ffigur hwn yn swnio’n llawer, ond roedd yn ymateb da iawn yn y maes gwaith hwn - ddwywaith cymaint â’r hyn roeddem wedi’i ddychmygu.
Mi wnaeth y data hwn, a’r adborth hwn gan y diwydiant, ddylanwadu ar waith CITB ar y newidiadau, ac ysbrydoli’r gwaith hwnnw hefyd.
Yn dilyn yr ymgynghoriad dau fis, mi gefais i hefyd sgyrsiau un-i-un gyda chyflogwyr a darparwyr. Fe wnaethon nhw fy helpu i fesur teimladau ac anghenion cyflogwyr yn y rhan hon o’r sector.
Ar sail yr adborth, mi wnaethom hefyd edrych ar yr angen i symleiddio grantiau CITB.
Mae’r newidiadau’n golygu y bydd angen i gyflogwyr roi eu rhif cofrestru CITB i’r Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy sy’n darparu’r hyfforddiant a’r profion o fis Ionawr ymlaen.
Cymeradwyodd ein Pwyllgor Ariannu’r Diwydiant – sy’n cynnwys amrywiaeth o gyflogwyr – gyfraddau newydd y grantiau a’r meini prawf cymhwysedd.
Cymorth
Fel y soniwyd, ni fyddwn yn rhoi’r newidiadau ar waith am rai misoedd. Pam yr oedi?
Y rheswm am hyn yw bod angen chwe mis ar y diwydiant i baratoi ar gyfer newidiadau o’r maint yma.
Mae gan ddarparwyr a chynlluniau cardiau lawer o waith i’w wneud i fodloni’r safonau newydd ac i gyd-fynd â’r dull newydd.
Mae angen gwneud cryn dipyn o waith i sicrhau bod hyfforddwyr yn gwbl gymwys a phrofiadol.
Pan fydd y newidiadau wedi eu rhoi ar waith, bydd CITB yn eu hadolygu ar ôl chwe mis, ac yn gwneud unrhyw fân newidiadau sydd eu hangen.
Hyd yma, rydyn ni wedi canolbwyntio ar y grantiau peiriannau sy’n cael eu defnyddio amlaf. Y flwyddyn nesaf, bydd mwy o safonau peiriannau’n cael eu cyflwyno. Mae yna dipyn go lew yn dal i’w wneud, ond mae hwn yn ddechrau da.
Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r newidiadau a wnaed, yn enwedig y gweithgorau, a oedd yn cynnwys cyflogwyr, darparwyr a ffederasiynau, sydd, ynghyd â’n tîm, yn llunio’r safonau hyfforddi newydd hyn ar gyfer peiriannau.
Os hoffech chi fod yn rhan o’r gweithgorau hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddem yn croesawu eich cyfraniad. Fy nghyfeiriad e-bost yw: Emily.Tilling@citb.co.uk
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth